CYF:66-2110-706404 - Mynediad i gyfleusterau golchi dillad

Dy sylw: We need more washing and drying machines for rosser/treflyone as currently there is only 4 of each for 6 blocks and about 400 to 500 people. Last year, one or two machines were constantly not working and with that amount of people the machines that did work were almost always in use. It would be nice to get at least 6 of each machine total, but preferably maybe 8 of each. I feel like this would definitely benefit everyone living in rosser/trefloyne massively.

Ein hymateb:

Diolch yn fawr am fynegi eich pryderon ynglŷn â'r ddarpariaeth golchi dillad i fyfyrwyr sy'n byw yn Trefloyne a Rosser. Rwyf wedi siarad â'n cyswllt yn Circuit Laundry ac wedi cael gwybod nad yw'r ystafell olchi dillad yn Rosser/Trefloyne yn cael ei defnyddio ddigon ar sail y ffigurau defnydd. Gweler y ddolen isod i Circut View, lle gallwch weld  pa bryd mae'r peiriant ar gael a gweld pa bryd y defnyddir y peiriannau amlaf er mwyn i chi gael cynllunio pa bryd i'w defnyddio. Dilynwch y ddolen hon i gael y wybodaeth: https://www.circuit.co.uk/circuit-view/laundry-site/?site=6529 

Os byddwch yn cyrraedd i olchi eich dillad a dim peiriannau ar gael yn Rosser/Trefloyne – cewch hefyd ddefnyddio'r ystafell olchi dillad yng Nghwrt Mawr, a chewch hefyd weld oes peiriant ar gael yn y fan honno ar y ddolen uchod. O ran diffygion gyda'r peiriannau - rydym wedi cwblhau archwiliad ar y safle i weld pa beiriannau sydd wedi torri a mynd ar ôl hyn gyda'n cyswllt yn Circut Laundry. Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw beiriannau nad ydyn nhw'n gweithio, defnyddiwch y ffôn yn yr ystafell olchi dillad i roi gwybod am y broblem - neu rhowch wybod i swyddfa'r llety dros e-bost a byddwn yn sicrhau bod Circut yn cael gwybod yn brydlon. Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bostio llety@aber.ac.uk