Tasgau Cofrestru i Israddedigion
I fod yn fyfyriwr cofrestredig llawn ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i chi gwblhau'r Tasgau Cofrestru a nodir isod.
Bydd Tasgau Cofrestru yn ymddangos o dan Fy Nhasgau ar eich Cofnod Myfyriwr.
Tasgau Cofrestru ym Mis Medi:
- Rhag-Gofrestru (Dewis Modiwlau) - rhai myfyrwyr, nid oll (gweler yr esboniad isod)
- Cofrestru Ar-lein - pob myfyriwr, yn ddi-eithriad.
Mae amseriad y tasgau yn dibynnu ar ba fath o fyfyriwr ydych chi, a phryd y gwnaethoch gychwyn eich astudiaethau. Mae'r Amserlenni y Tasgau Cofrestru isod yn nodi'r gwahanol fathau o fyfyrwyr, ac yn egluro pa Dasgau Cofrestru y bydd angen i chi eu cwblhau ac erbyn pryd - gwiriwch y penawdau perthnasol am ragor o wybodaeth.
Yn ystod y cyfnod sy’n arwain at ddyddiad cychwyn eich cwrs, byddwn yn anfon gwybodaeth atoch ynghylch pa Dasgau Cofrestru y mae angen i chi eu cwblhau.
Os byddwch angen cymorth yn ystod unrhyw gam o’r broses yma, peidiwch oedi cyn cysylltu a ni.
Rhag-Gofrestru (Dewis Modiwlau)
Rhag-Gofrestru yw'r dasg lle byddwch yn dewis eich modiwlau dewisol.
Os hoffwch astudio modiwl drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae fersiwn Cymraeg ar gael i unrhyw un o'ch modiwlau craidd, gallwch wneud y dewisiadau hyn yn ystod Rhag-Gofrestru.
Cyn i chi gwblhau Rhag-Gofrestru, gofynnwch am gyngor gan eich adran academaidd. Unwaith i gwblhau'r dasg, anfonir eich dewisiadau at eich adran(nau) i'w cymeradwyo.
Am fwy o wybodaeth, gweler y dudalen Rhag-Gofrestru: Gwybodaeth a Chyfarwyddid Manwl
Pwy sydd angen cwblhau’r dasg Rhag-Gofrestru ym Mis Medi?
- Y rhan fwyaf o fyfyrwyr israddedig newydd
- Myfyrwyr sy'n dychwelyd na wnaeth gwblhau'r broses Rhag-Gofrestru yng Ngwanwyn 2026. Noder, bydd angen i fyfyrwyr sy'n dychwelyd cysylltu â'u hadrannau i gwblhau dewisiadau modiwlau - ni fyddwch yn gallu gwneud hyn trwy eich Cofnod Myfyriwr. Gweler y penawdau isod ar gyfer Myfyrwyr sy'n Dychwelyd.
Pwy sydd ddim angen cwblhau'r Dasg Rhag-Gofrestru ym Mis Medi?
- Myfyrwyr BSc Nyrsio
- Myfyrwyr CHE Nyrsio
- Myfyrwyr Gwyddor Milfeddygaeth
- Myfyrwyr Nyrsio Milfeddygol
- Myfyrwyr Cyrsiau Dysgu o Bell
- Myfyrwyr sy'n dychwelid a gwblhaodd y Dasg yng Ngwanwyn 2026
Bydd y Myfyrwyr hyn yn derbyn canllawiau modiwlau yn uniongyrchol gan eu hadrannau. Gweler yr Amserlen y Tasgau Cofrestru priodol isod.
Cofrestru Ar-lein
Y cam olaf i fod yn fyfyriwr gyda ni yw'r Dasg Cofrestru Ar-lein.
Gofynnir i chi:
- Cadarnhau eich manylion personol
- Cadarnhau manylion eich Cynllun Astudio a Modiwlau*
- Derbyn telerau ac amodau Prifysgol Aberystwyth
- Cwblhau unrhyw ofynion cofrestru arall a nodi’r sydd heb ei gwblhau
* Cyrsiau Dysgu o Bell - ofynnir i chi gadarnhau eich Cynllun Astudio yn unig. Gellir prynu modiwlau yn unol â chanllawiau eich Adran Academaidd.
Pwy sydd angen cwblhau’r dasg yma?
