Gwyddorau Ecolegol

Mae Ecoleg yn canolbwyntio ar y rhyngweithiadau rhwng organebau a'u hamgylchedd. Mae gwybodaeth am y rhyngweithiadau hyn yn sail i'n dealltwriaeth o sut y bydd bywyd gwyllt yn ymateb i fygythiadau amgylcheddol presennol ac yn y dyfodol, gan gynnwys llygredd, newid yn yr hinsawdd, rhywogaethau goresgynnol a dinistrio cynefinoedd. Ein cenhadaeth yw hyfforddi'r genhedlaeth nesaf a fydd yn ymateb i'r problemau hyn, gan nodi atebion a diogelu bioamrywiaeth yn y dyfodol. 

  • Ymhlith y 10 uchaf yn y DU am fodlonrwydd ym maes Ecoleg a Bioleg yr Amgylchedd (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022)

Pam astudio Gwyddorau Ecolegol ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Byddwch yn cael eich addysgu gan ecolegwyr arobryn ar fodiwlau sy'n targedu gwybodaeth a sgiliau mewn arolygu, nodi a lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd, adfer cynefinoedd, asesu bioamrywiaeth a chadwraeth, ymgynghoriaeth amgylcheddol.
  • Mae gennym staff addysgu angerddol sy'n cynnal ymchwil ym mhob maes ecoleg ac mewn gwahanol rannau o'r byd.
  • Rydym yn rhoi ffocws ar sgiliau maes a dysgu trwy brofiad.
  • Mae gennym fynediad uniongyrchol i rai lleoliadau a chynefinoedd bendigedig, gan gynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, a Pharciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog.
  • Rydym yn cynnig cyrsiau maes rhyngwladol a chyfleoedd hyfforddi.
“Mae'r cwrs Ecoleg yn Aberystwyth wedi rhoi set dda o sgiliau i mi y gallaf eu defnyddio a'u cymhwyso i'm swydd bresennol. Mae'r gwaith maes sydd yn llawer o fodiwlau'r cynllun gradd Ecoleg wedi sicrhau bod gen i brofiad o weithio mewn amgylcheddau awyr agored, sy'n angenrheidiol ar gyfer llawer o yrfaoedd ym maes ecoleg.”
Pippa Pippa BSc Ecoleg

Cyflogadwyedd

Gall astudio gwyddorau ecolegol arwain at lawer o gyfleoedd gyrfa amrywiol gan gynnwys:

  •     Swyddog Cadwraeth a Bywyd Gwyllt
  •     Asesydd bioamrywiaeth a syrfëwr cynefinoedd
  •     Rheolwr Safle
  •     Addysg ac ymgysylltu â'r cyhoedd
  •     Ymgynghoriaeth Amgylcheddol
  •     Ymchwil Ecolegol.






Cyfleusterau

Mae ein Gerddi Botaneg yn gartref i amrywiaeth eang o rywogaethau planhigion mewn tai gwydr tymherus a throfannol.

Mae’r Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion (NPPC) yn gartref i’n rhaglenni bridio planhigion sy’n arwain y byd ac mae’n darparu llwyfannau ffenoteipio o’r radd flaenaf, gyda’r nod o ddarparu atebion ffenoteipio integredig ar gyfer rhywogaethau cnwd a model allweddol.

Ymchwil

Mae’r Adran Gwyddorau Bywyd yn ganolfan ymchwil ac addysgu a gydnabyddir yn fyd-eang sy’n cynnig cyfleusterau unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang fel diogelwch bwyd, bioynni a chynaladwyedd, ac effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae gwyddonwyr yn cynnal ymchwil ar enynnau a moleciwlau, organebau cyfan a’r amgylchedd.

Grŵp Ymchwil Ecolegol ac Esblygol

Mae Ymchwil Ecolegol ac Esblygol yn IBERS yn rhychwantu ecosystemau daearol, dŵr croyw a morol. Rydym ni’n cynnal ymchwil i ddŵr, priddoedd, planhigion ac anifeiliaid (infertebratau a fertebratau) a’u rhyngweithio. Rydym ni’n defnyddio amrywiaeth o ddulliau ar draws graddfeydd amser a gofod i ymdrin â chwestiynau allweddol am y ffordd mae ecosystemau’n gweithio a sut maent yn gweithredu. Er bod gennym ddiddordeb yn y presennol, mae ein hymchwil yn estyn i’r dyfodol drwy edrych ar sut y bydd amrywiaeth eang o newidynnau o ran newid yn yr hinsawdd fel cynhesu, CO2, asideiddio’r cefnfor ac ymbelydredd uwch-fioled yn effeithio ar ecosystemau.

