Adran 8.7 - Rheoli Cymeradwyaeth ac Ôl-gymeradwyaeth

Mae tri chyfnod i drefn y Brifysgol o ddatblygu Partneriaethau. Sef, trefn gymeradwyo mewn dau gam, a ddilynir gan drydydd cyfnod Gweithrediadol cyn y gellir dechrau cyflenwi'r ddarpariaeth:

Cam

 

Pwynt Terfyn

1

Cymeradwyaeth Strategol

(Cyfnod Cynllunio)

 

Gweler y Bennod Ansawdd - Adran 8.9: canys Siartiau llif a Canllawiau

  • Trafodaeth a chefnogaeth y Gyfadran
  • Diwydrwydd Dyladwy ac Asesiadau Risg Cychwynnol
  • Llofnodi a Chyfnewid Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth
  • Cymeradwyaeth i'r cais i symud ymlaen gan archwilwyr penodedig (prosiectau risg isel)

neu

  • Cymeradwyaeth i'r cais i symud ymlaen gan Bwyllgor Materion Academaidd y Gyfadran/Bwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol (prosiectau risg canolig-uchel)

2

Cymeradwyaeth y Brifysgol

(Cyfnod Archwilio Manwl a Datblygu)

 

Gweler y Bennod Ansawdd - Adran 8.9: canys Siartiau llif a Canllawiau

  • Diwydrwydd Dyladwy ac Asesiadau Risg
  • Cymeradwyaeth Bwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol (i brosiectau risg isel-canolig)
  • Adroddiadau ac argymhelliad y Bwrdd i symud ymlaen i'r Achos Busnes
  • Cymeradwyaeth y Senedd (prosiectau risg canolig-uchel)
  • Llofnodi a Chyfnewid Memorandwm o Gytundeb

3

Cam Ôl-Gymeradwyaeth

(Cyfnod Sefydlu a Datblygu Gweithredol)

 

Gweler y Bennod Ansawdd - Adran 8.9: canys Siartiau llif a Canllawiau


 

  • Derbyn Myfyrwyr: Trefn UCAS
  • Marchnata: Cynllunio a chytuno ar strategaeth
  • Cyfadran/Adran: Cynlluniau a modiwlau
  • Llawlyfrau: Gweithredol a Myfyrwyr
  • Trefnu Safle'r Rhith-amgylchedd dysgu (Blackboard) (GG)
  • Y Gofrestrfa: Polisïau, Rheolau a Rheoliadau
  • Cyllid: Trefn Cyllid Myfyrwyr a'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr
  • Derbyn Myfyrwyr: Agor i Ddenu Myfyrwyr
  • Cofrestru
  • Cwrs yn Dechrau
  • Monitro a Chydymffurfio

 

Yn unol â gofynion 'Cod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch - Partneriaethau', mae'r Brifysgol yn cynnal diwydrwydd dyladwy cymesur wrth ddatblygu a chymeradwyo prosiectau cydweithrediadol. Caiff y gweithdrefnau hyn eu teilwra yn unol â natur y prosiect cydweithrediadol a lefel benodol ei risg. Cyfeiriwch at y raddfa amser ar gyfer datblygu a ddisgrifir ym Mhennod Ansawdd - Adran 8.6 Graddfeydd Amser ar gyfer Datblygu i gael canllaw er mwyn gweld faint o amser ddylid ei roi ar gyfer y prosesau hyn.

Mae Proses Datblygu a Chymeradwyo'r Brifysgol ar gyfer gweithgareddau Partneriaeth Gydweithrediadol yn cynnwys y tri cham canlynol. Mae pwynt terfyn clir i bob cam sy'n sbarduno cychwyn y cam nesaf. Yn achos prosiectau mwy o faint, bydd bwrdd y prosiect yn cydlynu'r datblygiad trwy bob cam gan sefydlu graddfeydd amser, cynlluniau a llif gwaith manwl.