Dy Rhestr Wirio CyrraeddAber – Cyrraedd ac Ymgartrefu - Fersiwn Byr
Mae cychwyn mewn prifysgol newydd yn amser cyffrous a ‘da ni am sicrhau eich bod yn ymgartrefu cyn gynted a phosib. Mae ffrindiau newydd i'w gwneud, llefydd newydd i'w darganfod a chyfleoedd lu i ddatblygu diddordebau newydd hyd yn oed yn y dyddiau cyntaf.
Cyn cwblhau'r tasgau isod, gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau'r rhestr wirio ‘CynAber – Cyn Cyrraedd’.
Dilynwch y canllaw cam wrth gam fer hwn i sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r hyn y mae angen i chi ei wneud wrth gyrraedd, a cliciwch ar y ddolen islaw i gael gwybodaeth fanylach ar gyfer pob cam o'r daith.
Cofiwch eich Dyddiadau CyrraeddAber…
Cofiwch y dyddiadau allweddol ar gyfer CyrraeddAber a bydd Llety'r Brifysgol ar gael i symud i mewn o ddechrau y Contract Meddiannaeth Llety.

Cyrraedd Aber o'ch Cartref
Os ydych yn symud i lety ar y campws, dilynwch y cyfarwyddiadau cyrraedd gan y Tîm Llety . P'un a yw mewn car, trên neu ddulliau eraill, darganfyddwch eich opsiynau ar sut i gyrraedd Aber.

Symud mewn i’ch Llety
Darganfyddwch ragor o wybodaeth am gasglu eich allwedd a'ch Cerdyn Aber o'r rhestr wirio fanwl.

Cysylltu â Wi-Fi campws
Pan gyrhaeddwch y campws gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â phrif rwydwaith diwifr y brifysgol, o'r enw eduroam. Gallwch wedyn gadw mewn cysylltiad lle bynnag yr ydych ar y campws.

Cwrdd â'ch adran a chymryd rhan mewn gweithgareddau Wythnos Croeso
Mae’r Sesiwn Sefydlu Academaidd yn gyflwyniad pwysig i'r cwrs a'r pwnc, cyn i'r gwaith ddechrau. Mae hyn yn cael ei gynnal dros sawl diwrnod yn ystod yr Wythnos Groeso.
I gael gwybodaeth am yr holl ddigwyddiadau yn eich adran, ewch i'r dudalen hon a dewiswch eich cwrs, a cadwch lygad ar ein Cynllunydd Croesawu ac Ymsefydlu.

Cwblhau eich Cofrestriad Cwrs
Cyn i chi gael eich adnabod fel myfyriwr llawn amser neu ran-amser yn Aberystwyth, bydd rhaid i chi gwblhau’r broses cofrestru. Rhaid i chi ddewis modiwlau, os yw’n ofynnol a chwblhau’r cofrestriad ar-lein yn eich Cofnod Myfyriwr. Mae mwy o wybodaeth am sut i wneud hyn ar gael yn y ‘Rhestr Wirio ar gyfer Cofrestru’.

Ewch i archwilio ein campws
Rydym bob amser yn argymell myfyrwyr newydd i gymryd amser i ganfod ein campws hyfryd a’r ardal tu hwnt. Mi fyddwch yn gallu gweld pa gyfleusterau sydd yma a manteisio arnynt. O'n hardaloedd astudio gwych, caffis a mannau gwyrdd i'n gromen chwaraeon newydd a chymaint mwy.

Hyfforddiant caniatâd ar-lein
Mae Aberystwyth yn brifysgol ddiogel, deg a chynhwysol. Rydym wedi ymrwymo i wneud ein campws yn le mwy diogel. Nid oes goddefgarwch i aflonyddu, unrhyw droseddau casineb, cam-drin ac ymddygiad gwylwyr. Drwy ddysgu mwy am ganiatâd a chwblhau'r hyfforddiant, helpwch ni i gadw Aberystwyth yn ddiogel.

Cofrestru gyda meddyg
Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru gyda meddyg teulu lleol. Rydym am sicrhau bod cymorth a chyngor ar gael i’ch helpu i gofrestru gyda meddyg teulu. Mae rhagor o wybodaeth yma.

Ymweld â Ffair Reffreshars
Cynhelir y digwyddiad yn Undeb Aber dros y dyddiau canlynol:
Dydd Llun 27 a Dydd Mawrth 28 Ionawr 2025.
Mae Ffair Reffreshars, a drefnir gan Undeb Aberystwyth (Undeb y Myfyrwyr) yn arddangos popeth sydd ar gynnig i fyfyrwyr. O gymdeithasau, clybiau chwaraeon a digwyddiadau, i ostyngiadau myfyrwyr gan frandiau mawr a busnesau lleol.

Help yn ystod eich Wythnos Cyrraedd Aber...
Bydd staff wrth law drwy gydol yr holl gyfnodau cyrraedd ac mae gennym restr o gysylltiadau allweddol.

Gwybodaeth i bobl sy'n cyrraedd y tu allan i'r Wythnos Groeso
Rydym yn eich annog yn gryf i gyrraedd Aber mewn pryd ar gyfer dyddiadau allweddol CyrraeddAber i wneud y mwyaf o'r gweithgareddau ymgartrefu. Rydym yn deal fodd bynnag bod yna nifer o resymau pam nad yw hyn yn bosibl.
Ewch i’r rhestr wirio manwl yma am gamau pellach ynghylch cyrraedd tu allan i'r Wythnos Groeso.
