CYF: 66-2505-2098904 - Hybiau Monitor a Cheblau HDMI
Dy sylw: It would be great if the Monitor hubs in Hugh Owen library had HDMI cables as well as USB-C cables, I know that they can be borrowed from the desk but it would be more convenient if they were already installed/available at the hubs
Ein hymateb:
Diolch am eich e-bost.
Ceir gwybodaeth am yr hybiau monitor yma: Hybiau Monitor : Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth
Rydym yn darparu dau fath gwahanol o hwb - un sy'n gweithio gydag USB-C ac un sy'n gweithio gyda HDMI. Mae'r rhain wedi'u labelu.
Mae USB-C yn gweithio'n wahanol i HDMI. Ar yr hybiau USB-C mae'r bysellfwrdd a'r llygoden eisoes wedi'u plygio i'r hwb a dim ond un cebl y mae'n rhaid i ddefnyddwyr gysylltu â'u gliniadur - gan adael y bysellfwrdd a'r llygoden wedi'u plygio i'r hwb.
Ar yr hybiau HDMI, bydd yn rhaid i ddefnyddwyr blygio tri chebl ar wahân i'w dyfais i wneud ddefnyddio’r monitor, y bysellfwrdd a'r llygoden.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach, mae croeso i chi gysylltu â ni