Gwasanaethau
Rydym yn falch o fod yn rhan o'r brifysgol orau yng Nghymru o ran profiad myfyrwyr, ac yn cymryd o ddifrif ein rôl wrth weithio gyda sefydliadau o bob siâp a maint, i'w hysbysu a'u cefnogi.
Rydym yn gwneud hyn trwy ein hymchwilwyr blaenllaw sy'n cynnig y gefnogaeth a'r hyfforddiant diweddaraf sy'n seiliedig ar ymchwil; a'n haelodau tîm ymarferwyr busnes hirdymor sydd â phrofiad ar bob lefel, mewn amrywiaeth o gwmnïau/sectorau, a all gynnig cefnogaeth ymarferol, datrys problemau a hyfforddiant o'r ansawdd uchaf.
Mae ein Meysydd Cydweithredu gyda rhanddeiliaid lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang yn cynnwys:
Gwasanaethau Ymgynghori a Chymhwyso
Partneriaethau SMART a Chyfnewid Gwybodaeth
Addysg Weithredol a Datblygiad Proffesiynol
Cyfleoedd i Fyfyrwyr wneud Gwaith Ymgynghorol a gweithio ar Brosiectau Byw
Ein Harbenigedd
Mae ein tîm academaidd yn cynnwys ymchwilwyr ac ymarferwyr o fri rhyngwladol, sydd â phrofiad yn y diwydiant ar lefel ryngwladol a rhanbarthol, y mae eu gwaith yn dylanwadu ar bolisi, yn llywio arferion y diwydiant, ac yn siapio canlyniadau i gymdeithas a’r farchnad. Rydym yn cynnig:
- Arbenigedd disgyblaethol dwfn ar draws feysydd cyfrifeg, economeg, cyllid, marchnata, rheolaeth ac entrepreneuriaeth
- Cysylltiadau cryf â’r diwydiant, y llywodraeth a rhanddeiliaid yn y gymuned
- Profiad sy’n cwmpasu corfforaethau byd-eang, busnesau bach a chanolig a mentrau rhanbarthol
Mae’r cyfuniad unigryw hwn yn ein galluogi i drosi ymchwil a phrofiad ymarferol yn effaith wirioneddol i fusnesau a sefydliadau.
Cysylltwch â Ni
Rydym yn cynnal dosbarthiadau meistr, sesiynau briffio’r diwydiant a digwyddiadau meithrin cyswllt â’r cyhoedd yn rheolaidd, gan rannu gwybodaeth ar ddatblygiadau allweddol – o bolisi economaidd i heriau a chyfleoedd sy’n benodol i’r sector. Cliciwch yma i ddarganfod recordiadau, papurau a deunyddiau perthnasol eraill.
I gael gwybod sut y gallwn weithio gyda’n gilydd:
Cyswllt: Dr Julie Jones – jum1@aber.ac.uk
