Adran 8.8 - Cyfrifoldebau'r Sefydliad sy'n Dyfarnu

Cyhoeddusrwydd

Rhaid i'r sefydliad dyfarnu sicrhau bod ganddo reolaeth effeithiol ar bob gwybodaeth gyhoeddus, cyhoeddusrwydd a gweithgaredd hyrwyddo sy'n gysylltiedig â'i ddarpariaeth gydweithrediadol. Rhaid i'r sefydliad dyfarnu sicrhau bod yr holl wybodaeth gyhoeddus yn cydymffurfio â chanllawiau'r ASA, yn ogystal â chanllawiau Diogelu Defnyddwyr a'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (neu ganllawiau cyfatebol). 

Bydd cofnod cwbl gyfredol ac awdurdodol o bartneriaethau ac asiantaethau cydweithrediadol PA a rhestr o'r rhaglenni cydweithrediadol a weithredir trwy'r partneriaethau neu'r asiantaethau hyn yn rhan o'r wybodaeth gyhoeddus am y Brifysgol.

Gweithredu

Ar ôl i drefniant am bartneriaeth gydweithrediadol gael ei gymeradwyo gan Fwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol, cyfrifoldeb Arweinydd Rhaglen y Bartneriaeth Academaidd yn y Gyfadran berthnasol yw rhoi'r cytundeb sy'n llywodraethu'r trefniant ar waith o fewn 12 mis i lofnodi'r Memorandwm o Gytundeb. Nid cyfrifoldeb y Bwrdd yw hyn. Yn achos cytundebau sy'n ymwneud â'r Brifysgol yn gyffredinol, neu rai sy'n cwmpasu mwy nag un Gyfadran, gan yr unigolyn a enwir yn brif gyswllt i'r cynnig y bydd y cyfrifoldeb pennaf am sicrhau bod y cytundeb yn cael ei weithredu'n unol a'i delerau. Os na weithredir y trefniant cydweithrediadol o fewn 12 mis, rhaid gofyn am ganiatâd y Bwrdd i'w weithredu yn nes ymlaen a rhaid i'r achos busnes gael ei adolygu gan y Cyfarwyddwr Cyllid neu gan Weithrediaeth y Brifysgol (fel sy'n briodol).

 

Safonau Academaidd

Y sefydliadau dyfarnu graddau sydd yn cymryd cyfrifoldeb terfynol am safonau ac ansawdd academaidd y cyfleoedd dysgu a ddarperir, ymhle bynnag a chan bwy bynnag y bydd hynny'n digwydd. Mae'r Brifysgol yn uniongyrchol gyfrifol am safonau academaidd yr holl ddyfarniadau a roddir yn ei henw. Dylai safonau academaidd yr holl ddyfarniadau a wneir o dan drefniant partneriaeth gydweithrediadol gyflawni gofynion canllaw Cod Ansawdd Addysg Uwch yr ASA ar gyfer y DU.

Gan y sefydliad dyfarnu mae'r cyfrifoldeb yn y pen draw am sicrhau bod ansawdd y cyfleoedd dysgu a gynigir trwy drefniant cydweithrediadol yn ddigonol i roi'r myfyriwr mewn sefyllfa i gyrraedd y safon academaidd angenrheidiol i ennill ei ddyfarniad.

Mae'r cyfrifoldeb am ansawdd a safonau academaidd y cwrs yn nwylo Pwyllgor Materion Academaidd y Gyfadran a Bwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol.

Rhaid i safonau academaidd yr holl ddyfarniadau a wneir o dan drefniant cydweithrediadol, gan gynnwys graddau cydweithrediadol, gyflawni disgwyliadau Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru a Chod Ansawdd yr ASA.

Rhaid i bolisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol sicrhau bod amddiffyniadau digonol ar gael i wrthsefyll temtasiynau ariannol neu demtasiynau eraill a allai gyfaddawdu safonau academaidd neu ansawdd y cyfleoedd dysgu.

