Adran 8.4 - Cymorth, Cyfarwyddyd a Chyfrifoldebau

Oherwydd natur darpariaeth partner cydweithrediadol, sy'n amrywio o ran graddfa, cymhlethdod a risg, bydd nifer o staff academaidd a staff gwasanaethau proffesiynol yn ymwneud â phrosiectau cydweithrediadol er mwyn cynorthwyo gyda datblygiad a rheolaeth y ddarpariaeth. Mae'r prosesau a amlinellir yn y bennod hon wedi'u cynllunio i gynorthwyo adrannau academaidd a Chyfadrannau i ddatblygu cynigion mewn dull sy'n rheoli'r risgiau posibl ac yn hyrwyddo datblygiad cynaliadwy. Trwy gydol oes prosiect cydweithrediadol, bydd yr adrannau a'r Cyfadrannau'n cael eu cefnogi gan y Swyddfa Partneriaethau Academaidd yn y Gofrestrfa Academaidd.

Prosiect Partneriaeth - Staff Allweddol

Fel isafswm, bydd pob prosiect sy'n cael ei nodi yn Brosiect Partneriaeth cydweithrediadol canolig neu uchel ei risg yn cael cymorth gan:

Swyddfa Partneriaethau Academaidd

 

  • Dirprwy Gofrestrydd - Partneriaethau Academaidd

 

Y Dirprwy Gofrestrydd Partneriaethau Academaidd yw'r aelod uwch o staff cyswllt ar gyfer rhoi cymorth a chyfarwyddyd i staff sy'n datblygu a rheoli rhaglenni cydweithrediadol yn y Brifysgol ac yn y partner sefydliadau. Gan ei fod yn aelod o Fwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol, Dirprwy Gofrestrydd y Partneriaethau Academaidd sy'n goruchwylio prosiectau partneriaethau cydweithrediadol trwy'r drefn gymeradwyo a chyfnod eu darparu, gan sicrhau eu bod yn cadw at y prosesau gweithredu a'r rheoliadau perthnasol ar gyfer rheoli ansawdd.

 

  • Rheolwr Partneriaethau Academaidd

 

Bydd y Swyddfa Partneriaethau Academaidd yn penodi Rheolwr Partneriaethau Academaidd i bob prosiect, a fydd yn brif Reolwr Cyswllt i'r prosiect. Cefnogir y Rheolwr Partneriaethau Academaidd gan dîm ehangach y Swyddfa Partneriaethau Academaidd ac fe fydd Dirprwy Gofrestrydd Partneriaethau Academaidd yn goruchwylio; a bydd yn cynorthwyo'r Cyfarwyddwr Rhaglen a'r adran academaidd i gydlynu'r prosesau cymeradwyo, datblygu, monitro ac adolygu.

Cyllid

  • Partner Busnes Cyllid (Cyfrifydd Rheoli Cyllid Prosiect yn flaenorol)

Bydd Partner Busnes Cyllid o'r swyddfa gyllid yn gweithio gyda'r adran Academaidd / Swyddfa Partneriaethau Academaidd ac yn rheoli holl agweddau ariannol y prosiect a'r llif Diwydrwydd Dyladwy ariannol. Bydd y Cyfrifydd:

  1. Yn gyfrifol am ddatblygu'r achos busnes gyda'r adran academaidd yng nghyswllt y cydweithrediad arfaethedig ac yn sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gweithredol neu'r Cyfarwyddwr Cyllid i'w adolygu fel sy'n briodol;
  2. Yn rhoi gwybod i randdeiliaid yn brydlon ynglŷn â chanlyniad adolygiad y Pwyllgor Gweithredol neu'r Cyfarwyddwr Cyllid, fel sy'n briodol, a darparu hysbysiad ffurfiol;
  3. Yn rhoi manylion diweddaraf i'r swyddfeydd perthnasol yn yr adran gyllid ynglŷn â phrosiectau a datblygiadau yng nghyswllt prosiectau, e.e. yn dilyn Bwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol ac yn dilyn cadarnhau creu rhaglen ar ASTRA/UCAS;
  4. Yn cydgysylltu â'r swyddfeydd a'r rheolwyr perthnasol ynglŷn â systemau cyllid, e.e. Cyllid Myfyrwyr, Taliadau ac yn y blaen;
  5. Sicrhau bod prosiectau wedi eu rhoi ar ABW;
  6. Adolygu a sicrhau cymeradwyo adrannau ariannol y Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth;
  7. Diweddaru achos(ion) busnes y prosiect yn flynyddol a'u cyflwyno i'r pwyllgor priodol i'w hadolygu;
  8. Bydd y Partner Busnes Cyllid yn cyd-gysylltu â'r adran Academaidd a'r Gofrestrfa Academaidd yng nghyswllt y prosiect fel sy'n briodol.

