Ffilm, Teledu a’r Cyfryngau

Os oes gennych ddiddordeb yn y ddelwedd symudol fel ffurf gelf neu yn niwydiant y cyfryngau creadigol, bydd ein rhaglen radd amrywiol mewn Astudiaethau Ffilm, Teledu a’r Cyfryngau; Creu Ffilm; Astudiaethau'r Cyfryngau a Chyfathrebu; ac Ysgrifennu ar gyfer Darlledu, Cyfryngau a Pherfformio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhoi'r cyfle i chi archwilio amryw o ddulliau technegol a beirniadol o fewn amgylchedd creadigol. 

Yn Aberystwyth, rydyn ni'n cynnig hyfforddiant ymarferol ar wneud ffilmiau dogfen, ffilmiau ffuglen, gwneud ffilmiau arbrofol,  cynhyrchu stiwdio a sgriptio, yn ogystal â addysgu arbenigol ar sinema gelf, sinema arswyd a chwlt, sinema'r byd, astudiaethau rhywedd, estheteg teledu, diwylliannau digidol, gemau fideo, cyfryngau a chyfathrebu. 

Wedi'i gynllunio i roi cyfuniad o sgiliau ymarferol, hyder creadigol ac ymwybyddiaeth feirniadol i chi, mae'r cwrs amlbwrpas hwn yn agor pob math o lwybrau i ddiwydiant cyffrous. 

  • Ar y brig yn y DU am Fodlonrwydd ag Addysgu ym maes Astudiaethau'r Cyfryngau a Ffilm (Tabl Cynghrair Prifysgolion The Guardian 2026)
  • Yn y 5 gorau yn y DU am 'Addysgu ar fy nghwrs' ym maes Astudiaethau'r Cyfryngau * (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025; O'i gymharu â Sefydliadau Addysg Uwch Canllaw Prifysgolion Da, The Times and Sunday Times)
  • Byddwch yn cael eich dysgu gan staff a gydnabyddir yn rhyngwladol ac sydd ag enw da proffesiynol mewn ymchwil academaidd, ac sydd â phrofiad ym myd diwydiant

Pam astudio Ffilm, Teledu a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Cewch eich dysgu a'ch mentora gan dîm o arbenigwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n adnabyddus yn rhyngwladol. 
  • Byddwch yn elwa o'n hamgylchedd eithriadol ac ysbrydoledig ac yn cael y rhyddid i greu a meddwl yn wahanol.
  • Gallwch fanteisio ar ein partneriaid allweddol yn y diwydiant, gan gynnwys y BBC, S4C, BAFTA Cymru, Gŵyl Tribeca (Efrog Newydd), Gorilla TV, Bad Wolf Studios, Sefydliad Ffilm Prydain, Archif Ddarlledu Genedlaethol Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Avid. Mae'r partneriaid hyn yn cynnig profiadau trawsnewidiol trwy gyfrwng teithiau maes, siaradwyr gwadd, hyfforddiant sgiliau, a gallant eich cysylltu â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant.
  • Byddwch yn gallu defnyddio’r cyfleusterau, yr offer a’r adnoddau gwych sydd gennym ar gyfer gwaith ymarferol, gyda chefnogaeth tîm technegol medrus iawn - gweler y tab 'Cyfleusterau'. 
  • Mae Adran wedi'i leoli nesaf at un o'r canolfannau celfyddydol mwyaf yng Nghymru, lle mae dangosiadau ffilm, sgyrsiau, dosbarthiadau meistr, arddangosfeydd a gwyliau ffilm yn cael eu cynnal yn rheolaidd. 
  • Os ydych yn chwilio am brofiad y tu hwnt i Aberystwyth, bydd cyfle i gymryd lleoliad astudio dramor gydag un o'n Prifysgolion partner yn Ewrop neu ymhellach i ffwrdd trwy ein rhaglen Cyfnewid Rhyngwladol. 

Cyflogadwyedd

Trwy astudio ein graddau mewn Ffilm, Teledu a’r Cyfryngau, byddwch wedi eich paratoi’n dda am yrfa yn y diwydiannau creadigol a thu hwnt. Trwy astudio’r cwrs, byddwch yn ennill medrau trosglwyddadwy sy’n bwysig yng ngolwg cyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys y gallu i gymhwyso sgiliau creadigol, dychmygus a datrys problemau mewn pob math o sefyllfaoedd; bod yn hunanysgogol ac yn hunan ddisgybledig i weithio'n annibynnol; y gallu i strwythuro a chyfathrebu syniadau'n effeithiol mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd a defnyddio pob math o ddulliau; a gweithio gydag eraill. 

Yn yr ail flwyddyn, mae gennym modiwl pwrpasol sy'n edrych yn benodol ar eich gobeithion gyrfaol ac yn eich paratoi ar gyfer byd gwaith, gan eich cefnogi i ddatblygu eich CV. Rydym hefyd yn cynnal dosbarthiadau meistr, yn croesawu siaradwyr gwadd ac yn cynnal gweithdai creadigol drwy gydol y flwyddyn, mewn cydweithrediad â'n partneriaid yn y diwydiant.

