CYF: 66-2309-3388325 - Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol

Dy sylw: I dislike that a large number of the books from the Physical Sciences library have been removed and I've heard that it might be closed completely soon.

Ein hymateb:

Diolch am eich adborth. Nid oes unrhyw lyfrau wedi'u tynnu o'r Llyfrgell Gwyddorau Ffisegol. Rydym wedi cael gwared ar rediadau print o gyfnodolion lle mae gennym fynediad electronig. Mae hyn yn unol â'n Polisi Casgliadau.


Does dim gwirionedd i'r si y bydd y llyfrgell yn cau. Gwnaethom ofyn y cwestiwn 'a fyddai myfyrwyr yn cael eu gwasanaethu'n well pe bai'r casgliadau yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol yn cael eu trosglwyddo i Lyfrgell Hugh Owen oherwydd bod hyn yn darparu gwell hygyrchedd’? Mae Llyfrgell Hugh Owen ar agor 24/7 ac yn darparu mynediad gwastad i ddefnyddwyr cadair olwyn.


Ein nod yw rhoi arolwg i'r myfyrwyr y tymor hwn i gael eu barn ar y mater hwn a sut y gellid gwella Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol. Bydd yr arolwg yn cael ei gyd-ddylunio a'i gyd-gyflwyno gan y llyfrgell a chynrychiolwyr myfyrwyr a staff o’r adrannau Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg. Cadwch lygad allan amdano gan fod eich barn yn bwysig i ni.