- Pob myfyriwr
Er mwyn cwblhau Cofrestru Ar-lein, ewch i’ch Cofnod Myfyriwr ac edrychwch am Gofrestru Ar-lein o dan Fy Nhasgau.
Mae rhaid i chi fod â’r rhwydwaith y Brifysgol (ar y campws neu drwy fewnrwyd y Brifysgol) er mwyn cwblhau Cofrestru Ar-lein. Ni fyddwch yn gallu cwblhau Cofrestru Ar-lein trwy ddefnyddio VPN, nac ar unrhyw rwydwaith arall.
Noder:
- Myfyrwyr Dysgu o Bell: Ni ddisgwylir i chi gwblhau Cofrestru Ar-lein ar gampws Aberystwyth os ydych yn fyfyrwyr sy’n astudio ar gwrs Dysgu o Bell le cyflwynir y cwrs o bell.
- Myfyrwyr sy’n astudio gyda Cholegau Partneriaeth/Rhyddfraint: Bydd angen i fyfyrwyr sy'n astudio trwy un o'n lleoliadau Partner/Rhyddfraint fod yn bresennol yn eich coleg ac ar rwydwaith y coleg i gwblhau Cofrestru Ar-lein, ac nid Aberystwyth.
Amserlenni y Tasgau Cofrestru
Myfyrwyr Canolfan Addysg Gofal Iechyd - Cynlluniau Nyrsio
Noder nad oes angen i fyfyrwyr Canolfan Addysg Gofal Iechyd gwblhau’r dasg Rhag-Gofrestru. Bydd yr adran yn cynnig arweiniad modiwlau yn uniongyrchol.
Bydd y Dasg Cofrestru Ar-lein yn ymddangos o dan Fy Nhasgau ar eich Cofnod Myfyriwr.
Mae rhaid i chi fod â’r rhwydwaith y Brifysgol (ar y campws neu drwy fewnrwyd y Brifysgol) er mwyn cwblhau eich Cofrestru Ar-lein. Ni fyddwch yn gallu cwblhau Cofrestru Ar-lein trwy ddefnyddio VPN, nac ar unrhyw rwydwaith arall.
|
Grŵp Myfyrwyr |
Tasg Cofrestru |
Ar gael o |
Cwblhau erbyn |
|
BSc Nyrsio |
Cofrestru Ar-lein |
9:00yb - Dydd Llun, 07 Medi 2026 |
5:00yp - Dydd Mawrth, 08 Medi 2026 |
|
BSc Nyrsio |
Cofrestru Ar-lein |
9:00yb - Dydd Llun, 14 Medi 2026 |
5:00yp - Dydd Iau, 17 Medi 2026 |
|
CHE Nyrsio |
Cofrestru Ar-lein |
9:00yb - Dydd Mawrth, 29 Medi 2026 |
5:00yp - Dydd Mercher, 30 Medi 2026 |
|
CHE Nyrsio |
Cofrestru Ar-lein |
9:00yb - Dydd Llun, 28 Medi 2026 |
5:00yp - Dydd Mercher, 30 Medi 2026 |
Myfyrwyr Gwyddor Milfeddygaeth (BVSc gyda'r CMB [RVC] )
Noder nad oes angen i fyfyrwyr Gwyddor Milfeddygaeth gwblhau’r dasg Rhag-Gofrestru. Bydd yr adran yn cynnig arweiniad modiwlau yn uniongyrchol.
Bydd y Dasg Cofrestru Ar-lein yn ymddangos o dan Fy Nhasgau ar eich Cofnod Myfyriwr.
Mae rhaid i chi fod â’r rhwydwaith y Brifysgol (ar y campws neu drwy fewnrwyd y Brifysgol) er mwyn cwblhau eich Cofrestru Ar-lein. Ni fyddwch yn gallu cwblhau Cofrestru Ar-lein trwy ddefnyddio VPN, nac ar unrhyw rwydwaith arall.
|
Grŵp Myfyrwyr |
Y Dasg |
Ar gael o |
Cwblhau erbyn |
|
Myfyrwyr Gwyddor Milfeddygaeth |
Cofrestru Ar-lein |
9.00yb - Dydd Iau, 10 Medi 2026 |
5.00yp - Dydd Mercher, 16 Medi 2026 |
Myfyrwyr Israddedig Newydd
Bydd y tasgau Rhag-Gofrestru a Chofrestru Ar-lein yn ymddangos o dan Fy Nhasgau ar eich Cofnod Myfyriwr. Unwaith y byddwch wedi gwblhau’r dasg Rhag-Gofrestru a’r Adran(nau) gymeradwyo eich dewisiadau, byddwch yn gallu cwblhau’r Dasg Cofrestru Ar-lein.