Staff Cymeradwy

Rhaid i'r Brifysgol ei bodloni ei hun bod y staff sy'n addysgu neu'n cynorthwyo rhaglen gydweithrediadol wedi cymhwyso'n briodol ar gyfer y gwaith, a bod gan y partner sefydliad ddulliau effeithiol i fonitro a sicrhau gallu staff ac asiantaethau o'r fath sy'n gweithredu ar ei ran

Bydd yn gyfrifoldeb ar y Gyfadran dan sylw i gadarnhau'n flynyddol bod pob aelod o dîm y partner sefydliad sy'n ymwneud ag addysgu neu gynorthwyo rhaglen gydweithrediadol yn gwbl gymwys ac yn hollol gyfarwydd â manylion gweithredol y rhaglen/rhaglenni astudio, gan gynnwys gofynion asesu, meysydd llafur, amserlenni, adnoddau, a dulliau a lefelau disgwyliedig y dysgu a'r addysgu. Cedwir rhestr gyfredol o'r staff a gymeradwywyd i addysgu ar y rhaglen a gymeradwywyd gan Adran/Gyfadran y Brifysgol. Ni chaiff aelodau staff addysgu ar y rhaglen oni bai eu bod wedi'u cymeradwyo a'u rhestru'n ffurfiol.

Denu a Derbyn Myfyrwyr

Diffinnir y gofynion derbyn a threfn ymgeisio yn nogfennau'r rhaglen ac maent yn dilyn gweithdrefnau cydnabyddedig cenedlaethol yn ogystal â rhai'r Brifysgol, fel sydd wedi'u diffinio yn y polisïau a'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â Derbyn Myfyrwyr.

Rhaid i drefniadau derbyn, gan gynnwys am Achredu Dysgu Blaenorol ac Achredu Dysgu trwy Brofiad Blaenorol, gydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau perthnasol y Brifysgol. Gweithredir y drefn derbyn myfyrwyr yn unol â'r meini prawf a nodwyd ym Manyleb y Rhaglen.

Dim ond myfyrwyr sy'n cwrdd â safonau gofynnol Rhuglder Iaith Gymraeg a Saesneg y gall y Brifysgol eu derbyn.

Cyfrifoldebau tuag at Fyfyrwyr

Rhaid i ddarpar-fyfyrwyr gael eglurhad clir a realistig o'r hyn a ddisgwylir ohonynt o ran astudio, gan gynnwys natur a graddfa’r dysgu annibynnol, y dysgu cydweithrediadol a'r dysgu a gynorthwyir, ac ymrwymiadau'r sefydliad dyfarnu a darparwr y cymorth (os yw'n briodol) ar gyfer cynorthwyo rhaglen neu elfen o raglen.

Rhaid i'r sefydliad dyfarnu gadw golwg gyson ar yr wybodaeth a roddir gan y partner sefydliad neu asiantaeth i ddarpar fyfyrwyr a rhai sydd wedi cofrestru ar raglen gydweithrediadol.

Rhaid i ddarpar fyfyrwyr gael disgrifiadau o unedau cydrannol neu fodiwlau rhaglen neu elfen astudio, er mwyn gweld y canlyniadau dysgu arfaethedig, a dulliau dysgu, addysgu ac asesu'r uned neu fodiwl, a chael amserlen glir ar gyfer cyflenwi eu deunydd astudio ac ar gyfer asesu eu gwaith.

Rhaid i'r sefydliad dyfarnu sicrhau bod myfyrwyr yn hyderus:

Bod y gefnogaeth neu gymorth i ddysgwyr, os yw'n cael ei roi gan staff y darparwr cymorth neu trwy sianelau ar y we neu ddulliau dosbarthu eraill, yn cwrdd â'r disgwyliadau a nodwyd gan y sefydliad dyfarnu ar gyfer ansawdd y cymorth i raglenni astudio sy'n arwain at un o'i ddyfarniadau;

Bod unrhyw raglen neu elfen astudio a gynigir wedi'u profi am ddibynadwyedd y drefn o'u cyflenwi, a bod cynlluniau wrth gefn yn eu lle pe byddai'r dulliau cyflenwi a gynlluniwyd yn methu;

Bod trefn gyflenwi rhaglen neu elfen astudio a gyflenwir trwy ddulliau e-ddysgu yn addas i'w diben, a'i bod ar gael yn ddigonol ac am gyfnod priodol;

Bod unrhyw ddeunydd astudio a gyflenwir yn uniongyrchol i fyfyrwyr o bell trwy, er enghraifft, ddulliau e-ddysgu neu ohebiaeth, yn ddiogel a dibynadwy, a bod dull ar gael i gadarnhau iddo gael ei dderbyn yn ddiogel.

