CYF: 66-2212-7103609 - Cystadlu yn Superteams

Dy sylw: For Superteams because it's so popular would it be possible to make the allocations a bit fairer? One suggestion would be to limit all clubs/socs to one team for the mens and one team for the womens, then open it up to having multiple teams per club/soc after a couple of hours or days? This way it would ensure more clubs/socs could have teams participating, thus making it more fun, rather than some clubs having 4 teams while others are unable to get a single team despite logging on for when registration opened. Thank you!

Ein hymateb:

Rydyn ni wedi ystyried sawl ffordd dros y blynyddoedd i geisio gwneud cystadlu yn Superteams yn decach, ond rydyn ni’n credu mai’r opsiwn tecaf yw lwc llwyr fod eich enw yn cael ei ddewis wrth gofrestru ar-lein. Mae’n ddigwyddiad hynod o boblogaidd ac oherwydd hyn rydym yn llwyr werthfawrogi na fydd pob myfyriwr yn gallu cymryd rhan, a gall fod yn rhwystredig os yw'n edrych fel petai rhai grwpiau o fyfyrwyr wedi cael mwy o dimau nag eraill. Fodd bynnag, mae Superteams yn ddigwyddiad i'r corff myfyrwyr cyfan ac nid yn ddigwyddiad penodol i glybiau a chymdeithasau, felly pe baem yn cyfyngu ar geisiadau yn ôl y clwb neu gymdeithas maent yn rhan ohonynt, byddai’n golygu ein bod yn mynd â'r cyfle i allu cystadlu oddi ar rai myfyrwyr (nad ydynt yn rhan o grwpiau myfyrwyr). Gallai grwpiau myfyrwyr sydd yn ffodus o allu cael mwy nag un tîm yn y pen draw ymuno fel grŵp o ffrindiau ac nid dan enw eu clwb/cymdeithas a byddai’n amhosibl rheoli hynny.

Rhaid cofio hefyd fod gennym dros 120 o glybiau a chymdeithasau a dim ond lle ar gyfer 28 o dimau merched a 28 tîm dynion, felly byddai cynnig tîm fesul clwb neu gymdeithas yn anymarferol oherwydd petai pob clwb/cymdeithas yn cofrestru ni fyddai gennym le i bob un. Mae'n ddrwg gennym glywed nad oeddech wedi gallu cael tîm i gystadlu. Pe gallem ei wneud yn fwy o faint o ran logisteg byddem yn sicr yn gwneud hynny! Os hoffech gymryd rhan yn y digwyddiad drwy ffyrdd eraill, rydym yn chwilio am fyfyrwyr i wirfoddoli i helpu yn y digwyddiad. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â'n Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr ar suopportunities@aber.ac.uk