Mae rhaid i chi fod â’r rhwydwaith y Brifysgol (ar y campws neu drwy fewnrwyd y Brifysgol) er mwyn cwblhau eich Cofrestru Ar-lein. Ni fyddwch yn gallu cwblhau Cofrestru Ar-lein trwy ddefnyddio VPN, nac ar unrhyw rwydwaith arall.
|
Grŵp Myfyrwyr |
Y Dasg |
Ar gael o |
Cwblhau erbyn |
|
Myfyrwyr Israddedig Newydd |
Rhag-Gofrestru |
9.00yb - Dydd Llun, 14 Medi |
5.00yp - Dydd Llun, 21 Medi |
|
Myfyrwyr Israddedig Newydd |
Cofrestru Ar-lein |
9.00yb - Dydd Mawrth, 22 Medi |
5.00yp - Dydd Mercher, 23 Medi |
Myfyrwyr Israddedig sy’n Dychwelyd (Rhan 2: o Flwyddyn 2 ymlaen)
Noder - bydd eich Tasgau Cofrestru yn ddibynnol ar os wnaethoch chi gwblhau Rhag-Gofrestru yng Ngwanwyn 2026.
Myfyrwyr sy’n Dychwelyd ni wnaeth gwblhau Rhag-Gofrestru yng Ngwanwyn 2026
Ni fyddwch yn medru cwblhau’r Dasg Rhag-Gofrestru ar eich Cofnod Myfyriwr ym mis Medi os ydych yn fyfyriwr sy’n dychwelyd ni wnaeth gwblhau’r dasg Rhag-Gofrestru yng Ngwanwyn 2026. Bydd angen i chi ymweld â Thimau Gweinyddol y Cyfadrannau ar y Desgiau Cymorth Cofrestru yn Llyfrgell Hugh Owen yn ystod yr Wythnos Groeso. Byddant yn cofnodi eich dewisiadau ar eich rhan neu, os bydd angen, yn eich cyfeirio at eich adran(nau). Anogir i chi wneud hyn cyn gynted a bydd modd, o fewn yr amser a nodir isod, i osgoi unrhyw oedi cwblhau’r dasg Cofrestru Ar-lein.
Unwaith i’r modiwlau gael ei gymeradwyo, byddwch yn gallu cwblhau’r Dasg Cofrestru Ar-lein - a fydd yn ymddangos o dan Fy Nhasgau ar eich Cofnod Myfyriwr
Mae rhaid i chi fod â’r rhwydwaith y Brifysgol (ar y campws neu drwy fewnrwyd y Brifysgol) er mwyn cwblhau eich Cofrestru Ar-lein. Ni fyddwch yn gallu cwblhau Cofrestru Ar-lein trwy ddefnyddio VPN, nac ar unrhyw rwydwaith arall.
|
Grŵp Myfyrwyr |
Y Dasg |
Ar gael o |
Cwblhau erbyn |
|
Myfyrwyr IR sy’n Dychwelyd |
Dewis Modiwlau trwy eich Adran(nau) |
9.00yb - Dydd Llun, 21 Medi |
5.00yp - Dydd Mercher, 23 Medi |
|
Myfyrwyr IR sy’n Dychwelyd (Heb gwblhau Rhag-Gofrestru yng Ngwanwyn 2026) |
Cofrestru Ar-lein |
9.00yb - Dydd Llun, 21 Medi |
5.00yp - Dydd Mercher, 23 Medi |
Myfyrwyr sy’n Dychwelyd sydd wedi cwblhau Rhag-Gofrestru yng Ngwanwyn 2026
Os ydych chi’n fyfyriwr sy’n dychwelyd a wnaeth gwblhau’r dasg Rhag-Gofrestru nôl yng Ngwanwyn 2026, yr unig dasg bydd angen i chi gwblhau ym mis Medi yw’r Dasg Cofrestru Ar-lein.
Bydd y Dasg Cofrestru Ar-lein yn ymddangos o dan Fy Nhasgau ar eich Cofnod Myfyriwr.
