CYF:66-2009-9954230 - Benthyca trwy Glicio a Chasglu

Dy sylw: Can we have more books available on the click and collect service from Hugh Owen? The limit of 10 is a bit daft for 3 third year modules, especially when I have to pre-book slots to go and pick them up.

Ein hymateb:

Diolch am eich sylw. Mae'r terfyn yn berthnasol i nifer y ceisiadau 'byw' y gallwch eu cael ar unrhyw un adeg, yn hytrach na'r nifer y gallwch eu cael yn ystod y tymor ar ei hyd. 

Dim ond y llyfrau y mae arnynt eu hangen ac y maent wrthi'n eu defnyddio ar hyn o bryd y dylai defnyddwyr wneud cais amdanynt a'u benthyca.

Gall defnyddiwr arall wneud cais am unrhyw lyfr yr ydych yn ei fenthyca o'r llyfrgell ac yna byddai angen ichi ei ddychwelyd, boed chi wedi cael cyfle i'w ddarllen ai peidio. 

Mae angen i lyfrau sy'n cael eu dychwelyd fod mewn cwarantin am 72 awr, ac mae hynny'n golygu nad ydynt ar gael yn ystod y cyfnod hwnnw.

Trwy gyfyngu nifer y ceisiadau ar un adeg rydym yn gobeithio y bydd defnyddwyr yn fwy dethol o ran yr hyn y maent yn gwneud cais amdano.