Teithio a Thrafnidiaeth

Gyda thros 10,000 o fyfyrwyr a staff, mae Aberystwyth yn sylweddoli y gall trafnidiaeth gael effaith negyddol ar yr amgylchedd. O ganlyniad, mae Aberystwyth wedi buddsoddi i wella’r isadeiledd lleol ar gyfer cerdded a beicio i, o, a rhwng ein campysau, yn ogystal â chyfleusterau i storio beiciau ac i gael cawod. Yn ddiweddar, cyflwynwyd hefyd fannau gwefru beiciau trydan.

Pàs Bws

Mae’r Brifysgol yn cydweithio â Mid Wales Travel i ddarparu’r drafnidiaeth gyhoeddus leol, ecogyfeillgar, rataf. Gall myfyrwyr a Staff brynu Pàs Bws fydd yn caniatáu iddynt deithio fel y mynnant yn Aberystwyth a theithio gostyngol yn y Canolbarth.

Mae’r pasys ar gael o Undeb y Myfyrwyr.

Beicio

Er mwyn darparu ar gyfer seiclo i, o, ac o amgylch y campws, mae Prifysgol Aberystwyth yn darparu ystod o gyfleusterau.

Ceir sawl man ar gyfer trwsio beiciau ar y campws, sy’n cynnwys pympiau aer ac offer cyffredin i helpu beicwyr.

Mae cawodydd a chyfleusterau newid mewn sawl man ar y campws, yn cynnwys IBERS, Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol, y Neuadd Chwaraeon, y Cawell Chwaraeon, Adeilad Parry Williams, a’r Sgubor. Mae cawodydd hefyd yn adeilad newydd IBERS ar gampws Gogerddan, Caeau’r Ficerdy, a Blaendolau.

Lleolir rheselau a chysgodfannau i feiciau y tu allan i lawer o’r adeiladau ar gampws Penglais.

Mae’r brifysgol hefyd yn darparu unedau diogel i feiciau, wedi’u lleoli mewn man cyfleus nesaf at neuaddau preswyl Cwrt Mawr, Penbryn a Fferm Penglais. Gallwch gadw eich beic yno yn rhad ac am ddim a gallwch wneud cais ar gyfer hynny drwy’r neuaddau.

I’r rheiny sydd wedi’u cofrestru i ddefnyddio’r Storfeydd Beiciau Diogel, mae’r brifysgol yn darparu cyfleusterau golchi beic yn rhad ac am ddim yn Fferm Penglais. Mae’r peiriant yn gweithio trwy docyn, a gallwch nôl y rhain o’r Swyddfa Llety yn Y Sgubor, Fferm Penglais.

Ceir rhagor o wybodaeth am storio’ch beic yn ddiogel ac am y cyfleusterau golchi beiciau ar dudalennau’r neuaddau.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o gymryd rhan mewn cynllun beicio i’r gwaith, sy’n galluogi staff i dalu ychydig ar y tro am feic ac offer.

Gwefru Beiciau Trydan

Fel rhan o’n hymdrech ehangach i annog dulliau mwy cynaliadwy o deithio, mae Prifysgol Aberystwyth wedi gosod gorsafoedd gwefru beiciau i’w defnyddio yn rhad ac am ddim mewn tair cysgodfan feiciau ar gampws Penglais.

Gallwch ddefnyddio’r gwefryddion hyn am ddim, a gall beicwyr un ai dynnu’r batri o’u beic i’w wefru’n ddiogel ar silff y tu mewn i’r orsaf, neu redeg y cêbl gwefru o’r orsaf yn syth i’r batri ar y beic.

Sut i gloi drws yr orsaf wefru:

  • Caewch y drws a phwyswch God Defnyddiwr 4 digid (e.e. 1,2,3,4)
  • Trowch y ddolen i gloi

Datgloi drws yr orsaf wefru:

  • Rhowch eich Cod Defnyddiwr eto (e.e. 1,2,3,4)
  • Trowch y ddolen i ddatgloi

Os bydd angen cymorth arnoch, cysylltwch â Thîm Diogelwch y Campws ar 01970 622900.

Gwefru Cerbydau Trydan

Er mwyn cefnogi’r defnydd cynyddol o gerbydau trydan, mae Prifysgol Aberystwyth wedi gosod gwefryddion cerbydau trydan mewn sawl man ar ystâd y Brifysgol. Mae arwyddion wrth ymyl pob gwefrydd yn dangos sut i’w defnyddio.

Gwefryddion 7kW

Mae pedwar gwefrydd 7kW ar Gampws Penglais ar hyn o bryd. Mae gwefrydd 3 7kW ym maes parcio Hugh Owen, gyferbyn â Tamed Da. Lleolir gwefrydd 7kW arall ym maes parcio Ffiseg.

  • I ddefnyddio Gwefryddion Pod-point:
  • Lawlwythwch ap Podpoint (charge.pod-point.com)
  • Plygiwch y Cêbl i mewn
  • Dewiswch Pod Point yn yr Ap
  • Cadarnhewch y Gwefru (Confirm Charge)

Dylech nodi y bydd y gwefru yn dod i ben oni byddwch yn cadarnhau o fewn 15 munud

Gellir cael hyd i ragor o wybodaeth a gwefryddion ar wefan PodPoint.

Gwefrydd 50kW

Gellir cael hyd i wefrydd cyflym BP Chargemaster 50kW ym maes parcio Penbryn. (Er bod y gwefrydd yn gwasanaethu dwy gilfach barcio, dim ond un cerbyd y gellir ei wefru ar y tro).

I ddefnyddio’r gwefrydd BP Chargemaster, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.

Gellir cael hyd i leoliadau gwefryddion eraill ar wefan BP Chargemaster.

Map Teithio a Thrafnidiaeth