Estyn Allan

Estyn Allan

Gweithdai a’r cyflwyniadau rhagflas canlynol i ysgolion a cholegau.

Gellir trefnu ymweliadau gan ein staff academaidd, ynghyd â’n tîm Cyswllt Ysgolion, ar amseroedd a dyddiadau sy’n gyfleus i’ch ysgol.

Estyn Allan y DU

Cynlluniwyd y gweithdai a’r cyflwyniadau rhagflas gyda maes llafur yr ysgol mewn golwg. Gellir eu haddasu i fodloni anghenion cyrsiau unigol.

Cysylltwch â Dr Sophie Bennet i drafod eich gofynion neu i drefnu ymweliad â’ch ysgol.

Mae gennym amrywiaeth o adnoddau ar gael i athrawon, myfyrwyr a rhieni / gwarcheidwaid ar-lein yn yr Hwb Gwyddoniaeth i’r Gymuned. Mae'r deunyddiau hyn, sydd wedi'u hanelu at amrywiaeth o grwpiau oedran, yn cynnwys arbrofion cartref, taflenni gwaith, prosiectau, heriau, pynciau ymchwil, gweminarau, posau, deunyddiau gwersi a mwy.

 

Ysgol Fusnes Aberystwyth - Gweithgareddau i Grwpiau

  1. Gweithgaredd gêm fusnes sy’n cynnwys rhyngweithio mewn grwpiau, ac sy’n ymgorffori sawl elfen o arfer busnes, megis cynllunio, strategaeth, rheoli amser a gwaith tîm. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr feddwl ar eu traed i gwblhau her o fewn amser penodol, gydag ambell rwystr ar hyd y ffordd i efelychu rolau rheoli. Ar ôl cwblhau’r gêm, bydd y myfyrwyr yn adrodd yn ôl yn eu timau i weddill y grŵp i drafod eu cynnydd ar y dasg. Bydd y gweithgaredd yn para tua 1 awr. (Gellir darparu’r sesiwn hon drwy gyfrwng y Gymraeg).
  2. Mentora ar weithgareddau Bagloriaeth Cymru sy’n ymwneud â’r Her Menter a Chyflogaeth. Gall aelodau o staff academaidd drafod syniadau a chynnydd y myfyrwyr mewn perthynas â’r her, yn ogystal â darparu adborth manwl i’r myfyrwyr. Gallai hyn hefyd gael ei gynnwys fel tystiolaeth o’u gwaith i ehangu eu syniadau prosiect y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. (Gellir darparu’r sesiwn hon drwy gyfrwng y Gymraeg).
  3. Seminar grŵp ryngweithiol sy’n canolbwyntio ar wahanol elfennau busnes (gall gynnwys: Rheolaeth, Marchnata, Economeg, Cyllid, Cyfrifeg a Thwristiaeth). Gosodir her i’r myfyrwyr ddadansoddi a rhoi cyflwyniad ar fater busnes amserol mewn grwpiau. Bydd pob grŵp yn elwa o gyflwyniadau gan aelodau o staff academaidd ar bob un o’r elfennau busnes mewn perthynas â’r pwnc dan sylw. Bydd y gweithgaredd yn para tua 1.5 awr.

Cyflwyniadau Rhagflas ar Bynciau Penodol

Bydd y cyflwyniadau hyn yn canolbwyntio ar elfen benodol o fusnes (Rheoli, Marchnata, Economeg, Cyllid a Thwristiaeth) a addysgir yn Ysgol Fusnes Aberystwyth. Maent yn cyfuno diddordebau aelodau o staff academaidd â materion cyfoes byd-eang i roi cipolwg ar fyd busnes. Mae’r cyflwyniadau rhagflas yn para tua 45 munud.

Global Logistics: Sea Blindness, or the Unreported Ocean: Mae Prydain yn ynys, gwladwriaeth fordwyol yn hanesyddol. Mae ganddi orffennol balch o archwilio moroedd y byd, nid yn y modd mwyaf cyfeillgar bob amser. Serch hynny, pe byddech yn gofyn i bobl ym Mhrydain y dyddiau yma faint o’r pethau a brynwn sy’n dod i Brydain dros y môr, byddai atebion y rhan fwyaf o bobl yn bell iawn ohoni. Ni fyddent yn ymwybodol o’r cymunedau o bobl sy’n treulio llawer o’u bywydau ar y môr, yn cyflenwi’r nwyddau a gynhyrchir yn yr economi fyd-eang. Mae pob un ohonom yn defnyddio’r rhyngrwyd i brynu pethau o bob cwr o’r byd: mae Ebay, er enghraifft, yn borth i’r farchnad fyd-eang. Mae’r rhyngrwyd yn ein cysylltu â’n cyflenwyr, ond y diwydiant llongau sy’n cyflawni’r contract hwnnw.

