Canllawiau Cyswllt Dibynadwy
Beth yw cyswllt dibynadwy?
Cyswllt dibynadwy yw’r person a enwebir gan fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth i fod yn rhywun y gellir cysylltu ag ef os oes pryderon difrifol am ddiogelwch a/neu les y myfyriwr. Mae'n debygol y bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn dewis rhiant, gofalwr, neu aelod o'u teulu fel cyswllt dibynadwy. Er hyn, gall y cyswllt dibynadwy fod yn rhywun arall os ydynt dros 18 oed ac yn cytuno i gyflawni’r swyddogaeth hon.
Fel arfer, ni ddylai’r cyswllt dibynadwy fod yn fyfyriwr arall o Brifysgol Aberystwyth nac yn aelod o staff, oni bai eu bod hefyd yn rhiant/gofalwr/partner/aelod agos o'r teulu.Dewis ein myfyrwyr yw eu cyswllt dibynadwy ond rydym yn argymell bod y person a ddewisir yn rhywun mae’r myfyriwr yn ymddiried ynddo ac yn teimlo’n gyfforddus yn gofyn iddo am help a chefnogaeth.