CYF: 66-2211-6986230 - Allanfa Llawr E, Llyfrgell Hugh Owen

Dy sylw: In the library computer room (next to group room 3) there is an exit that would be great to allow people to walk in and out of as it will be quicker for students to access the library rather than walking around and back up. I understand the need to check people aren't taking books out so there could be scanners by the entrance to the room or by the actual exit.

Ein hymateb:

Diolch yn fawr iawn am eich awgrym am gael allanfa i ddefnyddwyr y llyfrgell yn yr ystafell gyfrifiaduron. 

Yn anffodus, mae nifer o resymau nad yw hyn wir yn opsiwn i ni. Yn gyntaf, byddem yn poeni am yr effaith y byddai unrhyw allanfa yn y lleoliad hwnnw yn ei gael ar unrhyw un o'n defnyddwyr sy'n gweithio yn yr ardal honno. Hefyd, fel yr ydych yn ei nodi, byddai angen i ni osod set o giatiau diogelwch wrth unrhyw fynedfa newydd, ac mae hyn yn rhywbeth nad oes gennym ddarpariaeth ar ei gyfer o fewn ein cyllideb.  Byddai hefyd angen i ni gael aelod o staff yno i reoli unrhyw achosion o seinio’r larwm, rhywbeth nad oes gennym y gallu i'w wneud. 

Diolch eto am roi o’ch amser i rannu eich awgrym.