Caiff ein hymchwil ei integreiddio gydag addysgu ac rydym ni’n ystyried ein labordai a’r maes fel mannau hyfforddi. Mae’r canlynol ymhlith y meysydd rydym ni’n canolbwyntio arnyn nhw:

  • pridd a’i rannau cyfansoddol
  • ecoffisioleg planhigion a sut mae planhigion yn ymateb i bwysedd abiotig a biotig mewn cymunedau lled-naturiol
  • y berthynas agos rhwng planhigion ac infertebratau, yn cynnwys algae morol a llysyddion
  • sut mae anifeiliaid pori yn cynnwys da byw yn effeithio ar gymunedau planhigion
  • natur cystadleuaeth a sut mae cymunedau planhigion ac anifeiliaid yn gweithio
  • technegau ar gyfer gwneud lle i natur mewn strwythurau a saerniwyd ar yr arfordir.

Grŵp Ymchwil Genomau Planhigion a Bioleg Cromosomau

Mae’r grŵp hyn yn cynnal ymchwil amrywiol i fioleg gweiriau, grawn a chodlysiau. Rydym ni’n cymwyso dadansoddiadau genomig, sytogenetig a biowybodeg wrth gynhyrchu a dadansoddi ffenoteipiau planhigion cnydau newydd. Mae’r Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion (NPPC) wedi’i lleoli yn IBERS ac fe’i defnyddir gan lawer o’n haelodau. Mae’n cynnig y llwyfannau ffenoteipio diweddaraf a’i nod yw cyflenwi datrysiadau ffenoteipio integredig ar gyfer rhywogaethau cnydau allweddol a model. Mae’n defnyddio technolegau arloesol i fesur perfformiad a ffisioleg planhigion ar raddfeydd gwahanol, o’r moleciwlaidd a’r cellol i lefel organ a phoblogaeth.

Mae’r grŵp hwn yn canolbwyntio ar:

  • geneteg a genomeg gweiriau porthiant Lolium perenne (rhygwellt lluosflwydd) a Festuca pratensis (peiswellt)
  • geneteg a genomeg cnwd trin ceirch hecsaploid (Avena sativa) a datblygu adnoddau arbrofol yn defnyddio perthynolion tetraploid a diploid
  • ffylogeneteg foleciwlaidd Avena a Brachypodium spp
  • sytogeneg foleciwlaidd adgyfuno meiotig a chyfansoddiad genom mewn amrywiol rywogaethau planhigion
  • datblygu offerynnau cyfrifiannu ac adnoddau ‘biowybodeg ar gyfer bridio’ sy’n integreiddio canlyniadau ymchwiliadau genotypig a ffenotypig.

Grŵp Ymchwil Bioleg Ddyfrol, Ymddygiadol ac Esblygol

Mae’r grŵp hwn yn defnyddio ymagweddau rhyngddisgyblaethol at ddiddordeb sy’n uno: sut mae anifeiliaid yn addasu i’w hamgylchedd. O fewn y nod hwn rydym yn defnyddio amrywiaeth eang o dechnegau maes a labordy i ymchwilio i gwestiynau allweddol mewn ecoleg, esblygiad ac ymddygiad poblogaethau gwyllt. Rydym ni’n cyfuno arbenigedd a gweithgareddau ar draws y grŵp i ddarparu addysgu o ansawdd uchel yn seiliedig ar ymchwil.

Mae aelodau o’r grŵp yn edrych ar y canlynol:

  • plastigrwydd ymddygiadol ac ecoleg poblogaeth infertebratau
  • esblygiad organebau dyfrol a’u parasitiaid
  • bioleg a geneteg poblogaeth opisthobranchia
  • ymddygiad, cân adar ac addasu trefol
  • ymwybyddiaeth a rheolaeth niwroffisegol ymddygiad anifeiliaid
  • niwroetholeg infertebratau
  • esblygiad bioamrywiaeth ddyfrol a chysylltedd poblogaeth
  • rhythmau circadaidd a circatidaidd mewn organebau morol.

 

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang. 

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.