CYF: 66-2211-8193902 - Caffi IBERbach: rhagor o opsiynau figan

Dy sylw: More vegan food options (especially in Ibers cafe)

Ein hymateb:

Diolch i chi am eich adborth ynghylch y dewis o fwyd figan sydd ar gael. Gallwch weld rhestr lawn o'r dewis sydd gennym yn https://www.aber.ac.uk/en/hospitality/vegan-options/  

Fodd bynnag rydym wrthi drwy'r amser yn adolygu'r opsiynau sydd ar gael yn dibynnu ar y galw gan gwsmeriaid, beth sydd ar gael ar y farchnad a chyfyngiadau gweithredu. Fe wnaethoch chi sôn yn benodol am IBERbach, lle mae gennym ddewis o frechdanau, cawl, cacennau a diodydd figan. Byddwn yn edrych ar hyn eto i weld a allwn ehangu'r dewis. Fodd bynnag gan mai caffi bach yw hwn lle mae'r rhan fwyaf o eitemau wedi eu pacio'n barod, rydym wedi'n cyfyngu yn yr hyn y gellir ei brynu. Diolch yn fawr i chi am eich sylwadau ac mae pob croeso i chi gysylltu eto os hoffech gwrdd i drafod hyn yn fanylach gyda ni.