Dirnadaeth a arweinir gan ymchwil. Effaith ymarferol. Twf rhanbarthol.

Grwp o bobl yn eistedd o amgylch bwrdd

Yn Ysgol Fusnes Aberystwyth, rydym yn cyfuno dealltwriaeth ymarferol o fyd busnes â gwaith ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol, ynghyd ag arbenigedd ym maes polisi i gefnogi sefydliadau ledled y Canolbarth a thu hwnt.

Mae ein gwaith yn seiliedig ar ymchwil academaidd gadarn sydd nid yn unig yn llywio polisi ar lefel ranbarthol, genedlaethol a byd-eang, ond sydd hefyd wedi’i chynllunio i fod yn ddefnyddiol, yn hygyrch ac yn werthfawr i fusnesau a phartneriaid yn y diwydiant.

P’un a ydych yn fusnes bach neu ganolig, yn fusnes newydd, wrthi’n tyfu, yn fusnes sefydledig mawr neu hyd yn oed yn gorff diwydiant, gallwn gydweithio â chi i fynd i’r afael â heriau, datgloi cyfleoedd, a chefnogi twf cynaliadwy. Cliciwch yma am wybodaeth bellach ynghylch ein gwasanaethau.

Am fwy o fewnwelediadau busnes ac ymchwil trwy sgyrsiau byr, papurau ac adnoddau eraill cliciwch yma.

Digwyddiadau - Cyfnewidfa Busnes ac Arloesi Canolbarth Cymru

Pa mor barod yw eich busnes ar gyfer heriau a chyfleoedd y dyfodol?

Nod Cyfnewidfa Busnes ac Arloesi Canolbarth Cymru, a gynhelir gan Ysgol Fusnes Aberystwyth ac ArloesiAber, yw rhoi cyfle i'n busnesau rhanbarthol ryngweithio ag arbenigwyr yn eu meysydd i oresgyn unrhyw bryderon allai fod ganddynt ynghylch cyflymder y newid ym myd busnes heddiw.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar 22ain Ebrill yng Nghanolfan y Celfyddydau ym Mhenglais gyda'r opsiwn o gael taith o gwmpas ArloesiAber ac Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yng Ngogerddan a'r Cartref Clyfar ar gyfer byw â chymorth – fydd yn golygu ei fod lleoliad deinamig ar gyfer rhwydweithio, trafod a chydweithio. 

Bydd sgyrsiau a gweithdai yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr ddysgu am fuddion ymarferol i'w sefydliadau.  Mae siaradwyr ac arweinwyr y gweithdai yn cynnwys arbenigwyr o Sudo Cyber; Pugh Computers a Nidec Drives ymhlith eraill.

Bydd yr ystod o brosiectau cymorth busnes a gynigir gan Ysgol Fusnes Aberystwyth a'r Brifysgol ehangach hefyd i'w gweld, gan gynnwys ymgynghoriaeth, cyrsiau byr, ac arloesedd cydweithredol gan ein staff academaidd a’n hymarferwyr profiadol.  Mae hyn yn cynnwys teithiau o amgylch y Cartref Clyfar lle mae'r defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial ym maes byw â chymorth yn dangos rhai o ddefnyddiau ymarferol DA yn y cartref.  Bydd teithiau o ArloesiAber ac IBERS yn rhoi cyfle i weld yr arbenigedd a'r cyfleusterau o'r radd flaenaf sydd ar gael i'r diwydiannau bwyd a bwyd anifeiliaid er mwyn darparu arloesedd bob cam o’r ffordd – o’r syniadau cychwynnol i'r cynhyrchu.

Bydd cyfleoedd i rwydweithio gyda chynrychiolwyr ac arddangoswyr, gan gynnwys  sefydliadau fel Busnes Cymru, y Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) a mwy, gan ganolbwyntio ar arddangos yr hyn sydd gennym ni fel rhanbarth i'w gynnig, cysylltu busnesau a goresgyn y bwlch anghenion mewn byd anwadal ac ansicr.

Mae croeso i fusnesau fynychu fel gwesteion neu i arddangos, sy'n gyfle i ddangos eu harbenigedd a chysylltu â darpar bartneriaid, cydweithredwyr a chwsmeriaid ar yr un pryd.