CYF: 66-2306-944302 - Hiraethu am Nosh Da

Dy sylw: Please bring back Nosh Da! It filled a good gap for Uni food delivery, and the food was fairly good, despite the menu becoming unreliable shortly before the service was stopped.

Ein hymateb:

Diolch i chi am eich sylw 'Rho Wybod Nawr' am wasanaeth danfon bwyd Nosh. Daeth hwn i ben ym mis Mehefin 2022 ac ni chafodd ei ailddechrau ar ddechrau'r flwyddyn hon am fod y galw wedi gostwng ar ôl i gyfyngiadau COVID lacio. Er mwyn gwneud iawn am hyn, rydym wedi newid amseroedd ein gwasanaeth a'n steil er mwyn gallu cynnig bwyd poeth yn y Neuadd Fwyd 7 diwrnod yr wythnos, a hyd at 9 o'r gloch gyda'r nos hefyd.  

Er mwyn i ni allu cynnig y gwerth gorau i fyfyrwyr (gan gynnwys pryd poeth am £ 2.50) teimlir mai'r ffordd orau o gyflawni hyn yw cadw ein costau cyn ised â phosib er mwyn sicrhau y gallwn gynnig ein bwyd am y pris isaf posib. Yng ngoleuni costau presennol gwasanaeth danfon bwyd, yn ogystal â'r cynnydd yn nifer y gwasanaethau danfon bwyd eraill sydd ar gael i fyfyrwyr, teimlwyd nad oedd angen i ni fod yn rhan o'r farchnad hon gan nad oedd o fudd i'r myfyrwyr. 

Er ein bod yn diolch i chi am eich sylwadau, nid oes gennym unrhyw gynlluniau i ailgyflwyno'r gwasanaeth hwn ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn adolygu'r gwasanaethau a ddarperir i fyfyrwyr yn gyson yn unol â'u hanghenion, felly os bydd hyn yn newid yna byddwn wrth gwrs yn ailedrych ar y sefyllfa.