Adran 8.6 - Sefydlu Partneriaeth ac Amserlenni ar gyfer Datblygu

Ar y dudalen hon
Siartiau llif

Bydd y raddfa amser ar gyfer datblygu cyswllt cydweithrediadol yn amrywio yn ôl maint, cymhlethdod, a risg y prosiect. Gall prosiect gymryd amser sylweddol i symud yn ei flaen trwy'r cyfnod datblygu, yn enwedig os yw'r rhaglenni arfaethedig yn rhai newydd, neu os oes angen cymeradwyaeth corff allanol, proffesiynol neu lywodraethol. Mae'r llinellau amser a'r dyddiadau cau dewisol canlynol yn dangos isafswm y cyfnod amser y gall gymryd i raglen gael ei datblygu ac fe ddylid eu hystyried yn ganllawiau i adrannau sy'n bwriadu cyflwyno cynigion. Gellir cyflwyno cynigion i gyfarfodydd Bwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol yn nes ymlaen ond dylai'r cynigwyr fod yn ymwybodol y bydd denu myfyrwyr i raglenni yn debygol o gael ei oedi oherwydd hynny.

 

 

Cynlluniau Cyfnewid, Dysgu seiliedig ar waith sy'n rhoi credydau

Cydweddu, Symud Ymlaen, Ymchwil Gydweithediadol, DPP sy'n rhoi credydau

Dysgu-o-Bell Cydweithrediadol, Gradd Gydweithediadol (sy’n bod eisoes)

Rhyddfraint, Dilysu, Gradd Gydweithrediadol (newydd), Cangen Gampws

Risg Dangosol

Isel / Canolig

Canolig

Uchel / Uchel Iawn

Uchel / Uchel Iawn

Isafswm Cyfnod Amser

3 - 4 mis

4 - 6 mis

9 - 12 mis i Gymeradwyo

(+ hyd at 12 mis i ddenu myfyrwyr)

12 mis i Gymeradwyo

(+ hyd at 12 mis i ddenu myfyrwyr)

Cam 1

Paratoi'r Cynnig

1 mis

1 - 2 fis

Tymor yr Hydref/y Gwanwyn

Tymor yr Hydref

Cynnig i Fwrdd y Ddarp_Gyd (cymeradwyo Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth)

Pwyllgor Cyntaf Posibl

Pwyllgor Cyntaf Posibl

Gwanwyn/Haf

Chwefror

Cam 2

Cam Datblygu

Un Tymor

Un Tymor

Tymor y Gwanwyn / yr  Haf

Tymor y Gwanwyn

Diweddariad ac Adolygiad i Fwrdd y Ddarp_Gyd

***********

***********

Cyfarfod yr Haf Bwrdd y Ddarp_Gyd

Cyfarfod yr Bwrdd y Ddarp_Gyd

Paratoi i Ddenu Myfyrwyr

***********

***********

Awst-Medi

Awst-Medi

Cymeradwyaeth Derfynol (llofnodi Memorandwm o Gytundeb)

Pwyllgor Cyntaf Posibl

Pwyllgor Cyntaf Posibl

Pwyllgor Mai/Medi

Pwyllgor Medi

Cam 3

Agor i Ddenu Myfyrwyr

Ceir denu a chofrestru myfyrwyr yn dilyn cymeradwyaeth derfynol

Fel sy'n briodol ar gyfer y Flwyddyn Academaidd Nesaf

Mis Hydref (ymlaen)

Datblygiad Gweithredol

Hyd at Flwyddyn Academaidd gyfan

Cwrs yn Dechrau

Y Flwyddyn Academaidd Ganlynol

Gall cynigion am bartneriaethau newydd ddod gan staff yn yr adrannau, gan uwch reolwyr neu gan y partneriaid allanol eu hunain. O ble bynnag y deilliant, Bwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol sy'n rheoli'r drefn o gloriannu darpar bartneriaid newydd, a'u hailgloriannu'n achlysurol, trwy gydgysylltu â Chyfadrannau, y Gofrestrfa Academaidd-Swyddfa Partneriaethau Cydweithrediadol, y Swyddfa Ryngwladol (lle bo'n addas) a'r Swyddfa Gyllid. Mae cynigion ar lefel y rhaglen, os ydynt gyda phartner presennol neu bartner newydd ei gymeradwyo, yn amodol ar gael eu hawdurdodi gan y Bwrdd Academaidd.

Rhaid i bob cynnig gyd-daro â'r egwyddorion sylfaenol ar gyfer datblygu gweithgareddau partneriaeth gydweithrediadol. Ni ddylid sefydlu darpariaeth gydweithrediadol am resymau ariannol yn unig a rhaid iddynt gydweddu â blaenoriaethau strategol a chryfderau academaidd y Gyfadran a'r Brifysgol.

Anogir adrannau a phartneriaid posibl i drafod unrhyw drefniant cydweithrediadol posibl â staff y Gofrestrfa Academaidd-Swyddfa Partneriaethau Cydweithrediadol yn gynnar er mwyn ymgyfarwyddo â'r drefn ac unrhyw ddogfennau angenrheidiol.

Rhaid i holl drefniadau partneriaeth gydweithrediadol gael eu trafod, eu cytuno a'u rheoli yn unol â pholisïau, gweithdrefnau a rheoliadau ffurfiol y sefydliad sy'n dyfarnu cymhwyster. Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithio yn ôl dull seiliedig ar risg, felly bydd diwydrwydd dyladwy ac asesiadau risg cymesur yn cael eu cwblhau cyn symud y prosiect ymlaen i'r cyfnod cymeradwyo llawn. Hefyd, bydd angen darparu gwybodaeth ynglŷn â'r llinell amser ar gyfer cymeradwyo a sefydlu partneriaeth i'r darpar bartner yn gynnar. Ni ddylid cymryd bod trafodaethau cychwynnol yn arwydd sy'n awgrymu cytundeb terfynol i'r cynnig.

Codir ffioedd am ddatblygu prosiectau risg uchel, megis cytundebau Rhyddfraint a Dilysu, a dylid cynnwys y rhain yn yr achos busnes. Anogir cydweithwyr i drafod trefniadau ffioedd ar gyfer darpariaeth rhyddfraint a darpariaeth ddilysu â'r Dirprwy Gofrestrydd Partneriaethau Academaidd yn gynnar yn natblygiad unrhyw gynnig.

Siartiau llif
Proses Datblygu a Chymeradwyo Partneriaethau Academaidd ar gyfer Cytundebau Partneriaeth Isel-Canolig eu Risg
Proses Datblygu a Chymeradwyo Partneriaethau Academaidd ar gyfer Cytundeb Partneriaeth