Cyfnewidfa Busnes ac Arloesi Canolbarth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth

Digwyddiad Ysgol Fusnes Aberystwyth

Digwyddiad Ysgol Fusnes Aberystwyth

12 Mawrth 2026

Bydd busnesau o bob rhan o’r Canolbarth yn dod at ei gilydd i drafod heriau allweddol sy’n wynebu’r sector mewn digwyddiad wedi’i drefnu gan Brifysgol Aberystwyth fis nesaf.

Cynhelir Cyfnewidfa Busnes ac Arloesi Canolbarth Cymru gan Ysgol Fusnes Aberystwyth ac ArloesiAber mewn nifer o leoliadau ar gampws Prifysgol Aberystwyth, gan gynnwys Canolfan y Celfyddydau ac ArloesiAber yng Ngogerddan.

Bydd y gyfnewidfa’n archwilio heriau’r byd go iawn i fusnesau, gan gynnwys Sero Net ac Economi Gylchol, seiberddiogelwch ac effaith Deallusrwydd Artiffisial ac awtomeiddio.

Bydd sesiynau yn trafod heriau sy'n wynebu sectorau penodol a'r economi yn gyffredinol, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i rwydweithio.

Bydd y digwyddiad, sy’n cael ei gynnal ar ddydd Mercher 22 Ebrill, yn amlygu sut mae Prifysgol Aberystwyth yn ymgysylltu gyda busnesau drwy ymgynghori, ymchwil dan gontract ac arbenigedd ymarferol i gefnogi economi Canolbarth Cymru.

Dywedodd yr Athro Homagni Choudhury, Pennaeth Ysgol Fusnes Aberystwyth:

“Rydym ni’n falch iawn o lansio'r fenter hon mewn partneriaeth ag ArloesiAber. Gan ddod â busnesau, rhanddeiliaid rhanbarthol a chymuned y Brifysgol ynghyd, bydd y Gyfnewidfa yn creu gofod ar gyfer sgyrsiau ystyrlon am yr heriau a'r cyfleoedd sy'n llunio dyfodol ein heconomi ranbarthol.

“Wedi’i gwreiddio yn y Canolbarth, mae Ysgol Fusnes Aberystwyth wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda mentrau, llunwyr polisi a chymunedau i gefnogi arloesedd, cryfhau galluoedd rhanbarthol a chyfrannu at dwf economaidd cynaliadwy. Mae digwyddiadau fel hyn yn helpu i feithrin perthnasoedd newydd, codi proffil mentrau lleol ac amlygu’r ffyrdd y gall Prifysgol Aberystwyth gefnogi sefydliadau i aros yn gystadleuol, yn wydn ac yn canolbwyntio ar y dyfodol.

“Mae’r digwyddiad hwn hefyd yn adlewyrchu cenhadaeth ddinesig ehangach y Brifysgol – i weithredu fel partner yn natblygiad economaidd a chymdeithasol ein rhanbarth. Mae ein Hysgol yn gweld hyn fel dechrau rhaglen barhaus o ymgysylltu â busnesau a rhanddeiliaid rhanbarthol. Rydym ni’n edrych ymlaen at ddatblygu hyn yn ddigwyddiad blynyddol ochr yn ochr â chyfres ehangach o weithredoedd a gynlluniwyd i gefnogi economi’r Canolbarth.”

Ychwanegodd Dr Rhian Hayward, Prif Swyddog Gweithredol ArloesiAber:

“Rydym ni’n edrych ymlaen i groesawu busnesau o bob rhan o’r Canolbarth i’r digwyddiad hwn. Mae’n gyfle i ystyried yr heriau sy’n dod i’r amlwg fel cynaliadwyedd, newidiadau technolegol a chadwyni cyflenwi. Mae ArloesiAber bellach yn ei 5ed flwyddyn o weithrediad, ac ynghyd â Phrifysgol Aberystwyth ac IBERS, rydym ni'n cefnogi cydweithredu tuag at dwf economaidd ar draws sectorau allweddol a chyflymu arloesi. Mae’n gyfle gwych i rannu hyn yn eang a gwneud cysylltiadau newydd a all elwa o’n hecosystem.”

Am fwy o wybodaeth neu er mwyn archebu lle ar gyfer y digwyddiad, ewch i:
mid-wales-business-and-innovation-exchange.eventbrite.co.uk