1.3 Ar Ddiwedd yr Arholiad

1.  Chi sy’n llwyr gyfrifol am amseru eich arholiad ac am fod yn ymwybodol o’r amser y daw eich arholiad penodol chi i ben. Bydd dau arholiad o hyd gwahanol yn cael eu cynnal yn yr un neuadd ac nid yw’n ofynnol i staff yr arholiad roi rhybudd fod amser un yn dod i ben, er weithiau eu bod yn gwneud hynny, lle bo’n bosibl.

2.  Ni ddylech barhau i ysgrifennu yn eich llyfr atebion ar ôl i’r ‘Cyhoeddiad Diwedd Arholiad’ gael ei wneud.

3.  Ar ddiwedd eich arholiad, gwnewch yn sicr eich bod wedi llenwi panel blaen y llyfr atebion a rhoi eich enw yn y panel anhysbysrwydd. Gludwch y gornel i lawr, os na wnaethoch hynny eisoes. Dylech wneud hyn i bob llyfr atebion a ddefnyddiwyd, nid dim ond y cyntaf.

4.  Os ydych wedi defnyddio mwy nag un llyfr atebion, defnyddiwch y ddolen gysylltu a ddarperir i’w clymu ynghyd.

5.  Pa bryd bynnag y byddwch chi’n gadael neuadd yr arholiad, hyd yn oed os penderfynwch adael yn gynnar (mae’n rhaid ichi aros am o leiaf y 45 munud cyntaf o dan unrhyw amgylchiadau), gadewch eich llyfrau atebion ar eich desg ac ewch allan yn dawel. Fel arfer (onibai y nodir yn wahanol) cewch fynd â’r papur cwestiynau gyda chi.

6.  Cofiwch mae’n bosibl na fydd pawb wedi gorffen wrth ichi adael (gan gynnwys y rhai yn yr ystafell Anghenion Arholiad Unigol gerllaw’r brif neuadd), felly rhaid cadw’n dawel yn ardal gyffredinol yr arholiad a pheidiwch â dechrau sgwrsio tan ichi fod yn ddigon pell o neuadd yr arholiad.

7.  Cofiwch sicrhau eich bod yn mynd â’ch holl eitemau personol gyda chi – os digwydd i chi adael rhywbeth ar ôl anfonwch e-bost at eosstaff@aber.ac.uk gan roi rhagor o fanylion am yr hyn yr ydych wedi’i golli. Byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.