CYF:66-2110-2718819 - Cadw drysau ar agor

Dy sylw: The bedroom doors in Cwrt Mawr are unable to be left ajar due to fire regulations. This is pretty isolating in the absence of a communal area, and may well have a negative effect on residents mental health.

Ein hymateb:

Diolch yn fawr am godi'r mater hwn. Mae drws eich ystafell wely yn ddrws tân. Er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r rheoliadau tân ni ddylid cadw'r drws hwn ar agor ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, yng Nghwrt Mawr mae'r gegin gymunedol a'r lle bwyta ar gael i chi er mwyn i chi gael cymdeithasu â'ch cyd-letywyr. Rydym hefyd bellach wedi agor ein mannau astudio/cymdeithasol ar draws y neuaddau preswyl – a chewch fynediad i'r rhain gyda'ch Cerdyn Aber. Mae’r mannau astudio/cymdeithasol canlynol ar agor 24/7, mae lolfa Rosser wedi’i lleoli o dan floc D Rosser, mae bloc cyfleusterau PJM yng nghanol PJM, mae’r ffald o dan floc 2 yn Fferm Penglais ac mae caffi’r Sgubor ar agor tan 10pm bob nos. Er eich bod yn byw yng Nghwrt Mawr, cewch ddefnyddio pob un o'r lleoedd hyn. Os hoffech chi drafod y mater hwn ymhellach, e-bostiwch llety@aber.ac.uk Diolch yn fawr