Adran 8.1 - Cyflwyniad

Mae prifysgolion y DU yn gweithredu mewn amgylchedd sy'n dod yn fwyfwy globaleiddiedig, ac yn defnyddio partneriaid strategol cenedlaethol a rhyngwladol i hyrwyddo ystod o gyfleoedd dysgu i fyfyrwyr.

Mae partneriaethau cydweithredol Aberystwyth yn defnyddio'r egwyddorion arweiniol a nodir yng Nghod Ansawdd ar gyfer yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd  Uwch(QAA) – yn benodol Egwyddor 8 (Gweithredu partneriaethau â sefydliadau eraill) ac adran Cyngor ac Arweiniad (Partneriaethau) y Cod.  

Rheoli, Sicrhau Ansawdd a Throsolwg

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, Pwyllgor Ddarpariaeth Gydweithrediadol sy'n gyfrifol am reoli ac arolygu gweithgaredd cydweithrediadol y Brifysgol ym Mhrydain ac yn rhyngwladol, ac am sicrwydd ansawdd y ddarpariaeth. Mae hyn yn cynnwys ymgeisio am drefniadau Partneriaeth, eu hasesu, ac adolygu'r holl drefniadau, a sicrhau bod yr holl ddogfennau perthnasol ar gael os gwneir cais i'w hadolygu. Mae'r Pwyllgor yn sicrhau bod y Brifysgol a'i sefydliadau partner yn cadw at God Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch.

Y Pwyllgor sy'n cadw arolygaeth gyffredinol ar y Cod Ansawdd DU diwygiedig, ac mae ganddo'r cyfrifoldeb am fonitro a chloriannu safonau ac ansawdd academaidd y rhaglenni, gan gynnwys asesu ac adolygu mewnol ac allanol, ac mae'n gyfrifol am y themâu canlynol: Partneriaethau.

Mae Pwyllgor Ddarpariaeth Gydweithrediadol yn un o is-bwyllgorau'r Senedd. Y Senedd yw awdurdod academaidd y Brifysgol, ac mae'n atebol i'r Cyngor am swyddogaethau academaidd y Brifysgol - y dysgu a'r ymchwil - ac am reoleiddio buddiannau academaidd y myfyrwyr. Mae cynrychiolaeth o blith y myfyrwyr yn bresennol yng nghyfarfodydd y Pwyllgor a'r Senedd.

Partneriaethau Academaidd

Mae'r Swyddfa Partneriaethau Academaidd yn canolbwyntio'n bennaf ar sicrwydd ansawdd ar gyfer darpariaeth sy'n arwain at ddyfarnu credyd academaidd sy'n cael ei ddarparu, ei asesu neu ei gefnogi mewn partneriaeth rhwng dau neu fwy o sefydliadau. (Ffynhonnell:  Cod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch – Cyngor ac Arweiniad: Partneriaethau; ASA, 2018)

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymrwymedig i feithrin perthynas gadarn â phartneriaid, yn y DU a thramor, sy'n rhannu ei gweledigaeth a'i hethos i ddarparu addysgu o ansawdd uchel a dywysir gan ymchwil a phrofiad myfyriwr eithriadol.

Mae adran Partneriaethau Academaidd y Llawlyfr Ansawdd yn rhoi'r rheoliadau swyddogol ar gyfer datblygu, rheoli ac adolygu gweithgareddau cydweithrediadol.⁠ 

Cynlluniwyd y cyfarwyddyd a ddarperir i hyrwyddo arfer da wrth ddatblygu Partneriaethau a sicrhau sefydlu systemau priodol a chymesur i nodi, rheoli a lleddfu'r risgiau. Mae'r dull seiliedig ar risg wedi'i gynllunio i gefnogi Cyfadrannau i ddatblygu portffolio Partneriaethau mewn dull sy'n diogelu ansawdd cymwysterau Prifysgol Aberystwyth, profiad y myfyrwyr ac ansawdd y cyfleoedd dysgu a gynigir.