Rhaid i fyfyrwyr allu cael:

Manylion unrhyw gymorth sydd ar gael i ddysgwyr trwy weithgareddau ar yr amserlen, er enghraifft sesiynau tiwtorial neu gynadleddau ar y we;

Gwybodaeth glir a chyfredol am y cymorth dysgu sydd ar gael iddynt yn lleol ac o bell ar gyfer eu rhaglen neu elfennau astudio;

Enw unigolyn cyswllt, naill ai'n lleol neu o bell trwy e-bost, ffôn, ffacs neu bost, a all rhoi adborth adeiladol iddynt ar eu perfformiad academaidd ac arweiniad awdurdodol ynglŷn â'u cynnydd academaidd;

Cyfle'n rheolaidd i rannu profiadau o'r rhaglen â myfyrwyr eraill, er mwyn hwyluso dysgu cydweithrediadol ac i roi sail ar gyfer hwyluso'u cyfranogiad yn nhrefn sicrhau ansawdd y rhaglen;

Cyfleoedd priodol i roi adborth ffurfiol am eu profiad o'r rhaglen.

Asesu Myfyrwyr ar Raglenni a Ddysgir trwy Gwrs

Asesu Myfyrwyr ar Raglenni a Ddysgir trwy Gwrs

Rhaid rhoi disgrifiad o gwmpas, cynnwys a strategaeth asesu rhaglen gydweithrediadol ym Manyleb y Rhaglen. Yn ogystal â dogfennau'r rhaglen, bydd y Pwyllgor yn ystyried adroddiad y Tîm Ymweld.

Yn achos graddau cydweithrediadol: dyfarniadau ar y cyd, dwbl neu ddeuol, rhaid i unrhyw drefniadau trosglwyddo credydau sicrhau bod y cyrsiau a'r modiwlau sy'n cyfrannu at ddyfarniad Aberystwyth ac a gymerir yn y partner ar y lefel briodol, ac yn y pen draw bod myfyrwyr yn ennill nifer angenrheidiol y credydau a holl ganlyniadau dysgu'r rhaglen. Ymhob achos, 'credydau' yn hytrach na marciau a drosglwyddir. Ni chaniateir cyfrif dwbl o’r marciau.

Y sefydliad dyfarnu sy'n gyfrifol am sicrhau bod y canlyniadau asesu i raglen a ddarperir o dan drefniant cydweithrediadol yn cwrdd â lefel academaidd benodedig y dyfarniad, yn ôl diffiniad y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch yng nghyd-destun y datganiad/datganiadau meincnodi pwnc perthnasol.

Nodir y rheoliadau cymwys i bob rhaglen yn y Fanyleb Rhaglen berthnasol.

I raglenni a ddysgir trwy gwrs, ar wahân i gredyd a enillir mewn dyfarniad dwbl yn y partner sefydliad, cyflawnir pob dull asesu yn unol â pholisïau a gweithdrefnau asesu'r Brifysgol.

Rhaid i staff yng Nghyfadran berthnasol y Brifysgol archwilio cwestiynau arholiad, gwaith myfyrwyr a gwaith marcio staff y partner yn rheolaidd, yn enwedig yn ystod cyfnodau cychwynnol y bartneriaeth newydd.

Bydd gweithdrefnau'r Byrddau Arholi yn cael eu cynnal yn unol â rheoliadau'r Brifysgol. Dylid cyflwyno holl ganlyniadau'r asesu ar Lefel 4 a Lefel 5 i'r Bwrdd Arholi lefel Prifysgol perthnasol i'w cymeradwyo. Dylai holl ganlyniadau'r asesu am ddyfarniadau terfynol ar Lefel 4, 5, 6 a 7 gael eu hadrodd i Fwrdd Arholi'r Adran/Gyfadran er mwyn eu hystyried ar gyfer cyflwyno dyfarniad.

Bydd byrddau arholi ar gyfer graddau cydweithrediadol yn cael eu sefydlu yn ôl y diffiniad yn rheoliadau'r Brifysgol, ac yn cydymffurfio â'r bennod berthnasol yng Nghod Ansawdd yr ASA.

