CYF: 66-2205-2411514 - Opsiynau figan / llysieuol

Dy sylw: There are not enough vegetarian/vegan options in TaMed Bach, Chef’s Table in the Food Hall and the SU shop. A couple of my friends who are vegetarian only seem to be able to choose from one or two different sandwiches/meals.

Ein hymateb:

Diolch am eich sylw Rho Wybod Nawr.

Mae Bwrdd Cogydd Tamed Da bob amser yn cynnwys 4 prif gwrs ar gyfer pob gwasanaeth, gydag un yn figanaidd ac un yn llysieuol.

Yn siop goffi TaMed bach rydym ni’n gweini detholiad mawr o roliau neu basteiod poeth, gyda 50% o’r rhain yn llysieuol ac yn figanaidd. Er enghraifft ceir rholiau selsig figanaidd a rholiau brecwast amrywiol llysieuol a figanaidd er enghraifft wy a hash brown neu muffin Selsig Quorn ac wy. Hefyd mae gennym bastai Figanaidd sbigoglys, feta, pwmpen cnau menyn, stêc ddi-gig seiliedig ar blanhigion fferm wedi’i phupuro, Proper Cornish Vegan Pasty, rhol Pizza Llysieuol i enwi ychydig yn unig. Hefyd mae gennym datws trwy’u crwyn a seigiau Ramen (nwdls) sy’n opsiynau figanaidd a llysieuol. Hefyd mae cawl y dydd bob amser yn gawl figanaidd.

Rydym ni hefyd yn gweini amrywiol frechdanau a wraps sy’n dod o’r tu allan a chaiff y rhain eu harchebu gyda chymhareb 50/50 o lenwadau llysieuol neu figanaidd/cig.

Yn siop Undeb y Myfyrwyr unwaith eto mae gennym ni amrywiol eitemau poeth sydd bob amser yn 50% llysieuol. Mae hyn yn cynnwys rholyn cig poeth, fydd ag opsiwn o lenwad llysieuol hefyd. Hefyd mae gennym ddetholiad o frechdanau a rholiau llysieuol a figanaidd.

Yn ogystal â hyn mae gennym fwydlen sydd ar gael i’w harchebu drwy Nosh Da, sy’n cynnwys nifer o opsiynau figanaidd a llysieuol, y gellir eu harchebu yn y Neuadd Fwyd neu eu danfon atoch ar y campws. https://vinestudent.io/outlets/nosh-da Unwaith eto, mae 50% o’r fwydlen yn llysieuol neu figanaidd.

I gael rhagor o wybodaeth cyflwynwch eich hun a’ch cydweithwyr i aelod o staff er mwyn iddyn nhw esbonio’r opsiynau llysieuol neu figanaidd sydd ar gael ar y diwrnod hwnnw.