Mae’r cyflwyniad rhagflas hwn yn rhoi cyflwyniad i logisteg forwrol fyd-eang, diwydiant sy’n cludo’r pethau rydych yn eu defnyddio bob dydd, y tanwydd sy’n rhedeg ceir, bysiau a lorïau, llawer o’r bwyd rydych yn ei fwyta a’r rhan fwyaf o’r dillad rydych yn eu gwisgo, a llu o bethau eraill. Mae’n stori hynod ddiddorol am sustem drafnidiaeth hynod ddatblygedig a hynod effeithiol; stori bwysig sydd mor aml yn anhysbys neu’n cael ei gymryd yn ganiataol.            

HRM: Motivating Employees: Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni mae ysgogi staff yn gysyniad allweddol i bob busnes. Mae sefydliadau cyfoes yn dechrau sylweddoli mai eu prif ffordd o ennill mantais gystadleuol yw eu gweithlu unigryw. Ar yr un pryd, mae gweithwyr yn fwyfwy parod i gymryd swyddi sy’n talu cyflogau is i wneud swydd y maent yn ei mwynhau mewn amgylchedd y maent yn teimlo’n gysurus ynddo. Bydd y cyflwyniad hwn yn edrych ar astudiaethau achos i ystyried sut mae sefydliadau yn creu gweithlu brwdfrydig a gweithgar, yn trafod beth sy’n gwneud i bobl deimlo’n angerddol am eu gwaith, ac yn helpu’r myfyrwyr i ystyried pa ddulliau ysgogi sydd orau ganddynt.   

HRM: The Creative WorkforcePwy yw’r gweithiwr creadigol a beth mae’n ei gynnig i sefydliad? A ydynt yn bobl arloesol, greadigol, byrfyfyr, sy’n cymryd risgiau ac sydd bob amser yn meddwl ‘y tu allan i’r blwch’, fel y’u portreadir yn aml; neu a ydynt yn hytrach yn meddu ar gydbwysedd o sgiliau a phriodoleddau personol sy’n eu galluogi i sianelu eu gallu creadigol mewn modd pragmatig? Bydd y sesiwn hon yn trafod y cysyniad o greadigrwydd a’r gweithiwr creadigol, ac yn defnyddio ymarferion i feithrin creadigrwydd y myfyrwyr. 

Busnes a Rheoli: EntrepreneuriaethGellir disgrifio entrepreneur fel rhywun sy’n cychwyn, cynnal a datblygu busnes sy’n canolbwyntio ar elw. Fe’u cysylltir gan amlaf â busnesau bach newydd. Bydd y cyflwyniad hwn yn trafod manteision ac anfanteision rhedeg busnes entrepreneuraidd ac yn darparu canllaw ymarferol dydd-i-ddydd i fyfyrwyr ar lwyddiannau ac anawsterau’r ffenomen boblogaidd hon. (Gellir darparu’r cyflwyniad hwn drwy gyfrwng y Gymraeg).

HRM: ‘We’ versus ‘I’: The importance of Teamwork: Priodolir arweinyddiaeth i un unigolyn yn aml, ond pur anaml y cyflawnir canlyniad llwyddiannus gan un unigolyn ar ei ben ei hun. Yn hytrach, mae gwaith tîm yn hanfodol i berfformiad sefydliad. Diffinnir tîm fel nifer fach o bobl â sgiliau amrywiol sy’n ymrwymo i nod, amcanion perfformiad a dull gweithio cyffredin, gyda phob aelod yn rhannu’r cyfrifoldeb amdanynt (Katzenbach a Smith, 1993). Bydd y sesiwn hon yn trafod perfformiad a rôl unigolion o fewn tîm, ac yn gyfle i’r myfyrwyr ystyried pa rolau fyddai’n gweddu orau iddynt o safbwynt eu galluoedd a’u harddulliau gweithio eu hunain.   

