CYF: 66-2309-9302420 - Amseroedd aros Llyfrgell Hugh Owen

Dy sylw: Wait times for computing help are too long in the Hugh Owen library. Staff are spending too long with each customer, being friendly is good but not when there's a big queue.

Ein hymateb:

Diolch i chi am eich adborth am yr amseroedd aros ar gyfer y ddesg gymorth cyfrifiaduron.

Rydym yn monitro amseroedd ymateb a'r gwasanaeth a ddarperir yn ein holl bwyntiau cymorth yn barhaus. Mae yna adegau pan fydd mwy o alw am gymorth wyneb yn wyneb yn ein Desg Wasanaeth. Mae ein staff bob amser yn ceisio darparu gwasanaeth mor effeithlon â phosibl, ond mae rhai ymholiadau'n cymryd mwy o amser. Rydym hefyd yn darparu cymorth dros y ffôn, e-bost a sgwrsio ar-lein felly byddem yn awgrymu, os na allwch aros am gymorth wyneb yn wyneb, eich bod yn defnyddio un o'r dulliau amgen hyn.

Diolch yn fawr.