Y Gyfadran

Rhoddir cefnogaeth ar lefel y Gyfadran gan aelod priodol o blith rheolwyr gweithredol y Gyfadran a benodir gan Ddirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran.

Mae pob tîm prosiect yn atebol i'r Gyfadran a bydd Deon Cysylltiol perthnasol yn sicrhau bod gweithdrefnau'r Gyfadran yn cael eu dilyn a bod y cynnig yn cydymffurfio â strategaeth Dysgu ac Addysgu a strategaeth Denu Myfyrwyr y Gyfadran fel sy'n briodol.

Fel arfer, bydd y Deon Cysylltiol Dysgu, Addysgu a Phrofiad y Myfyriwr perthnasol yn cynrychioli'r Gyfadran ar Fwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol ac yn cynorthwyo'r Hyrwyddwr Academaidd wrth ddatblygu prosiectau.

Staff cysylltiedig y Gyfadran:

  • Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran
  • Deon Cysylltiol Dysgu, Addysgu a Phrofiad y Myfyriwr
  • Cofrestrydd y Gyfadran
  • Rheolwr y Gyfadran
  • Pennaeth yr Adran Academaidd

Cymorth Ychwanegol i'r Prosiect (lle bo'n briodol):

Mae cefnogaeth ledled y Brifysgol yn hanfodol i unrhyw brosiect partneriaeth. Mae'r gefnogaeth ychwanegol gan adrannau cymorth yn dibynnu ar bob prosiect unigol, ar faint, graddfa, ffocws pwnc/traws-bynciol, nifer yr asiantau allanol, ac yn y blaen.

Y Gofrestrfa Academaidd

Aelodau staff perthnasol, gan ddibynnu ar yr anghenion Derbyn Myfyrwyr, Cofnodion Myfyrwyr a Chydymffurfio ag UKVI

Marchnata a Denu Myfyrwyr

Aelodau perthnasol o staff y Swyddfa Ryngwladol neu staff Marchnata, gan ddibynnu ar wlad y partner, gofynion marchnata a chyflenwi prosiect

Gwasanaethau Gwybodaeth

Aelodau staff perthnasol, gan ddibynnu ar y systemau GG angenrheidiol ar gyfer addysgu

gan gynnwys:

AStRA, Amserlenni, llyfrau/cyfnodolion (a thrwydded), Blackboard, Panopto, e-bost a mewngofnod.

Ymchwil, Busnes ac Arloesi

Aelodau staff perthnasol, gan ddibynnu ar y prosiect ymchwil a'r llif cyllid

Adran Ystadau, Adnoddau a Llety

Aelodau staff perthnasol, gan ddibynnu ar y gofynion ar adnoddau, llety neu am waith adeiladu

Yr Adran Gynllunio

Aelodau staff perthnasol, gan ddibynnu ar statws a natur contractau myfyrwyr a datganiadau data

Cymorth i Fyfyrwyr

Aelodau staff perthnasol, gan ddibynnu ar statws a natur contractau myfyrwyr ac anghenion perthnasol myfyrwyr unigol

gan gynnwys:

Gwahaniaethau Dysgu Penodol, lles, a chymorth gyrfa

Adnoddau Dynol

Aelodau staff perthnasol, gan ddibynnu ar ofynion staffio'r prosiect

gan gynnwys:

Contract, fisa, rhestr gyflogau, gwerthuso staff, disgyblu

Arweinydd Rhaglen Partneriaeth

Swyddogaeth

  • Arweinydd Rhaglen Partneriaeth

    Yr aelod staff o'r Adran/Gyfadran sy'n gwneud y cynnig sy'n gyfrifol am ddatblygiad academaidd a chynllun y prosiect. Os yw'r Arweinydd Rhaglen yn absennol, bydd Pennaeth yr Adran yn gyfrifol am y prosiect yn y tymor byr tan y gellir penodi unigolyn addas.