HRM: Mae arwain a hwyluso newid yn ymwneud â chychwyn datblygiadau a mentrau newydd, a’u rhoi ar waith yn llyfn drwy eu cynllunio a’u cyflwyno yn systematig. Arwain a hwyluso newid yw’r swyddogaeth anoddaf ym maes Adnoddau Dynol fwy na thebyg. Bydd y sesiwn hon yn trafod sut i arwain a rheoli newid yn llwyddiannus ac yn gyfle i’r myfyrwyr gael gwell dealltwriaeth o’u hagweddau eu hunain tuag at brosesau newid, a sut i reoli gwrthwynebiad i newid.

Economics: Mae economeg yn ymwneud â dewis, ac mae wrth galon y broses o wneud penderfyniadau. Mae unigolion, busnesau a llywodraethau oll yn gorfod gwneud dewisiadau mewn sefyllfaoedd lle mae adnoddau’n brin. O ganlyniad, mae economeg yn berthnasol i amrywiaeth eang o feysydd gan gynnwys busnes, cyllid, gweinyddiaeth, y gyfraith, llywodraeth leol a llywodraeth genedlaethol - bron pob agwedd o’n bywydau bob dydd mewn gwirionedd. Bydd y cyflwyniad hwn yn cyflwyno myfyrwyr i brif egwyddorion economeg. Yn gynyddol, mae trafodaethau polisi yn cael eu cynnal yn nhermau economaidd, ac mae dealltwriaeth o economeg yn hanfodol wrth ddadansoddi materion cyfoes megis Brexit, Argyfwng Mudwyr a Ffoaduriaid Ewrop, y cynnydd mewn anghyfartaledd incwm, a’r hinsawdd sy’n newid yn gyflym. Bydd y sesiwn hon yn edrych ar berthnasedd y pwnc i’r gymdeithas fodern ac i fyd busnes.

Accounting and Finance: Diben cyfrifeg yw darparu gwybodaeth a chyngor pwysig a chymhleth. Mae deall cyfrifon yn eich galluogi i weld pa mor llwyddiannus yw busnes yn ariannol, ac i ystyried ffyrdd o ariannu busnes newydd neu dwf busnes sydd eisoes yn bodoli. Gall cael dealltwriaeth glir o gyfrifeg hefyd fod o gymorth i ragweld pa gynnyrch newydd sy’n mynd i fod y mwyaf proffidiol, a chreu dealltwriaeth drylwyr o’r hyn sy’n gwneud busnesau’n llwyddiannus, a’r hyn a all beri iddynt fethu. Bydd y cyflwyniad hwn yn trafod rhai o’r cwestiynau mwyaf heriol i fusnesau modern, megis pwysigrwydd cynnal a datblygu ymddiriedaeth, a chanlyniadau bradychu’r ymddiriedaeth honno; beth yw twyll, sut mae’n digwydd a sut y gellir lleihau’r perygl y bydd yn digwydd? Mae’r rhain yn ystyriaethau pwysig ar gyfer unrhyw yrfa broffesiynol, nid dim ond ym meysydd Cyfrifeg a Chyllid.

Tourism: Mae twristiaeth yn un o’r diwydiannau mwyaf yn y byd, gyda dros 1 biliwn o dwristiaid rhyngwladol yn fyd-eang yn 2016, ac mae’n hynod bwysig i economi Cymru. Fel diwydiant gwasanaeth mae’n canolbwyntio ar ddarparu profiadau i bobl mewn marchnad gystadleuol fyd-eang. Er ei fod yn cael ei ystyried yn aml yn ‘ddiwydiant di-fwg’, mae’n cael effaith economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol. Bydd y cyflwyniad hwn yn trafod rhai o’r egwyddorion a’r effeithiau y tu ôl i reoli twristiaeth a’i bwysigrwydd i Gymru.

Gweithgareddau Rhyngwladol

Mae Ysgol Fusnes Aberystwyth yn parhau i ddatblygu ei gweithgareddau rhyngwladol gyda’r nod o:

  • Ehangu’r amlygiad rhyngwladol ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio ar bob un o’n rhaglenni
  • Darparu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr o bob cwr o’r byd i ddod a dysgu gyda ni ac i brofi ein hamgylchedd dysgu unigryw

Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys:

  • Partneriaethau Ymchwil
  • Rhaglenni Cyfnewid i Fyfyrwyr
  • Cytundebau Ymganu
  • Rhaglenni Paratoi
  • Ymweliadau gan Staff Academaidd

Rhagor o wybodaeth ar bartneriaethau a cyfnewidion rhyngwladol y brifysgol