CYF: 66-2304-6336627 - Mwy o Fysiau Undeb y Myfyrwyr

Dy sylw: The SU minibuses are great but I think they should invest in at least a couple more with maybe an automatic one and one with similar requirements to the 9 seater. Given that most activities take place outside of Aber it would really help a lot.

Ein hymateb:

Prynhawn da. Diolch am eich adborth. Rydym yn hynod falch eich bod yn gweld bysiau mini Undeb y Myfyrwyr yn ddefnyddiol ar gyfer eich gweithgareddau. Mae’r bysiau mini wedi bod yn arbennig o boblogaidd eleni ymysg grwpiau myfyrwyr a grwpiau cymunedol. Mae’r galw wedi bod yn uwch nag erioed, sydd wedi golygu bod nifer o achosion o grwpiau yn methu eu benthyg ar adegau prysur yn anffodus (e.e. yn ystod y penwythnos). Byddwn yn adolygu ein prosesau ar gyfer bysiau mini cyn bo hir a bydd eich sylw yn rhan o’r ystyriaeth. Yn anffodus mae’r cerbydau yn gofyn llawer o arian ac amser i’w rhedeg ac felly mae llawer i’w ystyried o ran cyllidebu ac ati.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill neu adborth arall, mae pob croeso i chi gysylltu’n uniongyrchol â’r tîm cyfleoedd.