    Bydd gan Arweinydd Rhaglen Partneriaeth gyfrifoldeb am:

    1. Reoli'r prosiect trwy'r broses gymeradwyo;
    2. Sicrhau bod yr holl waith papur yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor(au) priodol;
    3. Gweithredu'n brif gyswllt academaidd gyda'r partner a gyda’r adrannau gwasanaethau proffesiynol fel sy'n briodol;
    4. Goruchwylio rheolaeth y prosiect ar ôl ei gymeradwyo;
    5. Rhoi adroddiadau neu ddiweddariadau llafar i Fwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol fel sy'n briodol;
    6. Cadw cyswllt ag aelodau eraill o staff academaidd fel sy'n briodol;
    7. Cyfrifoldeb cyffredinol am Gynnwys a Safonau Academaidd sy'n gysylltiedig â'r prosiect.
    8. Swyddfa Partneriaethau Academaidd

    Disgwylir y bydd Arweinydd Rhaglen Partneriaeth yn aelod o staff academaidd o statws digon uchel i gynrychioli rhaglen y bartneriaeth ar lefel y Gyfadran a lefel Gweithrediaeth Uwch y Brifysgol, yn ogystal ag yn allanol gyda'r Partner Sefydliad a rhanddeiliaid cysylltiedig.

    Swyddogaeth Arweinydd Rhaglen Partneriaeth yw bod yn gyswllt allweddol o fewn yr adran academaidd berthnasol ym Mhrifysgol Aberystwyth.  Yr Arweinydd Rhaglen fydd y prif gyswllt ar gyfer materion academaidd yn eu maes i staff ar lefel berthnasol y rhaglen yn y partner sefydliad a staff allweddol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

    Prif feysydd cyfrifoldeb

    Yn cynnwys:

    • Hwyluso proses gymeradwyo rhaglen/rhaglenni'r bartneriaeth trwy amrywiol gamau Pwyllgorau'r Brifysgol, gan gynnwys cadw golwg ar ddatblygu a mapio'r maes llafur fel sy'n briodol;
    • Cyd-gysylltu â'r Swyddfa Partneriaethau Academaidd a staff academaidd eraill yng nghyswllt rheolaeth barhaus y bartneriaeth a chydymffurfiaeth â pholisïau rheoleiddiol Sicrhau Ansawdd;
    • Cadeirio cyfarfodydd hanner blynyddol Bwrdd y Rhaglenni ar y Cyd, a sicrhau bod camau gweithredu sy'n deillio ohonynt yn cael eu cyflawni'n briodol a phrydlon;
    • Mynychu cyfarfodydd Bwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol;
    • Mynychu Byrddau Arholi (Byrddau Adrannol yn Aberystwyth a'r rhai a gynhelir yn y partner sefydliad fel y bo'n briodol);
    • Hyrwyddo ac, os yw'n briodol, cyfarwyddo twf strategol darpariaeth y bartneriaeth;
    • Gweithio gyda chydweithwyr yn y partner sefydliad o fewn y maes pwnc i sicrhau bod rhaglen barhaus o gefnogaeth yn cael ei darparu, fel sy'n briodol;
    • Cydlynu i gynnwys 'llais y myfyrwyr' ar ddatblygiadau a diwygiadau arfaethedig i'r rhaglenni;
    • Cyfarwyddo gwelliannau i'r rhaglenni ac adolygu rhaglenni.

     

    Prif feysydd gweithgaredd Arweinydd Rhaglen Partneriaeth:

    Gwybodaeth Gyhoeddus

    Rheolir y broses o gymeradwyo deunydd marchnata gan y Swyddfa Partneriaethau Academaidd mewn ymgynghoriad â'r Adran Marchnata a Denu Myfyrwyr er mwyn sicrhau cynrychiolaeth gywir. Mae angen i'r Arweinydd Rhaglen fod yn rhan o'r gwaith er mwyn sicrhau cywirdeb y manylion ynglŷn â phrosesau adrannol a chynnwys pwnc benodol.

