CYF: 66-2505-3639102 - Cymdeithasau ac Archebu Ystafelloedd

Dy sylw: I think more support or training should be implemented to help societies find rooms and locations for their meetings. Many societies operate on a low budget and hence require free facilities or areas to use. While there are rooms in Pantycelyn, these rooms are often booked out quickly or have a small capacity or lack the facilities that the society needs. For example, It could be good if the Parry Williams or Art Centre Cinema could be booked out for cinema screenings, or classrooms made available for booking.

Ein hymateb:

Helo, diolch yn fawr am eich sylw Rho Wybod Nawr. Mae yna lawer o opsiynau i archebu ystafelloedd am ddim y gall cymdeithasau eu defnyddio eisoes. Ydych chi wedi siarad â Chydlynydd y Cymdeithasau yn yr Undeb? Gan y byddant yn gallu cynghori a chefnogi'n briodol (e-bostiwch susocieties@aber.ac.uk) neu ewch i'r Swyddfa Cyfleoedd yn yr Adeilad UM.
Er gwybodaeth, mae'r opsiynau hyn yn cynnwys:
• Undeb y Myfyrwyr: Prif Ystafell, Tŷ Lluniau, Ystafelloedd Cyfarfod 1-6 (gellir eu harchebu yma neu drwy e-bostio union@aber.ac.uk)
• Pantycelyn: Ystafelloedd Cyfarfod 1-2, Ystafell Gyffredin Hŷn, Ystafell Astudio 1 a’r Lolfa Fach (gellir eu harchebu yma neu drwy e-bostio union@aber.ac.uk)
• Ystafelloedd y Brifysgol: Ystafelloedd Dysgu Canolog gan gynnwys Cledwyn, Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Parry Williams ac ati, yn ogystal â lleoliadau eraill y gellir eu harchebu yn y Brifysgol gan gynnwys Llyfrgell Hugh Owen (gellir eu harchebu yma neu drwy e-bostio attstaff@aber.ac.uk) 
Dydw i ddim yn ymwybodol bod sinema Canolfan y Celfyddydau ar gael yn rhad ac am ddim i'w defnyddio gan gymdeithasau mae arna’ i ofn. Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu sinema Canolfan y Celfyddydau, fodd bynnag, byddwn yn argymell eich bod yn cysylltu â hwy'n uniongyrchol gan nad yw Undeb y Myfyrwyr yn gallu pennu eu gwasanaethau. Fodd bynnag, gellir archebu'r Tŷ Lluniau yn UM a gellir dangos ffilmiau trwy'r taflunydd i gymdeithasau gyflwyno nosweithiau ffilm i'w haelodau.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach am gymdeithasau, anfonwch e-bost at Gydlynydd y Cymdeithasau ar susocieties@aber.ac.uk neu'ch Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr etholedig ar actstaff@aber.ac.uk