Addewid Cynaliadwyedd Cyfleoedd Byd-eang

 

Gwnewch eich rhan i ddod yn deithiwr ymwybodol a llofnodwch yr addewid.

Er bod astudio dramor yn brofiad gwerthfawr a bythgofiadwy, mae'n bwysig cydnabod effaith teithio ar y blaned. Mae Cyfleoedd Byd-eang yn annog myfyrwyr i weithredu er mwyn lleihau eu hôl troed carbon wrth gymryd rhan yn y cyfleoedd anhygoel hyn.

Teithio'n araf, meddwl yn 'Wyrdd'

Oeddech chi'n gwybod bod taith awyren uniongyrchol o Firmingham i Baris yn allyrru tua 1.2 tunnell o allyriadau CO2? Bydd dewis dulliau trafnidiaeth amgen, megis yr Eurostar yn lleihau eich ôl troed carbon yn aruthrol. Os nad oes modd i chi osgoi teithio mewn awyren, ceisiwch brynu eich tocynnau gan gwmnïau hedfan sy'n gadael i chi wrthbwyso carbon neu sy'n ymwybodol o garbon.

Mae cymryd yr amser i deithio'n araf yn rhoi'r cyfle i chi weld mwy a theithio i leoedd na fyddech chi'n eu gweld o deithio mewn unrhyw ffordd arall.

Arbed, Ailddefnyddio, Ailgylchu!

Fel arfer, defnyddir llai o blastig wrth brynu gan gynhyrchwyr lleol. Gallwch ddod o hyd i lawer o eitemau teithio y gellir eu hailddefnyddio yn eich siop awyr agored leol. Mae llawer o eitemau'n fach a gellir eu rhoi yn eich yn bag ar eich cefn yn hawdd er mwyn eu defnyddio ar eich taith.

Gall camau bach fynd yn bell - bydd yn lleihau eich defnydd o blastig untro ac yn arbed arian i chi.

Byw fel rhywun lleol!

Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n ymwybodol o'r gymuned yn ffordd wych o ymdrwytho yn y bywyd lleol. Mae'n ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned. Beth am gymryd rhan mewn digwyddiad glanhau traeth, neu helpu mewn canolfan fwyd leol?

Mae dysgu am yr iaith, hanes neu arferion lleol yn gymorth i greu atgofion unigryw. Gofynnwch gwestiynau – mae'n debygol y bydd pobl leol yn fwy na pharod i'ch dysgu am eu bywyd a'u diwylliant. Parchwch gyfreithiau a chanllawiau lleol, o reolau traffig i iechyd a diogelwch. Mae ychydig o barch yn mynd yn bell.