Bydd gennych Ymgynghorydd Gyrfaoedd penodol a fydd yn rhoi cymorth ar gyflogadwyedd trwy gyfrwng gweminarau pwrpasol, apwyntiadau cyfarwyddyd, tudalennau gyrfaoedd pwrpasol a sesiynau o fewn y cwricwlwm. Byddant hefyd yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am yr holl gyfleoedd profiad gwaith. 

Mae llawer o'n graddedigion yn cael eu cyflogi gan y diwydiant ffilm a theledu yn gyfarwyddwyr, gweithredwyr camerâu, golygyddion, cynhyrchwyr ac ymchwilwyr. Mae eraill yn gweithio ym maes dosbarthu ffilmiau, gwneud ffilmiau llawrydd, rhaglennu gwyliau ffilm, newyddiaduraeth, marchnata a chysylltiadau cyhoeddus a gweinyddu'r celfyddydau. 

Cyfleusterau

Gallwn gynnig cyfleusterau, adnoddau ac offer gwych i'ch helpu ar bob un o'n modiwlau. Mae'r rhain yn cynnwys: 

  • stiwdio deledu ac oriel aml-gamera HD
  • tair ystafell ymarfer fawr 
  • dau stiwdio berfformio â chyfarpar llawn 
  • ein sinema bwrpasol ein hunain 
  • cyfleusterau tros-seinio sain a graddio lliw 
  • gweithle golygu cydweithredol 
  • gweithle golygu unigol
  • labordy ôl-gynhyrchu 
  • labordy ffilm analog 
  • ystod eang o offer camera a sain safonol y diwydiant  
  • lensys, goleuadau ac offer grip 
  • catalog helaeth o wisgoedd a phropiau
  • cyfleusterau gwneud propiau a setiau adeiladu.

Yn ogystal â hyn, rydym wedi’n lleoli yn agos at y sefydliadau canlynol ac wedi meithrin perthynas agos â hwy:

  • Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sy'n gartref i theatr prif lwyfan, theatr stiwdio, neuadd gyngerdd, pedair oriel a sinema 
  • Y Llyfrgell Genedlaethol - un o bum llyfrgell adneuon hawlfraint y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Archif Genedlaethol Arbenigol Sgrin a Sain Cymru a'r Archif Ddarlledu Genedlaethol.
  • Yn nhref Aberystwyth a'r cylch, mae cyfoeth o leoliadau a safleoedd unigryw ac eithriadol ar gyfer perfformio a ffilmio, yn ogystal â chronfa eang o dalent greadigol leol i feithrin cyswllt â nhw.

 

Ymchwil

Mae ein hymchwil yn rhoi sylw’n bennaf i astudiaeth o theatr, ffilm, perfformio a'r cyfryngau mewn cyd-destunau diwylliannol hanesyddol, daearyddol a gwleidyddol. Mae'n pwysleisio arloesedd ffurfiol, datblygiadau technolegol ac ymholi rhyngddisgyblaethol.

Rydym yn ddramodwyr, perfformwyr, cyfarwyddwyr theatr, senograffwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, curaduron, cyfathrebwyr yn y cyfryngau, ac academyddion sy'n gweithio yn y croestoriad rhwng y damcaniaethol a’r ymarferol. Rydym yn rhan o amrywiaeth o gydweithrediadau creadigol cyffrous, yn genedlaethol a rhyngwladol.

Mae ein meysydd ymchwil yn cynnwys perfformiadau safle-penodol; perfformio a'r gymuned wledig; senograffeg perthynol a phethau bob dydd; gofod, lle a thirlun mewn ffilm a theledu yng Nghymru; cyfryngau, perfformio a chwaraeon; perfformiad a phensaernïaeth; dawns ac anabledd; theatr a chyfryngau newydd; ecoleg a materoldeb newydd. Rydym yn cydweithio ag artistiaid, cwmnïau theatr, gwyliau ffilm a chelfyddydol, cwmnïau cynhyrchu, sefydliadau amgylcheddol, archifau, darlledwyr, a llunwyr polisi.

Yn rhan o'n hymrwymiad i gynhyrchu a rhannu ymchwil newydd ac arloesol, rydym yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ymchwil bob blwyddyn. Mae ein cyfres barhaus o seminarau ymchwil yn caniatáu i uwchraddedigion, staff a siaradwyr nodedig – gan gynnwys academyddion ac artistiaid – o brifysgolion eraill rannu a datblygu eu hymchwil hwy mewn amgylchedd adeiladol a chefnogol. Mae'r seminarau hyn yn agored i unrhyw un o fyfyrwyr a staff yn y brifysgol a'r tu allan iddi.

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang.

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.