Rhag-Gofrestru

Cyfarwyddiadau Gam wrth Gam

Mae'r wybodaeth isod yn ymwneud â'r cyfarwyddiadau ar y sgrin ar gyfer y dasg Rhag-Gofrestru o dan y cerdyn "Fy Nhasgau" ar eich Cofnod Myfyriwr. Dilynwch y camau isod i rhag-gofrestru'ch modiwlau dewisol ar gyfer y sesiwn nesaf (blwyddyn academaidd 2026/2027).

Noder: y modiwlau sy'n ymddangos ar eich Cofnod Myfyriwr cyn i chi gwblhau Cam 5 o'r broses Rhag-Gofrestru ar gyfer y sesiwn nesaf yw'r modiwlau craidd ar gyfer eich cynllun astudio.

Cofiwch: Mae Rhag-Gofrestru wedi'i rannu'n ddwy ran - Cyfnod Ymgynghori a Chyfnod Cofrestru Modiwlau.

Dechrau Gorffen Cyfnod Tasg
Dydd Llun, 20 Ebrill 2026 Dydd Mercher, 22 Ebrill 2026 Cyfnod Ymgynghori

Cwblhewch Gamau 1-4.

Yn ystod y cyfnod hwn bydd y data ar eich cofnod mewn fformad 'darllen yn unig', ac ni fyddwch yn gallu dewis unrhyw fodiwlau.

Dydd Iau, 23 Ebrill 2026

Dydd Gwener, 01 Mai 2026

Cyfnod Cofrestru Modiwlau

Cwblhewch Cam 5.

Bydd y cam hwn ar agor o 9yb ar 23 Ebrill. 

Cofnodwch eich modiwlau dewisol ar eich Cofnod Myfyriwr.

Cyfnod Ymgynghori: Dydd Llun 20, Ebrill – Dydd Mercher, 22 Ebrill 2026

Yn ystod y cyfnod hwn bydd y data ar eich cofnod wedi'u gloi ac ni fyddwch yn gallu cofnodi unrhyw fodiwlau (Cam 5), ond dylech defnyddio'r wybodaeth wrth ymgynghori â'r wybodaeth ar y cronfeydd data, a mynychu unrhyw gyfarfodydd adrannol.

Mae'n bwysig eich bod yn mynychu unrhyw gyfarfodydd a drefnir gan eich adran(nau) ynghylch Rhag-Gofrestru ac yn defnyddio'r amser i drafod/adolygu'r dewisiadau modiwl y sesiwn nesaf yn ystod y cyfnod hwn.

CAM 1 - Darllenwch y Wybodaeth Gyffredinol am Rhag Gofrestru.

CAM 2 - Edrychwch ar y Gofynion Adrannol ar gyfer yr holl adrannau y bwriadwch astudio ynddynt y sesiwn nesaf er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion.

CAM 3 - Edrychwch ar y Gronfa Ddata Cynlluniau Astudio er mwyn gwirio beth yw gofynion eich cynllun.

CAM 4 - Edrychwch ar y Gronfa Ddata Modiwlau i gael manylion am yr holl fodiwlau a ddysgir y sesiwn nesaf.

Newid eich Cynllun Astudio 

Os ydych chi am newid eich cynllun astudio, rhaid i chi ei drafod gyda'ch adran yn gyntaf, ac yna prosesu cais Newid Cofrestriad ar y we trwy eich Cofnod Myfyriwr cyn i chi allu cwblhau Rhag-Gofrestru.  Ewch i'r cerdyn "Gwneud Newidiadau i Fy Nghwrs", yna dewiswch "Rwyf am newid fy nghynllun neu fy modiwlau". Dylai ffenestr naid ymddangos i'ch ailgyfeirio i sgrin wahanol. O'r fan hon, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin. Mae rhagor o ganllawiau ar gael ar y dudalen Newid Cynllun Astudio neu Fodiwl.

Cyfnod Cofrestru ar gyfer modiwlau: Dydd Iau, 23 Ebrill – Dydd Gwener, 1 Mai 2026

Bydd eich cofnod yn cael ei ddatgloi am 9 y.b. ar y 23 Ebrill.  Yn ystod y cyfnod cofrestru byddwch yn medru cofnodi eich dewis o fodiwlau ar gyfer y sesiwn nesaf ar ôl i chi ymgynghori â’ch adran(nau).

CAM 5  -   Mewnbynnwch eich dewisiadau modiwl a chliciwch ar y botwm "Cadarnhau Dewisiadau Cyn-Gofrestru" i gwblhau'r broses a derbyn cyfarwyddyd pellach.

Noder:

  • Efallai y byddwch yn gweld dau fotwm yn ystod y broses - "Cadw Newidiadau" a "Cadarnhau Dewisiadau Cyn-Gofrestru". Nid yw cadw newidiadau yn unig yn cyflwyno eich dewisiadau - rhaid i chi sicrhau eich bod yn dewis "Cadarnhau Dewisiadau Cyn-Gofrestru" i gyflwyno eich dewisiadau a chwblhau'r broses.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi dewis y nifer gofynnol o gredydau sy'n angenrheidiol ar gyfer eich cynllun (fel arfer 120, gan gynnwys modiwlau craidd).
  • Mae'n bosibl na fydd rhai modiwlau dewisol yn rhedeg - er enghraifft, os yw niferoedd cofrestru yn rhy isel neu os oes unrhyw newidiadau staffio annisgwyl yn dilyn diwedd Rhag-Gofrestru.
  • Os ydych chi'n cael trafferth cwblhau'r tasgau, neu'n dod ar draws negeseuon gwall nad ydynt yn caniatáu ichi symud ymlaen, cysylltwch â'ch adran neu ugfstaff@aber.ac.uk mewn da bryd am gymorth ac arweiniad pellach.

CAM 6  - Sicrhewch eich bod yn cwblhau Rhag-Gofrestru ar-lein erbyn dydd Gwener 1 Mai 2026 fan bellaf.