Tîm Lles
Mae Gwansanaeth Lles Aberystwyth yn system gymorth wedi'i chynllunio i wella lles cyffredinol aelodau ein cymuned a sicrhau eu bod yn cael y gorau o'u hamser ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ein gwasanaeth yn cynnig amrywiaeth o adnoddau gan gynnwys opsiynau cwnsela, adnoddau ar-lein, a gwasanaeth galw heibio dyddiol i ymdrin ag anghenion myfyrwyr. Lle bo'n briodol, rydym yn cydweithio â'n partneriaid lleol a gwasanaethau statudol i helpu myfyrwyr i gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae ein tîm o weithwyr proffesiynol profiadol yn ymroddedig i hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol, meithrin gwytnwch, a grymuso unigolion i gael profiad cadarnhaol o fywyd Prifysgol.
Pa gymorth ydyn ni'n ei gynnig?
Cymorth cwnsela:
Rydym yn cynnig gwasanaeth un-ar-y-tro (UAYT) y gallwch wneud cais amdano drwy lenwi ein Ffurflen Gofrestru Lles ar-lein.
Rydym yn cynnig apwyntiadau o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor a thros wyliau'r haf, 9yb tan 5yp.
Beth i'w ddisgwyl gan y gwasanaeth un-ar-y-tro?
Mae ein gwasanaeth yma i gynnig gofod cynnes, cefnogol a di-feirniadol lle gall myfyrwyr ystyried eu meddyliau a'u teimladau ar unrhyw faterion sy'n effeithio ar eu hastudiaethau academaidd ar hyn o bryd.
Mae ein cwnsleriaid yn cynnig apwyntiadau un-ar-y-tro (UAYT) a bydd pob sesiwn yn para hyd at 50 munud, naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein trwy Microsoft Teams.
Yn ystod y sesiwn hon, bydd cwnsleriaid yn gweithio gyda chi i ystyried eich anghenion, nodi amcan ar gyfer y sesiwn a chanolbwyntio ar adeiladu ar eich cryfderau presennol. Y nod yw eich cefnogi mewn ffordd gadarnhaol a rhagweithiol, gan eich helpu i ymgysylltu'n fwy hyderus â'ch astudiaethau a'ch bywyd prifysgol. Ar ddiwedd y sesiwn, byddwn yn anfon crynodeb o'r camau gweithredu a drafodwyd yn eich apwyntiad atoch.
Os hoffech sesiwn arall, gallwch archebu un ar ôl saib argymelledig o 2-6 wythnos - mae hyn yn rhoi amser i chi fyfyrio a rhoi cynnig ar y strategaethau a'r camau gweithredu a drafodwyd yn eich sesiwn flaenorol. Os hoffech apwyntiad dilynol ar ôl chwe wythnos, bydd angen i chi lenwi'r ffurflen gofrestru eto.
Opsiynau am Gymorth Parhaus
Ar gyfer myfyrwyr y byddai'n well ganddynt weithio ar eu problemau dros floc o sesiynau wedi'u cynllunio, bydd cwnsleriaid yn cefnogi trwy gyfeirio at sefydliadau allanol. Gall myfyrwyr hunan-gyfeirio at Area 43, gwasanaeth cwnsela ar-lein lleol, sy'n cynnig cwnsela parhaus i'r rhai dan ddeg ar hugain sydd wedi'u cofrestru gyda meddyg teulu yng Ngheredigion.
Cymorth i Gysylltu â Meddyg Teulu:
Eich cynorthwyo i lywio drwy’r broses o gysylltu â Meddyg Teulu ar gyfer eich anghenion iechyd.
Gwasanaethau Statudol Lleol:
Darparu gwybodaeth a chymorth i fanteisio ar y gwasanaethau statudol lleol sydd ar gael i chi.
Proses Cymorth i Astudio:
Cynnig cymorth i lywio a chael mynediad at wasanaethau cymorth academaidd. Polisi Cymorth i Astudio i gael rhagor o wybodaeth: Cymorth i Astudio
Cyswllt â Grwpiau Cymorth Lleol:
Eich cysylltu chi â grwpiau cymorth lleol perthnasol i wella eich lles cyffredinol.