Cyflogadwyedd

I lwyddo mewn marchnad swyddi gystadleuol, mae angen sgiliau cyflogadwyedd sy’n ategu eich cynllun gradd.

Pan fyddwch yn astudio yn Ysgol Fusnes Aberystwyth byddwn yn gweithio gyda chi i wneud yn siŵr eich bod yn cael eich paratoi gyda'r sgiliau a'r profiad i ddechrau gyrfa wych.

Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn cynnig cyfleoedd profiad gwaith hir dymor i roi hwb i’ch CV. Mae'r cynllun Blwyddyn Mewn Gwaith (BMG) yn cynnwys blwyddyn mewn cyflogaeth, gyda thâl, rhwng eich ail a thrydedd flwyddyn o astudio. Mae’n gyfle gwych i ddarganfod mwy am yrfa posibl, tra'n ennill cyflog.

Rydym hefyd yn argymell eich bod yn ymuno â’r Gymdeithas Fusnes sy’n cael ei arwain gan fyfyriwr yr Ysgol Fusnes, Y Biz, neu'r Gymdeithas Economeg am fwy o gyfleoedd profiad gwaith yn ogystal â chyfle i drafod materion busnes a rheolaeth gyda phobl o'r un anian mewn lleoliad anffurfiol.

Rydym yn falch iawn o’r llwyddiant sy’n cael ei fwynhau gan fyfyrwyr a graddedigion Ysgol Fusnes Aberystwyth. Darllenwch y dolenni isod i ddarllen am brofiad ein myfyrwyr.