1.0 Cyflwyniad

Er eich lles eich hun, fe ddylech ddarllen y ddogfen hon ar y cyd â’r Rheoliad ar Ymddygiad Academaidd Annerbyniol (Rheoliad YAA) - https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/regulations/uap/ . Os cyfyd unrhyw anghydfod ynglŷn a’r wybodaeth yn y ddogfen hon, dylid rhoi’r flaenoriaeth i’r wybodaeth a nodir yn y Rheoliadau ar Ymddygiad Academaidd Annerbyniol. Er bod y ddogfen hon yn ymdrin ag Ymddygiad Academaidd Annerbyniol o dan amodau arholiad yn unig, dim ond rhan o Reoliad ehangach yw hyn, ac mae’n bwysig bod myfyrwyr yn ymgyfarwyddo â’r Rheoliad yn ei gyfanrwydd.

Mae’n siŵr eich bod yn ymwybodol y gall twyllo mewn arholiadau beryglu yn sylweddol eich gobeithion o gael gradd. Mae twyllo – sef yn swyddogol, Ymddygiad Academaidd Annerbyniol – nid yn unig yn erbyn Rheoliadau’r Brifysgol, ond mae’r cosbau cysylltiedig yn sylweddol.  Er enghraifft, gallai Ymddygiad Academaidd Annerbyniol ddifetha eich gyrfa arfaethedig.  Mewn pynciau penodol, rhaid rhoi gwybod i gyrff proffesiynol am achosion pendant o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn ystod arholiadau’r Brifysgol. Er eich lles eich hun, mae angen i chi ddeall y goblygiadau.

Mae dau bwynt yn benodol yn werth eu pwysleisio:

i) Fel y nodir ym mhwynt 2.2(iv) y Rheoliadau, mae ‘gwybodaeth anawdurdodedig’ yn anawdurdodedig os yw’r deunydd dan sylw yn berthnasol i bwnc yr arholiad penodol hwnnw ai peidio.  Nid oes angen profi y gellid defnyddio unrhyw wybodaeth sy’n cael ei chanfod yn yr arholiad dan sylw neu mewn cwestiwn penodol sydd ar y papur arholiad hwnnw.  Felly, er enghraifft, nid oes rhaid i wybodaeth a ysgrifennwyd ar gledr llaw fod yn berthnasol, neu hyd yn oed yn hollol ddarllenadwy gan staff yr arholiad.

ii) Mae’r Rheoliad (pwynt 2.1) yn nodi’n glir y gall Ymddygiad Academaidd Annerbyniol ddigwydd ni waeth beth yw bwriad y myfyriwr.  Nid oes raid i unrhyw erlyniad brofi fod y sawl sy’n cael ei ddrwgdybio’n bwriadu defnyddio’r ‘wybodaeth anawdurdodedig’ – mewn geiriau eraill, yr unig beth sydd ei angen yw bod â’r wybodaeth yn eich meddiant. Felly, er enghraifft, mae bod ag unrhyw ddyfais electronig anawdurdodedig yn eich meddiant, gan gynnwys ffôn symudol, yn ddigon i roi’r drefn ar waith. 

Mae’r rhesymau sy’n cymell myfyrwyr i deimlo bod angen iddynt fynd ati’n fwriadol i wneud hyn yn gymhleth ac amrywiol – maent yn ymwneud, er enghraifft, â diffyg hyder yn eu gallu i berfformio’n dda mewn arholiadau, problemau iechyd neu bersonol, a phwysau gan gyfoedion, teulu neu bwysau diwylliannol, a/neu bwysau ariannol. Beth bynnag fo’r rhesymau, yr un fydd canlyniadau cael eich barnu’n euog. Os ydych yn teimlo o dan bwysau ac yn poeni na fyddwch yn gwneud yn dda, y peth cywir i’w wneud yw ceisio cyngor a chefnogaeth gan staff academaidd neu staff cynorthwyol i’ch helpu i wneud yn dda. Yr unig beth a gyflawnir trwy dwyllo fydd gwneud sefyllfa anodd yn un llawer gwaeth.   

Mae gan fyfyrwyr hawl i ddisgwyl i’r Brifysgol wneud pob ymdrech i atal, canfod a chosbi unrhyw un sy’n ceisio ennill mantais dros eraill drwy ddulliau annheg. Diben y ddogfen hon yw sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn deall sut mae’r Brifysgol yn gwneud hyn, a gwneud yn sicr bod myfyrwyr yn llwyr ymwybodol o’r hyn a ystyrir yn annerbyniol.