Rhag Gofrestru

Gweler isod gwybodaeth gyffredinol ar gyfer Rhag Gofrestru 2026/2027

1.    Mae modd fyfyrwyr sy’n dechrau cwrs newydd yn Brifysgol Aberystwyth gymryd rhan yn y broses Rhag-gofrestru i ddewis modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd (2026/2027).

DS.   Ni fydd agen i fyfyrwyr sydd yn cymryd cyfanswm o 120 credyd o fodiwlau craidd gwblhau’r broses o rhag gofrestru oherwydd bydd eu modiwlau wedi lwytho yn awtomatig:

2.    Gallwch weld manylion eich cynllun astudio a’ch modiwlau craidd ar gyfer 2026/2027 yn eich Cofnod Myfyriwr. Mae’n hanfodol eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ar gyfer eich adran(nau) gan fod gofynion adrannau unigol yn amrywio.   

3.    Bydd cyfnod Rhag Gofrestru yn para o Ddydd Llun 14 Medi tan Dydd Llun 21 Medi 2026, ond mae'n bwysig eich bod yn wirio gofynion eich adran(nau) cyn cofnodi eich dewis o fodiwlau.

4.    Dylech edrych ar y Cynlluniau Astudio a’r Modiwlau a'r y we er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni gofynion yr adrannau ac yn cofrestru am y modiwlau perthnasol.

5.    Dylech wirio’r gofynion adrannol ar gyfer Rhag-Gofrestru, gan sicrhau eich bod wedi cymryd rhan mewn unrhyw sesiynau cynghori mae eich adran wedi'i darparu cyn nodi'ch dewis o fodiwlau ar eich Cofnod Myfyriwr.

6.    Mae’n rhaid i chi sicrhau nad yw cyfanswm y credydau a gofnodir yn eich cofnod yn uwch na’r nifer y mae gofyn i chi eu hastudio. Bydd y mesurau gwirio isod ar waith:

•    Ni fyddwch yn gallu tynnu unrhyw fodiwlau craidd o’ch cofnod. Os oes amgylchiadau arbennig sy’n golygu na fyddwch yn dilyn modiwl craidd dylech ymweld â’ch adran;
•    Ni ddylech rhannu eich credydau yn fwy na 70:50 / 50:70 rhwng y ddau semester;
•    Os byddwch yn cynnwys modiwl yn y semester anghywir bydd yn cael ei symud yn awtomatig i’r semester cywir;
•    Ni fydd y system yn caniatáu i chi gofnodi rhagor na’r nifer o gredydau y mae’n ofynnol i chi eu dilyn y sesiwn nesaf.

7.   Bydd y dasg rhag-gofrestru yn cau am 5yp dydd Llun 21 Medi. Os nad ydych wedi cwblhau Rhag-Gofrestru erbyn hyn, ewch i Ddesg Cymorth y Cyfadrannau yn y Parth Cofrestru yn Llyfrgell Hugh Owen (ar agor o ddydd Llun 21 i ddydd Mercher 23 Medi, 9yb - 5yp).

Myfyrwyr sydd eisiau Newid Cynllun Astudio

8.    Os ydych chi am newid eich cynllun astudio yn y sesiwn nesaf, rhaid i chi ei drafod gyda'ch adran yn gyntaf, ac yna prosesu cais Newid Cofrestriad ar y we trwy eich Cofnod Myfyriwr. RHAID i’ch Newid Cofrestriad cael ei gymeradwyo a’i phrosesu CYN y gallwch chi barhau â’r broses Rhag-Gofrestru. 

I wneud cais Newid Cofrestriad, ewch i'r cerdyn "Gwneud Newidiadau i Fy Nghwrs" ar eich Cofnod Myfyriwr, yna dewiswch "Rwyf am newid fy nghynllun neu fy modiwlau". Dylai ffenestr naid ymddangos i'ch ailgyfeirio i sgrin wahanol. O'r fan hon, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin. Mae rhagor o ganllawiau ar gael ar y dudalen Newid Cynllun Astudio neu Fodiwl.

9.    Mae’n bwysig i chi roi gwybod i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr neu unrhyw noddwr ariannol arall cyn gynted ag y bo’r newid wedi’i gymeradwyo er mwyn sicrhau y bydd eich arian yn cael ei drosglwyddo’n ddidrafferth (os ydych yn derbyn benthyciad).