CYF:66-2102-9641302- Deunyddiau darllen ar-lein

Dy sylw: Limited e books available for psychology e.g Conceptual and Historical Issues. Would be very useful if all the essential books for each module could be uploaded as a pdf/ if allowed to considering circumstances

Ein hymateb:

Diolch am eich neges - rydym wastad yn gwerthfawrogi cael adborth fel y gallwn ymchwilio i unrhyw broblemau. Rydym wedi gwirio'r rhestr ddarllen ar gyfer modiwl PS11820 ac wedi gwneud rhai addasiadau felly dylai'r holl fyfyrwyr allu gweld y fersiynau ar-lein, pan fo e-lyfrau ar gael. Dylid nodi mai dim ond 4 eitem nad ydynt ar gael fel e-lyfrau sydd ar y rhestr ddarllen ar gyfer y modiwl hwn erbyn hyn. Yn anffodus, nid yw'n bosibl prynu e-lyfrau ar gyfer pob llyfr bob amser - boed hynny oherwydd hawlfraint neu oherwydd bod y gost yn atal hynny. Fodd bynnag, rydym wedi archebu rhagor o gopïau o lyfr Piekkola, Conceptual and historical issues in Psychology. Mae'n werth nodi hefyd, wrth wirio eich rhestrau darllen, ei bod yn hollol bosibl bod fersiynau ar-lein ar gael yn Primo  nad ydynt o reidrwydd yn cael eu dangos ar y rhestr ddarllen Aspire. Y ffordd orau o wirio hyn yw clicio ar deitl y llyfr, yna clicio ar ‘view other formats/editions’. Yna fe welwch yr holl argraffiadau a'r ffurfiau o'r llyfr sydd ar gael yn Primo.