Mewn Argyfwng Nawr?
Os oes Argyfwng Iechyd Meddwl yn digwydd ac mae pryder ynglŷn â diogelwch, rydym ni'n argymell gofyn am help cyn gynted â phosib. Gall ein siartiau llif Iechyd Meddwl eich helpu i gyrraedd at y cymorth cywir, yn ogystal â'r rhestr o gysylltiadau brys isod.
Iechyd Meddwl Canllaw Poced (PDF)
Os oes unrhyw un yn pryderu ynglŷn â'i ddiogelwch ei hun neu am ddiogelwch pobl eraill, rydym yn argymell cysylltu â chymorth brys drwy ddefnyddio'r cysylltiadau isod cyn cysylltu â'n gwasanaeth ni:
- Eich meddyg teulu lleol - neu wasanaeth tu allan i oriau meddyg teulu - ffoniwch eich meddygfa ac fe gewch eich cyfeirio
- GIG 111 Cymru - Mae galwadau i GIG 111 Cymru yn rhydd o linellau tir a ffonau symudol
- Ewch i'ch adran Damweiniau ac Achosion Brys leol - Ysbyty Bronglais os ydych chi yn Aberystwyth
- Deialwch 999
- Llinell gymorth y Samariaid am ddim: 116 123, Llinell Gymraeg 0300 123 3011 E-bost jo@samaritans.org. Gwefan samaritans.org
Mae tîm diogelwch safle Aberystwyth, sydd ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, hefyd yn argymell eich bod yn ffonio 999 mewn argyfwng, cyn cysylltu â'r tîm Diogelwch ar 01970 622649 neu symudol 07889 596220 os yw'r gwasanaethau brys ar y ffordd i'r campws.
Cynghorir eich bod yn cysylltu âni ar ôl i'r cymorth brys cywir gael ei ddefnyddio er mwyn i ni allu helpu wedyn gydag unrhyw effaith y bydd y mater hwn wedi ei chael ar eich bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth.