Celf a Ffotograffiaeth

Gall ein cyrsiau Celf a Ffotograffiaeth eich paratoi am yrfa yn y celfyddydau – yn arlunydd, darlunydd, ffotograffydd neu nifer o swyddogaethau creadigol eraill. Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen a llwyddo mewn amrywiaeth helaeth o gyfryngau, gan gynnwys paentio, cerflunio, dylunio, ffilm, a ffotograffiaeth. 

Trwy astudio am un o’n graddau Celf a Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn datblygu gallu i ddehongli’r byd o’ch cwmpas yn ogystal â dawn i feddwl yn feirniadol. Ar ben y manteision iechyd a lles a ddaw yn sgil y celfyddydau, byddwch yn astudio pwnc crwn a chyflawn a fydd yn eich paratoi am bob agwedd ar eich bywyd. 

Yn ogystal â chael sawl cyfle i ddangos eu gwaith yn ystod y cwrs, mae ein graddedigion wedi arddangos mewn orielau ymhob rhan o’r byd.

  • Ymhlith y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Ansawdd y Dysgu ym mhwnc Celf a Dylunio (Canllaw Prifysgolion Da 2024, The Times and Sunday Times)
  • Wrth astudio yn yr Ysgol Gelf, gallwch fanteisio ar gasgliad o gelf ac arteffactau sydd o fri rhyngwladol. Mae ein casgliad yn cynnwys tua 20,000 o brintiau, ffotograffau, darluniau, paentiadau a cherameg. Rydym yn defnyddio'r gweithiau celf gwreiddiol hyn wrth haddysgu er mwyn i chi allu meithrin gwybodaeth ymarferol am hanes celf.
  • Mae'r Ysgol Gelf yn amgueddfa gelf a achredwyd gan y llywodraeth ac mae hi’n rhedeg ei horielau ei hun. Dim ond dwy ysgol o'r fath sydd yn y DG. Oherwydd hyn mae myfyrwyr yn cael cyfle i astudio celf yn gwbl ymarferol yng nghyd-destun amgueddfa. Mae'n rhoi cyfle i ymwneud yn greadigol â hanes celf trwy guradu gweithiau o'n casgliad yn rhan o'ch cynllun gradd.

Pam astudio Celf a Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Yn yr Ysgol Gelf yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, nid dim ond sefydliad academaidd ydyn ni, rydym yn gymuned ofalgar o staff a myfyrwyr o wahanol gefndiroedd a chenedligrwydd. Gan gadw'r amrywiaeth hwn mewn cof, rydyn ni'n cynnig dewis o gyrsiau sy'n ysgogi a herio creadigrwydd, mewn Celfyddyd Gain, Ffotograffiaeth, Hanes Celf a/neu'r Celfyddydau Creadigol - cynlluniau gradd sy'n rhoi cyfle ichi gyfuno agweddau ymarferol, hanesyddol, damcaniaethol a churadurol ar astudio celf. 

Mae astudio ffotograffiaeth yn hyrwyddo meddwl beirniadol ac ymagwedd eang tuag at astudio celf. Byddwch yn ennill gwybodaeth gymhwysol a phrofiad ymarferol o dechnegau creu ac atgynhyrchu delweddau ffotograffig, a byddwch yn graddio gyda'r doniau a'r nodweddion sydd eu hangen arnoch i flodeuo yn eich maes dewisol.  

Mae'r Ysgol Gelf ym Mhrifysgol Aberystwyth yn Amgueddfa Achrededig. Mae'r Amgueddfa a'r Casgliad Cerameg yn cadw dros 20,000 o enghreifftiau o gelfyddyd gain ac addurniadol: printiau, ffotograffau, darluniau, lluniau dyfrlliw, cerameg, paentiadau a cherfluniau, yn ogystal ag arteffactau o hen Amgueddfa Gelf a Chrefft y Brifysgol - gan gynnwys deunydd archeolegol, arteffactau ethnograffig, gwydr, darnau arian, a dodrefn hynafol. 

