Cadarnhad o Ddiddordeb mewn BMG

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein hon i gadarnhau eich diddordeb mewn cymryd rhan yn y Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG). Nid yw cwblhau'r ffurflen yn eich ymrwymo i unrhyw beth, ond mae'n golygu y gallwn nawr weithio gyda'n gilydd i ddatblygu'r diddordeb hwn ymhellach, ac i'ch helpu i ddod o hyd i leoliad addas.

Cyn llenwi'r ffurflen hon, rydym yn argymell eich bod, yn gyntaf, yn trafod eich diddordeb mewn BMG gydag aelod o staff y Gwasanaeth Gyrfaoedd (dim ond e-bost gyrfaoedd@aber.ac.uk i drefnu amser) a sicrhau eich bod wedi darllen y Canllaw Cam wrth Gam a'r Ffeithlen BMG sydd ar gael yn www.aber.ac.uk/BMG.