    Cadw cyswllt â staff y Partner

    Bydd mwyafrif y partneriaethau cydweithrediadol yn cynnwys staff lleol yn y partner sefydliad a fydd yn addysgu neu ddarparu cymorth academaidd o fath arall. Rhaid i'r Arweinydd Rhaglen sicrhau cyswllt digonol a phriodol rhwng staff adrannol PA a staff yn y partner. Gellid dirprwyo hyn i'r Tiwtoriaid, a fydd yn cadw cyswllt yn fwy aml; ond dylai'r Arweinydd Rhaglen gadw goruchwyliaeth.

    Derbyn Myfyrwyr, Gweinyddu, a Mynediad at Adnoddau

    Swyddogaeth yr Arweinydd Rhaglen yw rhoi staff y partner sefydliad mewn sefyllfa i ddatblygu cysylltiadau priodol ym Mhrifysgol Aberystwyth er mwyn iddynt allu cydgysylltu â staff cofnodion derbyn myfyrwyr fel sy'n briodol. Rhaid i'r Arweinydd Rhaglen sicrhau hefyd bod yr adnoddau dysgu perthnasol ar gael a bod modd eu defnyddio yn y partner sefydliad.

    Achredu Dysgu Blaenorol

    Mae credyd am ddysgu blaenorol yn cyfeirio at gredyd a ddyfernir ar raglen partner PA, naill ai trwy gydnabyddiaeth y cytunwyd arno neu gytundebau cydweddu. Dylai'r Arweinydd Rhaglen gymryd rhan i asesu a monitro bod dyfarniad y partner yn gyfwerth â chredydau cyfatebol PA, trwy baratoi'r mapio cychwynnol gan ddefnyddio dogfen fapio PA.

    Dysgu ac Addysgu

    Rhaid i'r Arweinydd Rhaglen gynorthwyo gyda chadw at bolisïau a phrosesau'r Brifysgol yn y rhaglenni partner, gan gynnwys Ymddygiad Academaidd Annerbyniol, confensiynau Arholi ac Asesu, gweithdrefnau Marcio a Safoni, polisi a gweithdrefnau Asesu, cyflwyno gwaith cwrs, Amgylchiadau Arbennig, Addasiadau Rhesymol, ac Estyniadau Gwaith Cwrs.

    Asesu

    Rhaid i'r Arweinydd Rhaglen sicrhau bod prosesau asesu yn y partner sefydliad yn cael eu dilyn. Rhaid i'r Arweinydd Rhaglen sicrhau hefyd bod y partner sefydliad yn ychwanegu eu sylwadau at adroddiad yr arholwr allanol cyn ei gyflwyno i'r Gyfadran a'r Gofrestrfa Academaidd. Rhaid i'r Arweinydd Rhaglen fynychu'r holl fyrddau arholi perthnasol.

    Monitro

    Mae ym Mhrifysgol Aberystwyth sawl ffordd o fonitro sy'n caniatáu cyfleoedd i ystyried a myfyrio ar bartneriaethau cydweithrediadol.

    Bwrdd y Rhaglenni ar y Cyd (BRhC) - a gynhelir ddwywaith y flwyddyn i bartneriaid rhyddfraint, ond gellid eu cynnal yn llai aml yn achos cydweithrediadau eraill. Cadeirir BRhC gan yr Arweinydd Rhaglen ar gyfer rhaglen y bartneriaeth gydweithrediadol a gall y Tiwtor Cyswllt ddewis i fod yn bresennol ai peidio. Prif swyddogaeth y BRhC yw rheoli dull gweithredu ac ansawdd y rhaglen.

    Monitro Blynyddol ar Gynlluniau a Ddysgir trwy Gwrs - dogfen flynyddol i fonitro ansawdd, a gwblheir gan yr adran ac unrhyw bartner cydweithrediadol. Rhaid i'r Arweinydd Rhaglen arwain wrth gwblhau'r adran ar y ffurflen sy'n ymwneud â darpariaeth gydweithrediadol i raglen benodol neu grŵp o raglenni, a bydd y partner a'r Tiwtor Cyswllt yn cyfrannu yn ôl yr angen.

