Newid enw
Newid Enw
Gallwch roi gwybod eich bod am newid eich enw yn uniongyrchol ar eich Cofnod Myfyriwr ar y we. Gellir newid mân newidiadau, er enghraifft enwau wedi'u camsillafu, heb yr angen i ddarparu dogfennaeth a phrawf o hunaniaeth.
Fodd bynnag, os oes newid sylweddol i'ch enw, bydd angen rhywfaint o ddogfennaeth swyddogol arnom i ddangos eich enw newydd a phrawf o hunaniaeth e.e.. tystysgrif priodas, tystysgrif gweithred newid enw, pasbort, trwydded yrru neu gerdyn adnabod. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn anfon e-bost atoch a gofyn i chi ddarparu dogfennaeth. Unwaith y byddwn yn derbyn y ddogfennaeth ofynnol, bydd eich enw yn cael ei newid fel arfer o fewn 5 diwrnod gwaith.
Unwaith y bydd eich enw wedi newid ar ein cofnodion, byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau bod y newid wedi'i wneud a bydd eich enw newydd yn ymddangos ar eich Cofnod Myfyriwr ar y we. Os oes angen cerdyn myfyriwr newydd arnoch, dylech gysylltu ag is@aber.ac.uk neu ymweld â'r ddesg gymorth yn Llyfrgell Hugh Owen a gofyn am gerdyn newydd ond dim ond ar ôl i'ch enw newid ar eich cofnod myfyriwr.
Goblygiadau newid eich enw a'ch tystysgrif gradd
Mae'n bwysig eich bod yn deall y gall newid eich enw swyddogol gael goblygiadau ar ôl i chi adael y Brifysgol. Dylech fod yn ymwybodol y dylai eich tystysgrif gradd derfynol a rhai dogfennau swyddogol fel eich pasbort fod â'r un enw, os nad oes gan y dogfennau hyn yr un enw union efallai y byddwch yn cael problemau yn y dyfodol ac unwaith y bydd y dystysgrif gradd derfynol wedi'i chyhoeddi nid yw'n bosibl cael un arall mewn enw (neu sillafiad) gwahanol felly mae'n hanfodol eich bod yn gwirio bod eich enw yn gywir ac yn rhoi gwybod i ni ar unwaith os yw'n anghywir. Rhaid i chi roi gwybod i ni ugfstaff@aber.ac.uk am unrhyw newidiadau y mae angen i chi eu gwneud i'ch enw erbyn diwedd mis Mai yn eich blwyddyn olaf fan bellaf.
Myfyrwyr trawsryweddol ac rhywedd amrywiol
Mae'r Brifysgol yn cynnig cefnogaeth a chyngor i fyfyrwyr trawsryweddol a rhywiol-amrywiol ac mae rhagor o wybodaeth ar gael yma. Gall myfyrwyr trawsryweddol a myfyrwyr sy'n amrywiol o ran rhywedd gael tystysgrif newydd yn yr enw newydd ar ôl dychwelyd y dystysgrif wreiddiol.
Rydym yn cynghori myfyrwyr trawsryweddol a rhywiol-amrywiol i ymgysylltu â'r Tîm Hygyrchedd a Chynhwysiant ynghylch newid eu henw. Gall y tîm eich helpu i gydlynu eich newid enw a byddant hefyd yn eich helpu gyda pha wasanaethau eraill y gallech fod eisiau eu hysbysu.
Myfyrwyr ar fisa
Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol ac yn dymuno newid eich enw, mae Gwasanaeth Cymorth a Chyngor Fisa'r brifysgol yma i'ch helpu chi drwy'r broses. Dylech gysylltu â'n gwasanaeth cymorth a chyngor cyn i chi wneud cais i newid eich enw drwy eich cofnod myfyriwr. Bydd gofyn i fyfyrwyr ar fisa ddiweddaru eu manylion ar eu cyfrif UKVI. Mae'n bwysig iawn bod eich pasbort a'ch tystysgrif gradd yr un enw yn union. Ar ôl i'r dystysgrif gradd derfynol gael ei hargraffu, NID yw'n bosibl cael tystysgrif gradd arall yn eich enw newydd.
Enw Adnbyddir fel
Mae'n bwysig bod myfyrwyr yn deall NAD yw'r opsiwn 'enw adnabyddur fel' ar eich cofnod myfyriwr wedi'i gynllunio i fyfyrwyr newid eu henw swyddogol; mae hyn yn cynnwys myfyrwyr trawsryweddol a rhywiol-amrywiol. Mae'r opsiwn hwn wedi'i gynllunio i fyfyrwyr gael eu hadnabod yn gyffredinol wrth yr enw a roddir yn yr 'enw adnabyddur fel'. Fel arfer, bydd yr 'enw adnabyddur fel' yn diweddaru eich enw ar systemau y gall eich tiwtoriaid personol fewngofnodi iddynt, ond nid yw'n ffordd ddibynadwy o newid eich enw. Eich enw llawn a swyddogol yw'r enw sydd wedi'i gofnodi ar system gofnodion canolog y brifysgol o hyd, a'ch enw swyddogol, nid eich enw adnabyddur fel, fyddai'n cael ei ddefnyddio gan swyddogion y Brifysgol i gysylltu â chi a'i ddefnyddio ym mhob gohebiaeth, gan gynnwys llythyrau swyddogol, trawsgrifiadau a'r dystysgrif gradd. Datblygwyd yr opsiwn 'enw adnabyddur fel' fel y gellir, er enghraifft, adnabod Tomos fel Tom, neu Rhiannon fel Rhi.
ID Aber
Gall myfyrwyr sydd am newid eu henw ar draws pob system ar draws y Brifysgol ond nad oes ganddynt ddogfennaeth swyddogol eto i gefnogi newid i'w henw swyddogol ofyn am ID Aber. Byddai'r ID Aber yn newid eich enw ar draws pob system yn y Brifysgol. I newid ID Aber mae angen i chi wneud cais i newid eich enw trwy eich Cofnod Myfyriwr yn y ffordd arferol ond pan ofynnir y cwestiwn 'A yw'r newid hwn o natur sensitif' dylech glicio 'ydy'. Bydd y Tîm Hygyrchedd a Chynhwysiant yn cysylltu â chi ac yn trefnu i'ch enw gael ei ddiweddaru.
Dylech nodi nad yw newid eich ID Aber yn newid eich enw swyddogol ac felly ni fydd eich tystysgrif gradd yn cael ei hargraffu nes i chi ddarparu dogfennaeth i'r brifysgol i newid eich enw swyddogol. Bydd y Tîm Hygyrchedd a Chynhwysiad yn gallu eich helpu a'ch cynghori ar hyn.
Os oes angen i chi drafod newid eich enw ar eich cofnod myfyriwr, gallwch gysylltu â ni drwy e-bost i ugfstaff@aber.ac.uk