A allaf astudio PhD trwy Ddysgu o Bell?

Dim ond ar sail amser llawn neu ran-amser y gellir astudio rhaglenni PhD. Mae Dysgu o Bell yn cyfeirio at ddull penodol o gyflwyno rhaglenni a addysgir o bell, yn hytrach na'r dull darlithio traddodiadol. 

Rhaid i fyfyrwyr PhD amser llawn wneud eu hymchwil a bod yn byw o fewn pellter teithio rhesymol i Aberystwyth am o leiaf 44 wythnos y flwyddyn. Fodd bynnag, nid oes rhaid i fyfyrwyr ymchwil rhan-amser fod yn byw yn Aberystwyth. Mae rhagor o fanylion am ofynion preswylio’r brifysgol y mae’n rhaid cadw atynt ar gael yn: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/regulations/student-rules-regs/