    Archwiliad Ansawdd Adrannol - caiff y cydweithrediad ei adolygu yn rhan o'r archwiliad a dylai'r Arweinydd Rhaglen arwain i gwblhau unrhyw waith papur perthnasol i'w gyflwyno.

    Cloriannu Perfformiad Partner (CPP) Mae angen CPP o fewn y flwyddyn gyntaf o weithredu a rhaid i'r partner a'r adran/gyfadran arweiniol ei gwblhau. Arweinydd Rhaglen Partneriaeth ddylai fod yn gyfrifol am grynhoi dogfennau’r CPP. Efallai y cynhelir CPP eraill yn ystod cyfnod y contract, yn amodol ar berfformiad y bartneriaeth gydweithrediadol.

    Terfynu Cytundeb a / neu ddiddymu rhaglen mewn partner sefydliad.

    Bydd Arweinydd Rhaglen Partneriaeth yn parhau yn y swydd i gefnogi rhaglen tan i bob myfyriwr ei chwblhau, a dylai fod yn gyfrifol am oruchwyliaeth reolaethol dros gyfnod dirwyn yr addysgu i ben.

    I gael rhagor o fanylion a gwybodaeth ynglŷn â chymeradwyo, monitro ac adolygu cynlluniau, gweler adran 2 y Llawlyfr Ansawdd Academaidd - Datblygu ac Adolygu:

    https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/dev-review/

    Tiwtor Cyswllt

    Swyddogaeth

    • Tiwtor(iaid) / Academydd(ion) Cyswllt

    Bydd tiwtoriaid cyswllt sydd ag arbenigedd ym maes y pwnc yn cael eu penodi i bob rhaglen yn y prosiect. Yn achos prosiectau llai, gall unigolyn fod yn Arweinydd Rhaglen ac yn Diwtor Cyswllt, ond yn achos prosiectau mwy o faint gellir penodi nifer o Diwtoriaid Cyswllt i ofalu am wahanol feysydd pwnc. Swyddogaeth y Tiwtor Cyswllt yw hyrwyddo cyfathrebu dwyffordd rhwng timau staff lefel y rhaglen yn y partner sefydliad a staff allweddol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd tiwtoriaid cyswllt yn cadw cyswllt â staff a myfyrwyr y partner (lle bo hynny'n addas) ynglŷn â rhaglenni perthnasol, yn electronig a thrwy ymweliadau. Mae dyletswyddau'r tiwtoriaid cyswllt yn cael eu cyflawni dan gyfarwyddyd Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran yma yn Aberystwyth, ond hefyd bydd cyswllt agos yn cael ei gadw ag aelodau eraill allweddol yr adran berthnasol, megis Deon Cyswllt Dysgu ac Addysgu a Phrofiad y Myfyriwr, a Phennaeth yr Adran a fydd yn cefnogi a chynorthwyo. Bydd y Tiwtor Cyswllt yn cael cymorth a chefnogaeth yr Arweinydd Rhaglen. Mae'r Tiwtoriaid Cyswllt yn chwarae rhan allweddol yn y drefn o sicrhau ansawdd, ac maent yn gyfrifol am holl agweddau dydd i ddydd rheolaeth academaidd a gweinyddol y modiwlau mewn cynllun penodol. Y Tiwtoriaid yw'r man cyswllt cyntaf i bopeth sy'n ymwneud â chymorth academaidd.

    Swyddogaeth y Tiwtor Cyswllt yw bod yn brif gyswllt i staff perthnasol ar lefel y rhaglen yn y partner sefydliad a staff allweddol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn achlysurol, gall Tiwtor hefyd gysylltu â myfyrwyr yn y partner sefydliad.  Bydd Tiwtoriaid yn cadw cyswllt â'r partner yn electronig a thrwy ymweliadau, a bydd isafswm nifer yr ymweliadau wedi'u nodi yn y Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth.  Mae dyletswyddau'r Tiwtor Cyswllt yn cael eu cyflawni dan gyfarwyddyd Arweinydd Rhaglen Partneriaeth yn Aberystwyth, ond hefyd bydd cyswllt agos yn cael ei gadw ag aelodau eraill allweddol y Gyfadran ac adrannau academaidd eraill, megis Deon Cyswllt Dysgu ac Addysgu a Phrofiad y Myfyriwr, Cofrestrydd y Gyfadran, a Phennaeth yr Adran a fydd yn cefnogi a chynorthwyo. Bydd y Tiwtor Cyswllt yn cael cefnogaeth gan yr Arweinydd Rhaglen. Mae'r Tiwtoriaid Cyswllt yn chwarae rhan allweddol yn y drefn o sicrhau ansawdd, ac maent yn gyfrifol am holl agweddau dydd i ddydd rheolaeth academaidd a gweinyddol y modiwlau mewn cynllun penodol. Y Tiwtoriaid yw'r man cyswllt cyntaf i bopeth sy'n ymwneud â chymorth academaidd.

