Amdanom Ni

Croeso i Ysgol Fusnes Aberystwyth

Yr Athro Andrew Thomas ydw i, Pennaeth Ysgol Fusnes Aberystwyth

Wrth ddewis prifysgol, mae penderfyniad anodd a thyngedfennol yn eich wynebu a fydd yn cyfrannu i roi ffurf i’ch dyfodol. Un o’r rhesymau pennaf o blaid dewis Aberystwyth yw ein bod yn rhoi i’n myfyrwyr y rhyddid i feddwl yn greadigol a beirniadol, wrth ddatblygu yn academaidd a phroffesiynol mewn amgylchedd dysgu hyblyg. Os dewch i Aberystwyth, byddwch yn astudio mewn prifysgol sy’n darparu cynlluniau gradd blaengar yn seiliedig ar ymchwil arloesol. Mae Prifysgol Aberystwyth yn croesawu myfyrwyr o bob rhan o Brydain ac Ewrop, yn ogystal â rhanbarthau a gwledydd eraill, gan gynnwys Tsieina, Maleisia, rhanbarth y Gwlff, ac Affrica.

Yn Ysgol Fusnes Aberystwyth, byddwch yn astudio am radd a fydd yn eich paratoi yn y ffordd orau bosibl am eich gyrfa. Mae graddedigion yr adran yn mynd yn eu blaen i yrfaoedd mewn meysydd megis cyfrifeg, marchnata, rheolaeth, gwasanaethau ariannol, a rheoli twristiaeth. Ym mlwyddyn olaf y rhan fwyaf o’n cynlluniau gradd rydyn ni’n cynnig modiwl dewisol, sef Employability Skills for Professionals, sy’n rhoi cyfle i ennill profiad gwaith trwy leoliad rhan-amser gyda chyflogwr lleol. Mae’r cynllun ‘Blwyddyn mewn Gwaith’ yn gyfle i gymryd blwyddyn allan o’ch astudiaethau i gael cyfnod hwy o brofiad gwaith. Mae’r elfennau hyn yn cyfrannu at y canlyniadau llwyddiannus am nifer ein graddedigion sydd mewn swyddi ar ôl graddio.

Mae’r Ysgol mewn partneriaeth â nifer o Brifysgolion ledled y byd, ac fe gewch gyfle i gwblhau rhan o’ch astudiaethau mewn prifysgol dramor, trwy’r cynllun Erasmus +. Mae’r prifysgolion partner hyn yn cynnwys Prifysgol La Rochelle, Ffrainc, Prifysgol Seville, Sbaen, Prifysgol Julius Maximillian, Wurzburg, Yr Almaen, a Phrifysgol Tampere, y Ffindir. Mae dewis gwneud cyfnod o brofiad gwaith neu astudio dramor yn rhoi mantais fawr yn y farchnad swyddi ar ôl graddio, wrth i’ch profiadau eich rhoi mewn sefyllfa i ddangos i gyflogwyr eich bod yn gyflogadwy a/neu’n abl i addasu a byw a dysgu mewn diwylliant gwahanol.  

Trwy gyfrwng eich rhaglen radd yn Ysgol Fusnes Aberystwyth cewch brofiad o amrywiaeth eang y bynciau busnes, economeg a rheolaeth yn eich blwyddyn gyntaf, yn ogystal â phynciau craidd eich arbenigedd penodol chi. Os ydych yn ansicr am eich dewis terfynol o gynllun gradd, mae hyn yn rhoi cyfle i’w newid cyn penderfynu’n derfynol ar lwybr eich arbenigedd ar gyfer yr ail a’r drydedd flwyddyn.

Yn ogystal â’u gwaith dysgu, mae nifer o staff yr Ysgol Fusnes yn ymchwilwyr gweithredol, sy’n cyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd cydnabyddedig, yn ogystal â chynadleddau a llyfrau. Mae gennym arbenigedd ymchwil mewn meysydd megis masnach ryngwladol, llywodraeth gorfforaethol, trethi, ymddygiad defnyddwyr, mentergarwch, sefydliadau a marchnadoedd ariannol, twristiaeth, economeg amgylcheddol a gwerth economaidd bioamrywiaeth. Ymchwil yr Ysgol sy’n sail i’r maes llafur israddedig, ac mae hyn yn sicrhau bod yr hyn a ddysgwn yn gwbl gydnaws â datblygiadau diweddaraf y pwnc. Oherwydd yr enw da sydd gan yr Ysgol Fusnes a Phrifysgol Aberystwyth gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd cyflogwyr ymhob rhan o Brydain a’r byd yn cydnabod eich gradd a sylweddoli ei gwerth.

Mae’r Ysgol Fusnes yn pwysleisio perthynas gyfeillgar ac anffurfiol rhwng myfyrwyr a staff. Un o fanteision Aberystwyth yw bod modd cysylltu’n bersonol ag aelodau staff, sydd bob amser yn barod ac yn fodlon cynorthwyo gydag unrhyw anhawster a allai ddod i’ch rhan yn ystod eich astudiaethau. Mae Ysgol Fusnes Aberystwyth yn cynnig cyfle ichi astudio mewn Ysgol sy’n cyfuno enw da academaidd rhyngwladol ag amgylchedd cyfeillgar, croesawus a chartrefol.

Rwy’n argymell yn gryf i chi drefnu dod i un o’n Dyddiau Agored neu Ddiwrnod Ymweld i Ymgeiswyr, er mwyn cael cyfle i ymweld â’r Ysgol Fusnes, gweld y campws gwych sydd gennym, a chyfarfod â’n myfyrwyr dawnus.

Os oes gennych ymholiadau o unrhyw fath am ein cyrsiau, am Ysgol Fusnes Aberystwyth neu Brifysgol Aberystwyth, mae croeso ichi gysylltu â ni.

Yr Athro Andrew Thomas. 

 

Cofrestrwch nawr ar gyfer ein Diwrnodau Agored