Rhaid i'r sefydliad dyfarnu sicrhau bod sefydliadau partner sy'n ymwneud ag asesu myfyrwyr yn deall a dilyn y safonau gofynnol, safonau a ddylai eu hunain gyfeirio at God Ansawdd yr ASA.

Rhaid i’r holl drefniadau arholi allanol ar gyfer rhaglenni a gynigir trwy bartneriaeth gydweithrediadol fod yn gyson â dulliau arferol y sefydliad dyfarnu. Rhaid i'r sefydliad dyfarnu gadw cyfrifoldeb terfynol am benodiad ac am swyddogaeth arholwyr allanol. Dylid dewis arholwyr allanol trwy gyfeirio at God Ansawdd yr ASA.

Bydd arholwr allanol y Brifysgol yn bresennol ym Mwrdd Arholi'r Ymgeiswyr Terfynol. Rhaid rhoi digon o wybodaeth a chyfarwyddyd sy’n gymeradwy gan y sefydliad dyfarnu i arholwyr allanol y rhaglenni cydweithrediadol, fel y gallant gyflawni eu swyddogaeth yn effeithiol. Bydd y Pwyllgor yn ystyried crynodeb o sylwadau'r arholwyr allanol yn rhan o'r adolygiad o adroddiadau'r Monitro Blynyddol o Raglenni a Ddysgir bob blwyddyn.

Rhaid i fyfyrwyr allu cael:

a) gwybodaeth am y dulliau ar gyfer barnu eu cyflawniadau, a phwysiad perthynol unedau, modiwlau neu elfennau'r rhaglen o ran asesu;

b) asesiad ffurfiannol amserol ar eu perfformiad academaidd i fod yn sail i adborth ac arweiniad unigol adeiladol, ac i ddangos disgwyliadau'r sefydliad dyfarnu ar gyfer asesiad cyfansymiol.

Rhaid i fyfyrwyr fod yn hyderus:

a) bod eu gwaith i'w asesu yn cael ei briodoli'n gywir iddynt hwy, yn enwedig mewn achosion lle mae'r asesu'n cael ei gyflawni trwy ddulliau o bell a allai fod yn agored i'w rhyng-gipio neu i ymyrryd â hwy mewn rhyw ffordd;

b) bod y rhai sy'n gyfrifol am asesu yn gallu cadarnhau mai gwaith gwreiddiol y myfyriwr hwnnw/honno yn unig yw'r gwaith a aseswyd, yn enwedig mewn achosion lle cyflawnir yr asesu trwy ddulliau o bell;

c) bod unrhyw beirianwaith, megis dulliau ar y we neu ohebiaeth, i drosglwyddo eu gwaith i'r aseswyr yn uniongyrchol, yn ddiogel a dibynadwy, a bod dull ar gael i brofi a chadarnhau bod y gwaith wedi'i dderbyn yn ddiogel.

Apeliadau, Cwynion a Chamymddygiad Academaidd

Rhaid rhoi gwybodaeth i ddarpar fyfyrwyr a rhai a gofrestrwyd ar raglen gydweithrediadol ynglŷn â'r sianelau priodol ar gyfer lleisio pryderon, cwynion ac apeliadau, a'i gwneud yn glir pa rai yw'r sianelau y gallant eu defnyddio i gysylltu'n uniongyrchol â'r sefydliad dyfarnu. Caiff y gweithdrefnau hyn amrywio yn ôl natur y cydweithrediad. Dylai myfyrwyr edrych ar eu tudalen Blackboard i gael cyfarwyddyd penodol ynglŷn â chyflwyno cwyn neu apêl.

Os gwneir apêl gan fyfyriwr yn erbyn asesiad o waith, rhaid i'r achos gael ei benderfynu bob tro trwy weithdrefn apeliadau'r Brifysgol sydd wedi'i nodi yn y rheolau a rheoliadau.