    Swyddogaethau Cyffredinol y Tiwtor Cyswllt

    • Cyfrannu/rhoi adborth i gyfarfodydd i drafod trefniadau addysgu ac ansawdd y ddarpariaeth.
    • Cadw cyswllt priodol trwy gydol y flwyddyn academaidd i ateb ymholiadau a rhannu arfer da yn amserol
    • Sicrhau bod yr holl nodiadau cwrs perthnasol a ffynonellau academaidd eraill i'w cael i staff perthnasol fel sy'n briodol ar Blackboard.
    • Darparu cyfarwyddyd addas a dderbyniwyd gan gynullwyr modiwlau ynglŷn â'r arferion marcio priodol a ddisgwylir gan yr adran a sicrhau bod gweithdrefnau safoni mewnol yn cael eu cynnal.
    • Mynychu byrddau adolygu, byrddau arholi a chyd-fyrddau perthnasol yn ôl gofynion y Brifysgol.
    • Gwneud yn sicr bod cydlynwyr modiwlau'r Brifysgol yn ymwybodol o unrhyw ofynion penodol sydd i'r cynlluniau rhyddfraint
    • Ymweld â'r partner yn ôl yr angen yn unol â thelerau’r cytundeb.
    • Dyletswyddau eraill i hwyluso llwyddiant y rhaglenni rhyddfraint

     

    Prif feysydd gweithgaredd y Tiwtoriaid Cyswllt:

    Cadw cyswllt â staff y Partner sefydliad

    Bydd mwyafrif y partneriaethau cydweithrediadol yn cynnwys staff lleol yn y partner sefydliad a fydd yn addysgu neu ddarparu cymorth academaidd o fath arall. Bydd effeithlonrwydd y Tiwtor Cyswllt yn dibynnu ar gyswllt cyson rhwng staff y partner a staff Prifysgol Aberystwyth, er mwyn canfod a rheoli heriau mewn da bryd. Gellir defnyddio amryw ddulliau i gysylltu, gan gynnwys ymweliadau, Skype, ffôn ac e-bost. Gall amserlen neu linell amser gynorthwyo'r Tiwtor Cyswllt yn ei swyddogaeth.

    Derbyn Myfyrwyr, Gweinyddu, a Defnyddio Adnoddau

    Mae pob myfyriwr ar gynlluniau rhyddfraint yn cofrestru ar-lein yn fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Cyfrifoldeb y Tiwtoriaid Cyswllt yw cyd-gysylltu â'r partner ac â'r Gofrestrfa Academaidd i sicrhau bod cofrestriad y myfyrwyr wedi'i gwblhau o fewn i ddyddiadau cau'r Brifysgol. Bydd y Swyddfa Partneriaethau Academaidd yn sicrhau bod y Tiwtoriaid yn ymwybodol o'r amserlen ar gyfer hyn. Ar ôl cofrestru bydd myfyrwyr yn cael mynediad i'r modiwlau Blackboard ar eu rhaglen. Dylai'r Tiwtoriaid Cyswllt fod yn fan cyswllt rhwng staff y partner, a staff academaidd a GG er mwyn sicrhau bod deunydd dysgu ac addysgu ar gael i'r myfyrwyr ar Blackboard. Gyda chefnogaeth y tîm E-ddysgu, dylent gynorthwyo i ddatrys unrhyw drafferthion sy'n codi ynglŷn â diffyg mynediad myfyrwyr at adnoddau PA.

