Ymchwil

Mae Ysgol Fusnes Aberystwyth (YFA) yn cael ei harwain gan ymchwil, gan adlewyrchu gwerthoedd Prifysgol Aberystwyth.

O fewn YFA rydym yn ymrwymedig i ddatblygu ymchwil sy'n unigryw, berthnasol ac yn gymwys i reolaeth, busnes neu amgylchedd gyllid.

Rydym hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gweithgareddau a chyhoeddiadau ymchwil o bwysigrwydd rhyngwladol, gan gynnig datrysiadau y gellir eu cymhwyso ar draws sectorau, diwylliannau a disgyblaethau busnes, rheolaeth a chyllid

Mae gennym dîm gwych o academyddion sy’n cynnig arbennigedd eang a chyfunol, a gafwyd o brofiad proffesiynol ac ymchwil academaidd. Mae’n tîm academaidd wedi goruchwylio ystod eang o bapurau ymchwil ôl-ddoethurol ac maent wedi defnyddio eu gwybodaeth i ddatblygu rhaglenni busnes, rheolaeth a chyllid unigryw a nodedig er budd ein holl fyfyrwyr is-raddedig ac uwch-raddedig.

Mae’r arbenigedd ymchwil sy’n cael ei gynrychioli yn ein Hysgol wedi galluogi ni i ddatblygu partneriaethau gwych gyda chwmnїau mewn busnes, diwydiant a masnach a rhydwaith byd-eang o gysylltiadau academaidd a phartneriaethau gyda sefydliadau academaidd eraill.

Yn ogystal â’r ystod eang o ddiddordebau ymchwil a gynrychiolwyd gan ein cyfadran academaidd, rydym wedi denu cydnabyddiaeth ar gyfer meysydd penodol o arbenigedd ymchwil, a gynrychiolir gan ein canolfannau ymchwil.

Canolfannau Ymchwil