Bydd elfen ffotograffiaeth y cwrs cyfun yn eich cyflwyno i dechnolegau a thechnegau sylfaenol ffotograffiaeth ddigidol ac analog. Byddwch yn astudio gwaith celf ffotograffig ac yn dysgu'r medrau hanfodol sydd eu hangen ar ffotograffwyr i lwyddo i dynnu delweddau sy'n siarad â'r rhai sy'n eu gweld. Wrth i'ch astudiaethau fynd rhagddynt, byddwch yn datblygu'r gallu i weithio'n fwy a mwy annibynnol. 

Byddwch yn dysgu'r technegau a'r arferion cyfoes ar gyfer curadu arddangosfeydd i safon amgueddfa a byddwch yn cyflwyno arddangosfa o'ch gwaith ffotograffig yn orielau'r Ysgol Gelf yn rhan o'ch cynllun gradd. 

Wrth astudio gyda ni, byddwch yn ymuno ag adran gelf yn y rheng uchaf yn y Deyrnas Unedig am foddhad ei myfyrwyr ac am ei llwyddiant wrth baratoi myfyrwyr i fod yn gyflogadwy. Cewch eich addysgu gan staff sy'n weithgar mewn ymchwil, a’u canfyddiadau sy'n llywio eu haddysgu. Mae ein tîm o arbenigwyr yn cynnwys haneswyr celf amlwg, curaduron ac artistiaid sy’n arddangos eu gwaith. 

Cyflogadwyedd

Mae astudio celf a hanes celf yn ysgogol o safbwynt creadigol a deallusol. Ar wahân i fod yn werth chweil yn bersonol, mae iddo hefyd lawer o fanteision ymarferol. Mae’n hyrwyddo agwedd gadarnhaol tuag at ddatrys problemau, yn datblygu doniau rhyngbersonol ac yn gwella eich gallu i ymateb a llwyddo mewn marchnad swyddi gyfnewidiol. 

Yn yr economi heddiw, mae gofyn mawr am sgiliau trosglwyddadwy ac maent yn cael eu hyrwyddo'n frwd gennym yn ystod eich astudiaethau yn yr Ysgol Gelf. Mae'r sgiliau hyn yn cynnwys y gallu i gynnal ymchwil a dehongli gwybodaeth, cyfleu syniadau, datblygu meddylfryd beirniadol a rhyngddisgyblaethol, gweithio'n annibynnol neu’n rhan o dîm creadigol, a pharhau i fod yn frwdfrydig a chanolbwyntio ar eich nodau. 

Bydd curaduron gwadd, artistiaid gwadd, a chyn-fyfyrwyr yn rhannu eu profiad ac yn eich cyflwyno i ddewis eang o bosibiliadau gyrfa. Mae achlysuron lansio arddangosfeydd a dyddiau ymweld yn rhoi cyfle i wirfoddoli a gwneud gwaith llysgenhadol am dâl. Maent yn rhoi cyfle i chi ymwneud â'r cyhoedd a dangos eich gwybodaeth a'ch arbenigedd. 

Dengys tystiolaeth fod y rhan fwyaf o'n graddedigion yn creu gyrfaoedd yn y maes o'u dewis. Maent yn eu sefydlu eu hunain yn artistiaid, haneswyr celf, curadwyr a gweinyddwyr proffesiynol. Mae ein graddedigion yn arlunwyr proffesiynol, darlunwyr llyfrau, ffotograffwyr, addysgwyr prifysgol, athrawon ysgol uwchradd, rheolwyr orielau celf ac yn curadu arddangosfeydd. Ymhlith eu cyflogwyr mae Cyngor y Celfyddydau, Academi Frenhinol y Celfyddydau, Oriel Tate, Amgueddfa Victoria & Albert, ac Ymddiriedolaeth y Casgliadau Brenhinol. 





Cyfleusterau

Yn yr Ysgol Gelf, byddwch yn gallu manteisio ar gyfleusterau addysgu o'r radd flaenaf. Mae hyn yn cynnwys sawl stiwdio eang a golau, ystafelloedd tywyll, gweithdai argraffu, ystafell Mac, yn ogystal â darlithfeydd ac ystafelloedd seminar. Mae gennym hefyd amgueddfa, orielau modern, ac archifau celf helaeth. 