    Dysgu ac Addysgu

    Un o  brif swyddogaethau'r Tiwtor Cyswllt yw bod yn gyfaill beirniadol i dimau rhaglen y partner trwy:

    • Gynghori ynglŷn â gwella adnoddau i raglen y partner.
    • Bod yn gyswllt ar gyfer rhannu arferion da rhwng PA a'r partner mewn meysydd yn cynnwys dysgu ac addysgu a chynllunio'r asesu.

    Asesu

    Rhaid i brosesau asesu yn y partner sefydliad gydymffurfio â rheoliadau PA. Rhaid i Diwtoriaid Cyswllt sicrhau bod yr holl waith a asesir yn cael ei safoni yn unol â chanllawiau a ddatblygwyd gan PA a'r adran. Rhaid i Diwtoriaid Cyswllt hefyd chwarae rhan i sicrhau bod asesiadau'n cael eu hadolygu gan yr adran a'r arholwr allanol (os na chawsant eu hysgrifennu gan yr adran) a chynorthwyo’r partner gyda’r gwaith o nodi marciau ar y gronfa-ddata. Dylai pob asesiad, ar ôl ei safoni, gael ei anfon at yr arholwr allanol, a'r Tiwtor Cyswllt a'r partner sefydliad ddylai arwain y broses hon.

    Monitro

    Mae sawl ffordd o fonitro gweithgareddau cydweithrediadol ym Mhrifysgol Aberystwyth sy'n caniatáu cyfleoedd i ystyried a myfyrio.

    Bwrdd Rhaglenni ar y Cyd (BRhC) - a gynhelir ddwywaith y flwyddyn i bartneriaid rhyddfraint, ond gellid eu cynnal yn llai aml yn achos cydweithrediadau eraill. Cadeirydd BRhC gan yr Arweinydd Rhaglen ar ran y bartneriaeth gydweithrediadol a gall y Tiwtor Cyswllt ddewis i fod yn bresennol ai peidio. Prif swyddogaeth y BRhC yw rheoli dull gweithredu ac ansawdd y rhaglen.

    Monitro Blynyddol ar Gynlluniau a Ddysgir trwy Gwrs - dogfen flynyddol i fonitro ansawdd a gwblheir gan y brif adran ac unrhyw bartner cydweithrediadol. Rhaid i’r Arweinydd Rhaglen arwain wrth gwblhau'r adran ar y ffurflen sy'n ymwneud â darpariaeth gydweithrediadol i raglen benodol neu grŵp o raglenni, a bydd y partner a'r Tiwtor Cyswllt yn cynorthwyo yn ôl yr angen.

    Archwiliad Ansawdd Adrannol - Dylai'r Tiwtoriaid Cyswllt gynorthwyo’r Arweinydd Rhaglen i gwblhau unrhyw waith papur perthnasol.

    Cloriannu Perfformiad Partner (CPP) - Dylai Tiwtoriaid Cyswllt gynorthwyo’r Arweinydd Rhaglen i grynhoi dogfennau’r CPP.

    Adborth Myfyrwyr a Chyfathrebu

    Er mai'r prif bwynt cyswllt i'r Tiwtor Cyswllt fyddai staff y partner fel arfer, weithiau byddai'n briodol cysylltu â myfyrwyr yn y partner. Gall myfyrwyr gysylltu â'r tiwtor os oes ymholiadau neu drafferthion yn codi. Os yw'n ymarferol, dylai Tiwtoriaid Cyswllt fynd i'r partner sefydliad ar gyfer yr ymgynefino/cofrestru.

    Dylai'r Tiwtoriaid Cyswllt hefyd hyrwyddo myfyrwyr i symud ymlaen at radd PA ar ôl iddynt gwblhau Gradd Sylfaen. Rhaid i Diwtoriaid Cyswllt chwarae rhan i drefnu cyfleoedd i drafod â grwpiau o fyfyrwyr yn y partner ynglŷn â symud ymlaen. Pe byddai myfyrwyr yn penderfynu symud ymlaen i Brifysgol Aberystwyth, dylai Tiwtoriaid Cyswllt adolygu cynnydd y myfyrwyr hynny ar ôl yr wythnosau cyntaf yn Aberystwyth. Rhaid i wybodaeth ynglŷn â symud ymlaen gael ei chadw a'i hadolygu gan y Bwrdd Rhaglenni ar y Cyd.