Gwybodaeth i Westeion Preswyl
Diolch am eich archeb
Gweler isod wybodaeth ddefnyddiol i helpu yn ystod eich arhosiad.
Dymuniadau gorau
Y Swyddfa Gynadleddau.
Beth sydd yn fy ystafell wely?
Mae pob ystafell wely yn cynnwys gwely gyda dillad gwely, llieiniau a thywelion, desg a chadair, lle storio a basn golchi.
Mae ystafelloedd gwely ag en-suite yn cynnwys cawod a thoiled.
Beth sydd yn fy nghegin?
Mae llety Pantycelyn yn cynnwys cegin fach sylfaenol gyda microdon, tostiwr, oergell a boeler dŵr poeth.
Mae llety Penbryn yn cynnwys cegin fach sylfaenol gyda hob bach, microdon, tostiwr, oergell/rhewgell a thegell.
Mae Stiwdios Fferm Penglais yn cynnwys cegin fach breifat gyda ffwrn gyfun fach, hob dwy gylch, oergell-rhewgell fach, tegell a thostiwr.
Mae pob llety arall yn cynnwys cegin â chyfarpar coginio gan gynnwys popty, hob, oergell-rhewgell, bwrdd bwyta a chadeiriau.
Mae pob llety yn cynnwys llestri, cyllyll a ffyrc a llestri coginio sylfaenol.
Beth sydd yn fy fflat?
Mae gan y llety en-suite gegin fach a rennir gydag eraill.
Mae gan y llety sydd â chyfleusterau a rennir doiledau a chawodydd y gellir mynd iddynt o’r cyntedd/coridor. Mae pob fflat yn hunangynhwysol ac mae'r cyfleusterau ar gyfer gwesteion y fflat hwnnw’n unig.
Derbynfa
Dydd Llun i Ddydd Iau 08:30-17:00
Dydd Gwener 08:30-16:30
Derbynfa, Y Sgubor, 01970 623111
24 awr y dydd - Prif Dderbynfa'r Campws, 01970 622900.
Cyrraedd a chasglu allweddi
Gallwch gasglu eich allwedd o 15:00 ymlaen os nad oes trefniadau arbennig wedi'u gwneud. Gwiriwch eich cadarnhad archebu am fanylion ynghylch ble i gasglu eich allwedd. Mae hyn yn dibynnu ar ba lety rydych chi wedi'i archebu.
Gall y rhai sy'n cyrraedd yn hwyr gasglu eu hallwedd o Brif Dderbynfa'r Campws, sydd ar agor 24 awr y dydd.
Gadael
Dylid gadael yr ystafelloedd erbyn 09:00yb ar y diwrnod gadael. Dylid rhoi’r allweddi i Dderbynfa Fferm Penglais neu Brif Dderbynfa'r Campws.
Ewch â'ch holl eiddo personol gyda chi a chael gwared ar unrhyw wastraff.
Ardaloedd a rennir
Pan fyddwch chi'n rhannu fflat gydag eraill, byddwch yn barchus o westeion eraill. Cadwch yr ardaloedd cymunedol yn lân a thaclus.
Parcio
Gallwch barcio’ch car yn rhad ac am ddim. Rhaid arddangos trwydded barcio a pharcio yn y mannau parcio dynodedig. Mae trwyddedau parcio ar gael ymlaen llaw neu o'r dderbynfa.
Mae lle storio beiciau heb gyfyngiadau ar gael wrth Brif Fynedfa'r Brifysgol. Gellir trefnu lle diogel i storio beiciau ar gyfer grwpiau mawr.
Ysmygu
Rydym yn gweithredu polisi dim ysmygu o fewn 10 metr i holl adeiladau'r Brifysgol. Mae biniau sigaréts dynodedig ar gael o amgylch y campws.
Gweithdrefnau Tân
Mae’r gweithdrefnau tân a gwagio’r adeilad wedi’u gosod ar y tu mewn i ddrws eich ystafell wely. Cymerwch amser i'w darllen ac ymgyfarwyddwch â'ch llwybr ar gyfer gadael yr adeilad
Mae’r larymau tân yn cael eu profi yn wythnosol am ychydig eiliadau. Os yw'r gloch yn seinio'n barhaus, gwagiwch yr adeilad.
Golchdy
Mae cyfleusterau golchi dillad ar gael ger Rosser C, Hwb Cwrt Mawr, Y Sgubor, Fferm Bloc 13 a Fferm Bloc 14. Cyfeiriwch at y posteri gwybodaeth sydd yn y golchdy. Defnyddiwch allwedd eich ystafell wely i gael mynediad
Canolfan Chwaraeon
Mae croeso i bob gwestai ddefnyddio Canolfan Chwaraeon y Brifysgol. Gallwch brynu mynediad untro i'r pwll, y gampfa neu ddosbarthiadau, neu aelodaeth tymor byr am fynediad diderfyn.
Gwastraff ac ailgylchu
Gwahanwch eich gwastraff ac ailgylchu yn y biniau wedi'u marcio.
https://www.aber.ac.uk/cy/accommodation/current-students/living-residences/tywydd-gwael/
Gwagwch eich biniau cegin i'r storfa finiau gymunedol agosaf. Gellir casglu bagiau bin ychwanegol o Dderbynfa Fferm Penglais.
Eiddo coll
Cedwir eiddo coll am hyd at bythefnos. Cysylltwch â conferences@aber.ac.uk os ydych chi wedi colli unrhyw eiddo personol.
Gellir cael gwared ar fwyd mewn ardaloedd a rennir.
Wi-Fi
Darperir Wi-Fi cyflym am ddim. Dewiswch y rhwydwaith 'PAU_Guest' a chofrestrwch i gael mynediad ar unwaith.
Meddygol
Mewn argyfwng meddygol, ffoniwch 999. Gallwch ffonio 01970 622649 i gael cymorth brys gan ein tîm diogelwch 24 awr.
Y cyfleusterau meddygol agosaf yw:
Brys - Ysbyty Bronglais, SY23 1ER
Meddyg - Meddygfa Padarn, 01970 624545
Fferyllfa - Lloyds, SY23 3DU, 01970 612694
Lletygarwch a gweithgareddau
CAMPWS HEB ARIAN PAROD
Mae bwyd a diod poeth ac oer ar gael yn ein safleoedd lletygarwch yn Y Neuadd Fwyd, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth a Caffibach
https://www.aber.ac.uk/cy/hospitality/
Mae bwydydd ar gael o siop Undeb y Myfyrwyr.
Mae gan Ganolfan Celfyddydau Aberystwyth raglen gelfyddydol gyfoethog o gerddoriaeth, ffilmiau, perfformiadau ac orielau, bar, siop grefftau, gyda mynediad rhad ac am ddim i bob un.
Edrychwch ar aberystwythartscentre.co.uk
Siopau / Archfarchnadoedd
Waunfawr - CKs, siop sglodion, Subway, swyddfa bost.
Tesco, Marks & Spencer, Morrisons, Lidl
Canol y dref, siopau annibynnol.
Anifeiliaid anwes
Ni chaniateir unrhyw anifeiliaid yn ein llety ac eithrio anifeiliaid gwasanaeth hyfforddedig.
Rhowch wybod i ni fel y gallwn roi cyngor ar ardaloedd penodol i anifeiliaid a chyfleusterau sydd ar gael.