Mae’r cyfleusterau hyn o fewn cyrraedd hwylus ac yn cael eu defnyddio’n helaeth wrth i ni addysgu, ac maent yn gosod yr Ysgol Gelf ar wahân i'r rhan fwyaf o raglenni gradd Celfyddyd Gain a Hanes Celf ym Mhrydain. Byddwch yn astudio celf a/neu ei hanesion a chithau wedi'ch amgylchynu gan weithiau celf o'n casgliadau amgueddfa sy'n enwog ledled y byd. 

Mae ein casgliadau'n unigryw yng Nghymru, ac o bwysigrwydd rhyngwladol, ac maent yn darparu deunydd ymchwil sylfaenol i staff, myfyrwyr ac ysgolheigion allanol. Mae casgliadau'r Ysgol Gelf yn cynnwys printiau Ewropeaidd o'r bymthegfed ganrif hyd heddiw, yn ogystal â phaentiadau, darluniau dyfrlliw a ffotograffau. Un o brif gryfderau'r casgliad yw’r daliadau cynrychioliadol sydd gennym o Grochenwaith Stiwdio Arloesol Prydeinig o ddechrau'r ugeinfed ganrif. 

Ymchwil

Mae ein staff addysgu yn artistiaid sy’n arddangos eu gwaith, yn ysgolheigion sy’n cyhoeddi eu gwaith ac yn guraduron sy’n creu amgylchfyd dysgu ysgogol yn eu gwaith. 

Mae ymchwil staff yn llywio ein haddysgu ac yn sicrhau bod y sgiliau a ddysgwch a'r wybodaeth rydyn ni'n ei rhannu yn gyfredol ac yn canolbwyntio ar ymarfer. Mae ein hymchwilwyr yn cydweithio'n rheolaidd ag amgueddfeydd, orielau a chymdeithasau proffesiynol i arddangos gweithiau celf a chyhoeddi ymchwil ag iddo gwmpas, perthnasedd ac effaith o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol. 

Er enghraifft, mae ein hymchwil ar Hugh Blaker, artist a chasglwr yn yr ugeinfed ganrif, a'r darluniau a fu ar un adeg yn ei feddiant, wedi arwain at allu cadarnhau’n hyderus mai gwaith gan Amadeo Modigliani yw un portread a fu’n destun dadl gynt. Yn ogystal â hyn rhoddwyd dealltwriaeth newydd am un cynfas y mae Amgueddfa’r Louvre wedi canfod yn ddiweddar mai ‘Sant Joseff y Saer’ ydyw, un o gampweithiau’r paentiwr Baróc Ffrengig, Georges de La Tour. Ac fe gafwyd gwybodaeth hefyd am leoliad blaenorol fersiwn gynharach o’r Mona Lisa gan Leonardo da Vinci. 

Mae agwedd sylweddol ar ein hymchwil mewn hanes celf yn ymwneud ag ailasesu gyrfaoedd artistig ac adfer arferion traddodiadol, yn enwedig y rhai sydd wedi'u hanwybyddu neu eu hesgeuluso: mae ein staff wedi cyhoeddi ar Gustave Caillebotte, paentiwr, casglwr a garddwriaethydd Ffrengig o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, y ffotograffydd ugeinfed ganrif o’r Almaen, Erich Retzlaff, a oedd unwaith yn enwog am ddarlunio tir a phobl yr Almaen, ac yn awr aelodau llai adnabyddus o’r Academi Brenhinol. Mae ein catalogau raisonné sy’n cyflwyno testun ar arlunwyr/gwneuthurwyr printiau megis Sydney Lee, Stanley Anderson a Charles Tunnicliffe yn fwy na chofnod o arddangosfeydd y gorffennol, bellach maent yn cael eu hystyried yn ddogfennau cyfeiriadol safonol. 

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang 

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.