Asesiadau Ail-Gynnig yr Haf
Bydd Asesiadau Ailgynnig yr Haf yn cael eu cynnal o:
Ddydd Llun 10 Awst 2026 I dydd Gwener 21 Awst 2026
Bydd myfyrwyr ag arwydd ailsefyll o F, A, H a T yn gymwys i ailsefyll yn asesiadau ailgynnig yn mis Awst (yn ôl y rheoliadau a restrwyd yn y Confensiynau Arholiadau), ond er mwyn gwneud hyn mae'n RHAID i chi gofrestru drwy Eich Cofnod. Bydd cyfle i chi gofrestru ar gyfer asesiadau ailgynnig yr haf o'r dyddiad cyhoeddwyd eich marciau semester dau ar y we am tair wythnos yn unig. Gwelwch yma am sut i gofrestru.
Rhaid i fyfyrwyr sy'n cwblhau cymhwyster ym mis Mai / Mehefin / Gorffennaf ail-sefyll ym mis Awst oni bai bod ganddynt Amgylchiadau Arbennig bryd hynny. Gall myfyrwyr meistr sy'n parhau â'u graddau ar ôl Mehefin / Gorffennaf ailsefyll ym mis Awst neu yn ystod y sesiwn ganlynol.
Os cofrestrwch i ailsefyll modiwl, a phenderfynu wedyn peidio ag ailsefyll am ba bynnag reswm (er enghraifft, oherwydd cyngor gan eich adran) RHAID ichi dynnu allan or asesiad drwy hysbysu’r Gofrestrfa Academaidd erbyn 30 Gorffennaf fan bellaf.
Er mwyn tynnu allan rhaid ichi e-bostio a roi eich manylion myfyriwr a manylion y modiwl rydych yn tynnu allan ohono.
| Gweinyddu Myfyrwyr Israddedig | ugfstaff@aber.ac.uk |
| Materion Gweinyddu Myfyrwyr Uwchraddedig | pgsstaff@aber.ac.uk |
Bydd amserlen a manylion llety ar gael ar lein yn wythnos gyntaf mis Awst.
Os am gymorth ynglŷn â'ch cofrestriad modiwlau ailsefyll cysylltwch a'r Gofrestrfa Academaidd drwy e-bost ni.
Am ragor o fanylion ynglŷn â'r amserlen cysylltwch â'r Swyddfa'r Amserlenni. Ffon 01970 628771, e-bost attstaff@aber.ac.uk
