Gwastraff ac Ailgylchu

 

 

Cymru yw'r ail genedl ailgylchu orau yn y byd. Drwy gydweithio, gallwn gyrraedd Rhif 1!

Ym mis Ebrill 2024 cyflwynodd Llywodraeth Cymru'r Ddeddfwriaeth Ailgylchu. Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i bob gweithle, gan gynnwys busnesau, cyrff cyhoeddus a'r trydydd sector, wahanu deunyddiau ailgylchadwy oddi wrth eu gwastraff cyffredinol.

Bydd eich ymdrechion i ddidoli eich gwastraff yn gywir yn cyfrannu at nod cynaliadwyedd y Brifysgol ac yn helpu i wella ansawdd deunyddiau ailgylchadwy.

Mae yna ardal ailgylchu ym mhob cegin gyda'r canllaw canlynol……….

  • Dilynwch y canllaw a gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'r bin cywir.
  • Rhaid i bob eitem ailgylchadwy fod yn lân ac yn sych.
  • Gweithiwch gyda'ch gilydd, rhannwch y gwaith tŷ, a gwagiwch eich biniau'n rheolaidd.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'r bin cyfatebol yn eich storfa biniau allanol.
  • Mae bagiau ailgylchu a bagiau gwastraff bwyd ar gael yn y  Swyddfa Llety - Y Sgubor, Fferm Penglais. Bydd angen i chi brynu eich bagiau gwastraff cyffredinol du eich hun.
  • Peidiwch â defnyddio'r bagiau ailgylchu ar gyfer gwastraff cyffredinol.
  • Peidiwch â defnyddio Bagiau Du ar gyfer gwastraff ailgylchadwy

Sut ydw i'n cael gwared at eitemau TG, Trydanol ac Electronig?

Cyfeirir at eitemau trydanol ac electronig sy'n wastraff fel gwastraff WEEE
Mae WEEE yn sefyll am “waste electrical and electronic equipment”

A allaf roi unrhyw wastraff WEEE yn y biniau gwastraff cyffredinol?
NA! - Mae bellach yn ofyniad cyfreithiol i wahanu gwastraff trydanol.

Sut ydw i'n gwaredu gwastraff WEEE?
Mae yna FIN PINC wedi'i leoli yn y storfa finiau y tu allan i:
CWRT MAWR F
Bloc Mwynderau PJM
PANTYCELYN
FFERM PENGLAIS (pob storfa finiau)

Mae'r biniau yma ar gyfer eitemau trydanol bach fel.....
Offer cyfrifiadurol, cyfrifianellau, sychwyr a sythwyr gwallt, gwefrwyr, ceblau, ffonau symudol, argraffwyr, offer cegin bach a.y.b..

 

***PEIDIWCH â gadael eitemau trydanol mawr y tu allan i'r biniau hyn. Rydych chi'n gyfrifol am waredu eich eitemau trydanol mawr eich hun mewn canolfan ailgylchu allanol briodol***

Pa finiau ailgylchu eraill sydd ar gael ar draws y Brifysgol?

  • Mae bin ar gyfer fêps ar gael o flaen Canolfan y Celfyddydau, y tu allan i adeilad Undeb y Myfyrwyr
  • Mae biniau batris ar gael o amgylch adeiladau'r campws
  • Mae banciau dillad wedi'u defnyddio ar gael yn…
    • PJM (wrth ymyl y bloc Mwynderau)
    • Cwrt Mawr (gyferbyn â bloc L)
    • Wrth ymyl Adeilad Cledwyn

Dyddiau Casglu

Fferm Penglais:

Ffrwd Gwastraff

Diwrnod Casglu

Bwyd

Dydd Gwener

Gwydr

Dydd Mawrth

Papur / Cardbord

Dydd Mawrth/Gwener

Plastic / Metel / Cartonau

Dydd Mawrth/Gwener

Gwastraff Cyffredinol

Dydd Mawrth/Gwener

 

Pob Preswylfa arall:

Ffrwd Gwastraff

Diwrnod Casglu

Bwyd

Dydd Iau

Gwydr

Dydd Iau (bob pythefnos)

Papur / Cardbord 

Dydd Mercher

Plastic / Metel / Cartonau

Dydd Gwener

Gwastraff Cyffredinol

Dydd Llun

Rhoddion Diwedd Tymor

Bydd Gorsafoedd Rhoddion ar gael ar draws ein Preswylfeydd i gasglu eitemau y gellir eu hailddefnyddio. Mae'r gorsafoedd hyn yn ffordd wych o leihau gwastraff a chefnogi'r gymuned.

Mae rhai eitemau yn cael wu cymeryd gan fyfyrwyr, tra bod eraill yn cael eu rhoi i sefydliadau lleol gwych, gan gynnwys:

Oedde chi'n gwybod?

  • Bydd ailgylchu un can alwminiwm yn arbed digon o ynni i bweru teledu am hyd at 3 awr!
  • Mae cartref cyffredin yng Nghymru yn taflu gwerth £49 o fwyd ar gyfaqrtaledd bob mis!
  • Mae un tiwb papur toiled wedi'i ailgylchu yn arbed digon o ynni i wefru'ch ffôn clyfar ddwywaith!
  • Mae angen 24 coeden  i wneud tunnell o bapur!
  • Mae 1 tunnell o bapur wedi'i ailgylchu yn ei arbed 7,000 galwyn o ddŵr!
  • Mae 4 biliwn o  goed sy'n cael eu torri i lawr ar gyfer papur bob blwyddyn!