Os bydd angen newid eich dewisiadau, gofynnir i chi ymweld â’ch adran(nau) ar y Desgiau Cymorth Cofrestru yn Llyfrgell Hugh Owen yn ystod yr Wythnos Groeso cyn i chi gwblhau’r dasg Cofrestru Ar-lein. Bydd yr adrannau'n gallu cynghori ac yn diweddaru eich dewisiadau cyn i chi gwblhau Cofrestru Ar-lein.
Mae rhaid i chi fod â’r rhwydwaith y Brifysgol (ar y campws neu drwy fewnrwyd y Brifysgol) er mwyn cwblhau eich Cofrestru Ar-lein. Ni fyddwch yn gallu cwblhau Cofrestru Ar-lein trwy ddefnyddio VPN, nac ar unrhyw rwydwaith arall.
|
Grŵp Myfyrwyr |
Y Dasg |
Ar gael o |
Cwblhau erbyn |
|
Myfyrwyr IR sy’n Dychwelyd |
Cofrestru Ar-lein |
9.00yb - Dydd Iau, 17 Medi 2026 |
5.00yp - Dydd Mercher, 23 Medi 2026 |
Myfyrwyr Dysgu o Bell
Noder nad oes angen i’r myfyrwyr Dysgu o Bell gwblhau’r dasg Rhag-Gofrestru. Gellir prynu modiwlau newydd drwy'r siop ar-lein, yn unol â chyngor eich Adran.
Bydd y Dasg Cofrestru Ar-lein yn ymddangos o dan Fy Nhasgau ar eich Cofnod Myfyriwr.
Ni ddisgwylir i chi gwblhau Cofrestru Ar-lein ar gampws Aberystwyth os ydych yn fyfyrwyr sy’n astudio ar gwrs Dysgu o Bell le cyflwynir y cwrs o bell.
Myfyrwyr Dysgu o Bell Newydd
Bydd Cofrestru Ar-lein ar gael i chi 9 diwrnod cyn y dyddiad cychwyn a nodir ar eich llythyr cynnig. Mae angen i chi gwblhau'r dasg o fewn 14 diwrnod o ddyddiad cychwyn eich cwrs.
Myfyrwyr Dysgu o Bell sy’n Dychwelyd
Noder y bydd y Dasg Cofrestru Ar-lein ar gael o ddydd Sadwrn 12 Medi i fyfyrwyr Dysgu o Bell sy’n Dychwelyd. Er hyn, ni fydd cymorth ar gael tan ddydd Llun 14 Medi - gweler y wybodaeth isod.
|
Grwp Myfyrwyr |
Y Dasg |
Tasg ar gael o |
Argymhellir Cwblhau Erbyn |
|
Myfyrwyr Dysgu o Bell sy’n Dychwelyd |
Cofrestru Ar-lein |
9:00yb - Dydd Sadwrn, 12 Medi 2026 |
5:00yp - Dydd Mercher, 23 Medi 2026 |
Os ydych angen cymorth, gallwch gysylltu â'r Gofrestrfa Academaidd - Tîm Gweinyddiaeth Addysg Myfyrwyr:
- Defnyddiwch y gwasanaeth Sgwrs ar eich Cofnod Myfyriwr
- E-bost: ugfstaff@aber.ac.uk
- Ffôn: +44 (0)1970 622945
Myfyrwyr Nyrsio Milfeddygol
Noder nad oes angen i fyfyrwyr Nyrsio Milfeddygol gwblhau’r dasg Rhag-Gofrestru. Bydd yr adran yn cynnig arweiniad modiwlau yn uniongyrchol.
Bydd y Dasg Cofrestru Ar-lein yn ymddangos o dan Fy Nhasgau ar eich Cofnod Myfyriwr.
Mae rhaid i chi fod â’r rhwydwaith y Brifysgol (ar y campws neu drwy fewnrwyd y Brifysgol) er mwyn cwblhau eich Cofrestru Ar-lein. Ni fyddwch yn gallu cwblhau Cofrestru Ar-lein trwy ddefnyddio VPN, nac ar unrhyw rwydwaith arall.
|
Grŵp Myfyrwyr |
Y Dasg |
Ar gael o |
Cwblhau erbyn |
|
Myfyrwyr Nyrsio Milfeddygol |
Cofrestru Ar-lein |
9.00yb - Dydd Llun, 21 Medi 2026 |
5.00yp - Dydd Mercher, 23 Medi 2026 |
Myfyrwyr sy’n astudio gyda Cholegau Partneriaeth / Rhyddfraint
Noder nad oes angen i’r myfyrwyr sy’n astudio gyda Cholegau Partneriaeth/Rhyddfraint gwblhau’r dasg Rhag-Gofrestru.