Yn dibynnu ar natur y gŵyn, bydd angen ei chodi'n ffurfiol naill ai gyda'r Brifysgol neu gyda'r partner cydweithrediadol.  Bydd y Brifysgol yn goruchwylio cwynion yn ymwneud â'r cwrs, safon yr addysgu, yr adnoddau, neu unrhyw fater perthnasol arall. Bydd hyn yn cael ei brosesu yn ôl y Weithdrefn Cwynion sydd mewn grym yn y Brifysgol ar adeg cofrestru'r gŵyn. Mae'r cyfeiriad yn y Drefn Cwynion at y rhan a chwaraeir gan y Pennaeth Adran yn cyfeirio yma at yr Arweinydd Rhaglen yn adran berthnasol y Partner mewn ymgynghoriad ag Arweinydd Rhaglen Partneriaeth Academaidd PA. Os yw'r gŵyn yn ymwneud ag ansawdd y Rhaglen ac os, ar ôl mynd ar drywydd y mater yn y partner sefydliad, y bydd y myfyriwr yn teimlo nad yw wedi ei thrin yn foddhaol, mae hawl gan y myfyriwr i ofyn am adolygiad terfynol gan Ddirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol. Oherwydd natur cydweithrediadau, efallai y bydd angen i'r Brifysgol sy'n archwilio i'r gŵyn gyd-gysylltu â'r partner cydweithrediadol er mwyn archwilio i'r gŵyn. Caiff pob cwyn ei thrin yn gwbl gyfrinachol bob amser.

Rhaid i'r partner sefydliad a'r Brifysgol gadw cofnod o bob apêl a chwyn a wneir gan fyfyrwyr, ac o ganlyniad pob cwyn sy'n cael eu hadrodd yn flynyddol i'r Bwrdd Academaidd.

Cyfrifoldebau'r Partner Sefydliad

Cyfrifoldebau'r Partner Sefydliad

Mae cyfrifoldebau'r partner sefydliad yn amrywio yn ôl y math o weithgaredd cydweithrediadol a'r manylion penodol a amlinellir yn y Memorandwm o Gytundeb sy'n llywodraethu'r cydweithrediad.

Tystysgrifau a Thrawsgrifiadau

Dim ond gan y Brifysgol y mae'r awdurdod i ddyfarnu tystysgrifau a thrawsgrifiadau yn gysylltiedig â'r rhaglenni astudio a ddarperir trwy gyfrwng rhaglenni cydweithrediadol.

Mae'r dystysgrif a'r/neu'r trawsgrifiad yn cofnodi:

a) Prif iaith y dysgu os yw'n iaith heblaw Saesneg,

b) Iaith yr asesu, os yw'n iaith heblaw Saesneg (ar wahân i ddyfarniadau am raglenni neu eu helfennau sy'n gysylltiedig ag astudio iaith dramor lle defnyddir iaith yr astudio yn brif iaith yr asesu). Os cofnodir yr wybodaeth hon ar y trawsgrifiad yn unig, dylai'r dystysgrif gyfeirio at fodolaeth y trawsgrifiad. Nid yw'r cyfeiriadau hyn at 'iaith dramor' ac 'iaith heblaw Saesneg' yn cynnwys rhaglenni sy'n cael eu darparu a'u hasesu yn y Gymraeg gan sefydliadau yng Nghymru.

c) Manylion y model cydweithrediadol a ddefnyddiwyd ar gyfer cwblhau’r cymhwyster.

Yn amodol ar drafodaethau â'r partner sefydliad ac yn amodol ar unrhyw ddarpariaeth statudol sy'n drechaf neu ar ddarpariaeth gyfreithiol berthnasol, bydd y Brifysgol yn sicrhau bod y dystysgrif a/neu drawsgrifiad (gan gynnwys Adroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch [HEAR] lle bo'n briodol) yn cofnodi enw a lleoliad y partner sefydliad sy'n ymwneud â darparu'r cynllun astudio.

Cyflwyno

  • Ar gyfer dyfarniadau Prifysgol Aberystwyth, bydd gan raddedigion y Rhaglen hawl i wisgo'r wisg academaidd briodol yn unol â Pholisïau a Rheoliadau'r Brifysgol.
  • Bydd costau rhesymol i'w talu gan y Brifysgol am seremonïau o'r fath ac am gael staff Prifysgol angenrheidiol i gymryd rhan yn cael eu cynnwys yn yr Achos Busnes.
  • Lle bo hynny'n gymwys, gall y Partner wneud unrhyw drefniadau a ystyrir yn gymwys ac addas i gynnal seremoni lle cyflwynir tystysgrifau am ddyfarniadau'r Brifysgol, neu gall benderfynu y caiff myfyrwyr fynd i seremoni raddio Prifysgol Aberystwyth.
  • Bydd y trefniadau hyn yn amodol ar gael cymeradwyaeth y Brifysgol.
  • Bydd myfyrwyr sy'n ennill gradd y Brifysgol yn dod yn un o gyn-fyfyrwyr neu Alumni'r Brifysgol.

