1.1 Cyn Pob Arholiad Unigol

1.  Gwnewch yn sicr eich bod yn y lleoliad cywir ar gyfer eich arholiad mewn da bryd.  Fe fyddwn i’n awgrymu bod yno 20 munud yn gynnar.  Mae hyn yn rhoi digon o amser i wneud y pethau a nodir isod, ond hefyd i’ch paratoi eich hun yn feddyliol cyn yr arholiad, a chadw mewn cof fod drysau neuadd yr arholiad yn agor 10 munud cyn i’r arholiad ddechrau.

2.  Cofiwch gyrraedd yno yn gwybod yn sicr beth yw cod a theitl eich modiwl.

3.  Edrychwch ar yr amserlen a fydd i fyny, er mwyn cadarnhau eich bod chi yn y man cywir ac i weld rhifau’r seddi a neilltuir i arholiad eich modiwl chi. Edrychwch ar y cynllun seddi ar gyfer neuadd yr arholiad i weld ym mha res y byddwch yn dod o hyd i’ch papur arholiad.

4.  Peidiwch â dod ag unrhyw beth gyda chi i’r neuadd arholi nad oes ei angen yn yr arholiad. Bydd cynorthwywyr yr arholiad yn dangos ymhle y gallwch gadw cotiau, bagiau ac eitemau eraill yn ystod yr arholiad (y tu allan i neuad yr arholiad fel arfer). Ni fydd y Brifysgol yn derbyn cyfrifoldeb o gwbl am unrhyw beth sy’n cael ei adael y tu allan i neuadd yr arholiad.

5.  Tua deng munud cyn amser dechrau’r arholiad, dywedir wrthych fod y drysau wedi agor ac y gall pawb fynd i mewn i’r neuadd yn dawel a threfnus.

6.  Ar y ffordd i mewn, cewch eich hatgoffa i wneud yn siŵr nad oes gennych ffonau symudol neu unrhyw ddyfais electronig anawdurdodedig yn eich meddiant. Er y byddai’n well pe na byddech yn dod ag unrhyw ddyfais anawdurdodedig i neuadd yr arholiad, gellir eu storio mewn blwch yn ystod yr arholiad. Fodd bynnag, ni fydd y Brifysgol na staff yr arholiad yn gyfrifol o gwbl am ddyfeisiau o’r fath a storir yn y blychau. Rhaid i chi gofio casglu’r ddyfais hon cyn i chi adael y neuadd.