Bydd y Dasg Cofrestru Ar-lein yn ymddangos o dan Fy Nhasgau ar eich Cofnod Myfyriwr.
Bydd angen i fyfyrwyr sy'n astudio trwy un o'n lleoliadau Partner/Rhyddfraint fod yn bresennol yn eich coleg ac ar rwydwaith y coleg i gwblhau Cofrestru Ar-lein, ac nid Aberystwyth.
Dilynwch Amserlen eich Coleg ar gyfer gweithgareddau.
|
Grwp Myfyrwyr |
Y Dasg |
Tasg ar gael o |
Argymhellir Cwblhau Erbyn |
|
Lleoliad Coleg Partner / Rhyddfraint |
Cofrestru Ar-lein |
9.00yb - Dydd Mawrth, 22 Medi |
5.00yp - Dydd Mercher, 23 Medi |
|
Lleoliad Coleg Partner / Rhyddfraint |
Cofrestru Ar-lein |
9.00yb - Dydd Iau, 17 Medi 2026 |
5.00yp - Dydd Mercher, 23 Medi 2026 |
Os ydych angen cymorth, gallwch gysylltu â'r Gofrestrfa Academaidd - Tîm Gweinyddiaeth Addysg Myfyrwyr:
- Defnyddiwch y gwasanaeth Sgwrs ar eich Cofnod Myfyriwr
- E-bost: ugfstaff@aber.ac.uk
- Ffôn: +44 (0)1970 622945
Cofrestru'n Hwyr
Am ragor o wybodaeth am cofrestru'n hwyr, gweler y dudalen Cofrestru'n Hwyr
Cofrestru ar Adegau Eraill o’r Flwyddyn
Dylai fyfyrwyr sydd yn dechrau yn ystod unrhyw amser heblaw am fis Medi gysylltu â'u hadran yn uniongyrchol i gael cyngor ar fodiwlau.
Bydd disgwyl i’r adran nodi’r modiwlau a gymeradwywyd ar eich Cofnod Myfyriwr. Yna bydd angen i chi gwblhau'r Dasg Cofrestru Ar-lein.
Dylai’r Dasg Cofrestru Ar-lein, fel arfer, fod ar gael i chi o leiaf 5 diwrnod cyn eich dyddiad cychwyn a rhaid ei gwblhau o fewn 5 diwrnod o'ch dyddiad cychwyn swyddogol. Bydd y Dasg Cofrestru Ar-lein yn ymddangos o dan Fy Nhasgau ar eich Cofnod Myfyriwr.
Angen Cymorth?
Cymorth Sydd ar Gael i Gwblhau'r Dasg Cofrestru
Yn ystod yr Wythnos Groeso, ewch i’r Ddesg Gymorth Cofrestru yng nghyntedd Llyfrgell Hugh Owen:
- Dydd Llun 21 Medi, 9:00yb i 5:00yp
- Dydd Mawrth 22 Medi, 9:00yb to 5:00yp
- Dydd Mercher 23 Medi, 9:00yb to 5:00yp
Gallwch hefyd gysylltu â'r Gofrestrfa Academaidd - Tîm Gweinyddiaeth Addysg Myfyrwyr:
- Defnyddiwch y gwasanaeth Sgwrs ar eich Cofnod Myfyriwr
- E-bost: ugfstaff@aber.ac.uk
- Ffôn: +44 (0)1970 622945
Dolenni Defnyddiol
- Tasgau a Gwybodaeth Cofrestru: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/students/ug-issues/registration/
- Cofnod Myfyriwr: https://studentrecord.aber.ac.uk
- Wythnos Groeso: https://www.aber.ac.uk/cy/new-students/freshers/
- Adrannau a Chyfadrannau: https://www.aber.ac.uk/cy/about-us/departments-faculties/
- Ffioedd a Chyllid Myfyrwyr: https://www.aber.ac.uk/cy/student-finance/
- Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr: https://www.aber.ac.uk/cy/student-support/