Adnewyddu

Bydd y Memorandwm o Gytundeb yn nodi pa mor hir fydd cyfnod y cydweithrediad. Ond gellir adnewyddu Partneriaethau Cydweithrediadol yn unol â phrosesau a amlinellir yn y Memorandwm o Gytundeb a/neu trwy gyfnewid cytundeb adnewyddu. Fel arfer, dylid adnewyddu o leiaf 12 mis cyn iddo ddod i ben er mwyn gwneud y mwyaf o'r posibiliadau denu myfyrwyr. Dim ond ar ôl cynnal adolygiad Cloriannu Perfformiad Partner llawn gyda chymeradwyaeth Bwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol a'r Senedd (os yw'n briodol) ac adolygiad llawn o'r achos busnes, a gymeradwyir gan Weithrediaeth y Brifysgol y caniateir adnewyddu.

Os gwneir cais i adnewyddu, rhaid i Fwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol adolygu amcanion a gofynion y cydweithrediad a nodwyd yn y dogfennau gwreiddiol er mwyn sicrhau bod y cydweithrediad yn parhau i gyflawni'r amcanion a'r gofynion a nodwyd.

Terfynu

  1. Mae Bwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol neu'r Dirprwy Is-Ganghellor yn mynnu'r hawl i derfynu unrhyw drefniant cydweithrediadol nad yw'n parhau i gydymffurfio â'r hyn a gytunwyd yn y Memorandwm o Gytundeb.
  2. Rhaid i'r Memorandwm o Gytundeb nodi'r amodau ar gyfer terfynu trefniant, a'r camau sy'n angenrheidiol i ddiogelu buddiannau'r myfyrwyr, gan gynnwys cynnig rhaglenni gwahanol lle bo hynny'n briodol.

Gall y rhain gynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i'r canlynol:

  • os yw'r naill Bartner neu'r llall yn torri darpariaethau'r Cytundeb cyfreithiol yn sylweddol ac nad oes modd datrys y sefyllfa
  • os yw'r naill Bartner neu'r llall yn gorffen neu'n bygwth gorffen cyflawni'r gweithrediadau a wnânt yn arferol neu os yw'r naill Bartner neu'r llall yn colli ei drwydded neu achrediad i ddarparu'r Rhaglen
  • os yw'r naill Bartner neu'r llall yn ymddwyn mewn dull neu'n cyflawni gweithgareddau sy'n achosi niwed neu a allai fod wedi achosi niwed i enw da neu ewyllys da y llall
  • methiant parhaus gan y Partner i ddarparu'r Rhaglen ar lefel sy'n bodloni PA
  • pe byddai parhau'r Cytundeb Partneriaeth yn cynrychioli risg amlwg i enw da PA
  • os nad yw'r Bartneriaeth yn cael ei gymeradwyo o'r newydd gan un neu fwy o'r Partneriaid
  • os oes newid sylweddol yng ngweithrediadau, yn rheolaeth neu strwythur y Partner a fyddai'n amharu'n sylweddol ar berfformiad ei ymrwymiadau
  • adolygiad gan asiantaeth neu gorff allanol sy'n dod i'r casgliad nad yw / na all un neu fwy o'r Partneriaid ddarparu amgylchedd boddhaol ar gyfer cynnal y Rhaglen
  • os oes pryderon rhesymol ynglŷn â sefyllfa ariannol y Partner yn codi neu'n dod i'r amlwg
  • os yw Rhaglen yn methu Adolygiad PA ar gyfer Cloriannu Perfformiad Partneriaeth
  • os nad yw'r Rhaglen yn ymarferol bellach, a bydd hyn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i fethu â denu nifer y myfyrwyr a amcanwyd a/neu fethu a chwrdd â gofynion ariannol

3. Os terfynir cytundeb, bydd y Brifysgol a'r Partner, lle bo angen hynny, yn dod i Gytundeb Terfynu a fydd yn nodi cyfrifoldebau a hawliau'r ddau sefydliad a'r myfyrwyr a gofrestrwyd ar y rhaglenni