Ffair Cyfleoedd Byd-Eang 2025

 

Dydd Gwener 14 Tachwedd, Medrus Mawr

Oes gennych chi ddiddordeb mewn treulio amser dramor yn rhan o'ch astudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Mae pob myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael cyfle i astudio, gweithio, neu wirfoddoli dramor.

Ymunwch â'r Tîm Cyfleoedd Byd-eang ddydd Gwener 14 Tachwedd 10yb – 4.30yp ym Medrus Mawr i ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael gan fyfyrwyr sydd eisoes wedi treulio amser dramor, a chan fyfyrwyr sydd ar hyn o bryd ar gynllun cyfnewid yn Aberystwyth o'n prifysgolion partneriaethol o bob cwr o'r byd.

Bydd y Tîm Cyfleoedd Byd-eang hefyd ar gael i roi gwybod i chi sut mae'r cyfan yn gweithio a rhoi cyngor personol i chi ar ba gyfleoedd sydd ar gael yn benodol i chi.

Mae'r digwyddiad hwn yn agored i'r holl fyfyrwyr a staff ac fe’i cynhelir trwy gydol y dydd. Mae croeso i chi alw heibio rhwng darlithoedd neu yn ystod eich awr ginio a byddwch yn siŵr o gael croeso cynnes.