Adran 8.3 - Prif Egwyddorion

Yng nghyswllt 'Partneriaethau', mae Cod Ansawdd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA) yn nodi'r disgwyliadau canlynol i’w cyflawni gan y Brifysgol:

"Mae darparwyr yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau, gan gynnwys cyrff dyfarnu, darparwyr addysg eraill, darparwyr an-academaidd (neu rai nad yw eu prif ddiben yn un addysgiadol) a gweithwyr. Wrth wneud hynny, mae'r cyrff dyfarnu yn cadw cyfrifoldeb am safonau academaidd eu dyfarniadau ac am ansawdd profiad y myfyrwyr."

Yn arbennig:

Disgwyliadau am safonau:

  • Bod safonau academaidd y cyrsiau yn cyflawni gofynion y fframwaith cymwysterau gwladol perthnasol.

Wrth weithio mewn partneriaeth, mae'r corff dyfarnu yn cadw cyfrifoldeb am safonau academaidd ei ddyfarniadau, gan sicrhau bod y safonau trothwy ar gyfer ei gymwysterau yn gyson â'r fframweithiau cymhwyster gwladol perthnasol.

  • Bod gwerth y cymwysterau a ddyfernir i fyfyrwyr ar adeg cymhwyso a thros amser yn unol â safonau a gydnabyddir gan y sector.

Wrth weithio mewn partneriaeth, mae'r corff dyfarnu yn cadw cyfrifoldeb am sicrhau bod safonau academaidd, ar a thu hwnt i'r lefel trothwy, yn gallu cael eu cymharu'n rhesymol â'r rhai a enillir gan ddarparwyr eraill ym Mhrydain.

Disgwyliadau am ansawdd:

  • Bod y cyrsiau wedi'u cynllunio'n dda, yn darparu profiad academaidd o safon uchel i bob myfyriwr ac yn caniatáu asesiad dibynadwy o gyflawniad myfyrwyr.

Wrth weithio mewn partneriaeth, mae'r corff dyfarnu yn cadw cyfrifoldeb am sicrhau y gellir ystyried bod pob agwedd ar brofiad academaidd y myfyrwyr, o'u derbyn i’r Brifysgol tan y canlyniadau, o safon uchel. Mae'r sefydliad dyfarnu hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod gan fyfyrwyr gyfleoedd ar gyfer gwella.

  • O'u derbyn i'r Brifysgol tan iddynt gwblhau, bod yr holl fyfyrwyr yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt i lwyddo ac i elwa o addysg uwch.

Wrth weithio mewn partneriaeth, mae'r corff dyfarnu yn cadw cyfrifoldeb am sicrhau bod anghenion myfyrwyr yn cael eu cyflawni'n gyson.                                      

Cod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch – Cyngor ac Arweiniad: Partneriaethau; 29 Tachwedd 2018; ASA.

I gyflawni hyn, mae'r Brifysgol wedi mabwysiadu'r egwyddorion allweddol canlynol sy'n sail i'w pholisi ar gyfer datblygu trefniadau i bartneriaethau cydweithrediadol:

  • Rhaid i weithgareddau Partneriaeth fod yn gyson ag amcanion strategol trosfwaol y Brifysgol, gan gynnwys y Strategaeth Ryngwladol, a chydymffurfio â safonau ac egwyddorion sefydledig ar gyfer datblygu darpariaeth gydweithrediadol;
  • Datblygir gweithgareddau Partneriaeth gyda phartneriaid o ansawdd uchel sy'n rhannu gweledigaeth a strategaeth y Brifysgol ar gyfer darparu addysgu safonol a dywysir gan ymchwil.

Rhaid i Ddarpariaeth Partneriaeth Gydweithrediadol:

1. gynyddu enw da'r Brifysgol yn ogystal â'r Gyfadran dan sylw; a/neu

2. ehangu mynediad at Addysg Uwch, gan ennyn diddordeb cymunedau mewn dysgu a hyrwyddo gwybodaeth;

  • Bod y sefydliad dyfarnu (Aberystwyth yn nodweddiadol) yn cymryd cyfrifoldeb terfynol am safonau ac ansawdd academaidd y dysgu a ddarperir ar ei ran, ymhle bynnag a chan bwy bynnag y bydd hynny'n digwydd;
  • Rhaid i ddarpariaeth y Bartneriaeth sicrhau ansawdd academaidd a phrofiad myfyriwr sy’n gyfwerth neu’n uwch. Ni ddylai unrhyw weithgaredd cydweithrediadol danseilio statws yr addysg na'r cymwysterau a gynigir gan y Brifysgol.
  • Rhaid i ddarpariaeth partneriaeth fod yn gynaliadwy'n ariannol ac yn ddarostyngedig i gytundeb sy'n rhwymo mewn cyfraith yn nodi telerau ariannol y trefniadau;
  • Mae gweithgareddau partneriaeth yn amodol ar brosesau datblygu, cymeradwyo ac adolygu a amlinellir yn y Llawlyfr Ansawdd, gan gynnwys monitro blynyddol, adolygu achlysurol a gweithdrefnau adnewyddu/terfynu fel sy'n briodol;
  • Rhaid i ddarpariaeth partneriaeth fod mewn maes y mae gan y Brifysgol arbenigedd ynddo a rhaglenni cyffelyb, a rhaid i'r adran/adrannau perthnasol yn y Brifysgol fod yn ymwneud yn weithredol â'r ddarpariaeth. Gall y rhaglen hefyd fod yn un, neu fwy, o raglenni llawn neu'n rhan o un o raglenni cymeradwy'r Brifysgol.
  • Rhaid i amcanion addysgiadol y partner sefydliad fod yn gydnaws â rhai'r Brifysgol. Bydd y Brifysgol yn ei sicrhau ei hun bod gan y darpar bartner yr isadeiledd academaidd addas a gwasanaethau ategol i sicrhau bod y safonau addas o reoli a gwella ansawdd wedi'u sefydlu ac yn cael eu cynnal.
  • Bydd gan y partner sefydliad weithdrefnau llywodraethu cadarn yn eu lle er mwyn dilyn y prosesau angenrheidiol ar gyfer sicrhau ansawdd;
  • Sicrheir bod holl elfennau rhaglen gydweithrediadol yn cael eu darparu a'u hasesu yn Gymraeg neu Saesneg oni bai bod yr elfen yn rhan o gwrs nad yw'n Gymraeg nac yn Saesneg, ond yn ymwneud â dysgu iaith arall.

Nid yw'r Brifysgol yn cymryd rhan mewn trefniadau cyfresol ar gyfer darpariaeth gydweithrediadol. Ni chaiff cynigion am drefniadau o'r fath eu cymeradwyo. Mae trefniant cyfresol yn digwydd os yw'r sefydliad sy'n darparu rhaglen (trwy ei drefniant ei hun) yn cynnig rhaglenni cyfain (a ryddfreiniwyd iddo neu a ddilyswyd gan Aberystwyth fel corff dyfarnu gradd) i rywle arall neu'n aseinio i barti arall bwerau a ddirprwywyd iddo gan y corff dyfarnu graddau.