Rhag Gofrestru

Cyfarwyddiadau Gam wrth Gam

Y modiwlau sy'n ymddangos ar eich cofnod [blwyddyn academaidd (2023/2024)] yw'r modiwlau craidd ar gyfer eich cynllun astudio y sesiwn nesaf. Dilynwch y camau isod i rhag gofrestru ar gyfer yr holl fodiwlau yr ydych wedi eu dewis ar gyfer y sesiwn nesaf.

CAM 1    Darllenwch y Wybodaeth Gyffredinol am Rhag Gofrestru.

CAM 2    Edrychwch ar y Gofynion Adrannol ar gyfer yr holl adrannau y bwriadwch astudio ynddynt y sesiwn nesaf er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion. Dylai myfyriwr cyfnewid ac ymweld (NQUG a NQPG) sicrhau eu bod yn cwblhau'r modiwlau fel y cytunwyd ar y cytundebau dysgu

CAM 3    Edrychwch ar y Gronfa Ddata Cynlluniau Astudio er mwyn gwirio beth yw gofynion eich cynllun.

CAM 4    Edrychwch ar y Gronfa Ddata Modiwlau i gael manylion am yr holl fodiwlau a ddysgir y sesiwn nesaf.

Os ydych yn bwriadu newid eich Cynllun Astudio rhaid i chi siarad a'ch adran yn gyntaf ac yna wneud cais ar-lein trwy eich Cofnod Myfyriwr.  Dylech wedyn glicio ar y ddolen 'Cofnod Academaidd' ar ben eich tudalen cartref ac o'r rhestr o gysylltiadau yn y gwymplen cliciwch ar 'Newid Cofrestriad' cyn gynted â phosibl gan y bydd angen brosesu cyn y gallwch barhau.

Cyfnod Rhag-gofrestru: Dydd Llun 8 Ionawr hyd at Dydd Sul 14 Ionawr 2024

CAM 5    Wedi i chi fewnbynnu'ch dewisiadau modiwl ar gyfer y sesiwn nesaf ar eich 'Cofnod Myfyriwr'a chlicio ar y botwm Cadarnhewch Ddewision Rhag Gofrestru cewch ragor o gyfarwyddiadau.  Noder ei bod hi'n bosibl na fydd rhai modiwlau opsiwn yn rhedeg - er enghraifft, os yw'r niferoedd cofrestru yn rhy isel.

CAM 6  Bydd y dasg Rhag-gofrestru yn cau am 5yp dydd Sul Ionawr 2024.